Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr

Mae prosiect ar y gweill sy’n gweld llysiau o ffarm sirol yn Sir Gaerfyrddin yn bwydo plant mewn ysgol uwchradd gyfagos.

Bydd llysiau lleol – wedi’u tyfu’n organig, eu cynaeafu a’u prosesu ar fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne – yn cael eu cludo i Ysgol Bro Dinefwr a’u gweini i ddisgyblion fel rhan o giniawau thema yn ystod eu diwrnod ysgol.

Mae’r cynllun hwn yn bartneriaeth rhwng yr ysgol, Adran Arlwyo Cyngor Sir Gaerfyrddin a menter o’r enw Prosiect Datblygu Systemau Bwyd – prosiect sy’n cael ei arwain gan bartneriaid o bartneriaeth fwyd Bwyd Sir Gâr sy’n edrych ar sut ry’n ni’n cynhyrchu, gwerthu, hyrwyddo a bwyta bwyd lleol a chynaliadwy yn Sir Gâr.

Ar ôl cymryd drosodd gwaith dydd i dydd Bremenda Isaf, ffarm Gyngor cant erw yn Llanarthne, mae tîm y prosiect yn treialu ffyrdd newydd o gael llysiau lleol i blatiau ysgolion cynradd a chartrefi gofal y Sir. Mae’r datblygiad cyffrous hwn gydag Ysgol Bro Dinefwr yn rhan o’r gwaith hwnnw.

Yn defnyddio dulliau ffermio natur gyfeillgar, mae’r tîm ym Mremenda Isaf yn tyfu amrywiaeth o lysiau fydd yn cyrraedd prydau bwyd ysgolion a chartrefi gofal, yn sicrhau bod trigolion ifancaf a henaf y sir yn cael budd o gynnyrch, ffresh, lleol o safon uchel. Mae cnydau yn amrywio o ciwcymbyr i foron a sbrowts i bwmpenni gyda’r llysiau canlynol yn gwneud eu ffordd i Ysgol Bro Dinefwr, a fydd yn golygu bod dros 40kg o lysiau lleol yn cael eu gweini ar blatiau ysgol ar y diwrnod cyntaf:

  • Ciwcymbr
  • Ffenigl
  • Ffa Rhedwr
  • Brocoli Egin-Porffor
  • Tomatos
  • Chard Enfys
  • Betys

“Rydym yn falch iawn o weld y cnydau cyntaf o ffarm sirol Bremenda Isaf yn gwneud eu ffordd ar blatiau myfyrwyr Bro Dinefwr,” meddai Chris Pugh, Uwch Reolwr Arlwyo Cyngor Sir Gaerfyrddin. “Mae efnyddio cynnyrch ffres o ansawdd uchel a dyfwyd yn lleol, ar ein bwydlen yn gam cyntaf cyffrous cyntaf ym mhrosiect datblygu systemau bwyd ehangach yr adran arlwyo. Mae’n Cogyddion yn edrych ymlaen at ddangos sut y gellir hyrwyddo cynnyrch lleol fel rhan o amrywiaeth o brydau cyffrous gyda blas o bedwar ban byd.”

Ychwanega Alex Cook, Rheolwr y Prosiect Datblygu Systemau Bwyd: “Mae datblygu a dylunio bwydlenni yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu bwyd cynaliadwy, lleol ar y plât cyhoeddus. Trwy gyflogi tyfwyr yn uniongyrchol i gynhyrchu’r bwyd, dyma ddatrysiad arloesol a chydweithredol sy’n dangos effaith cyfathrebu da rhwng y galw, y cyflenwad a’r dosbarthu.  Dyma gam gwych ymlaen, gyda phartneriaid yn cydweithio tuag at greu Systemau Bwyd Sir Gaerfyrddin sy’n cynhyrchu, yn darparu ac yn hyrwyddo bwyd cynaliadwy ac iach ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.”

Mae’r fferm hefyd yn tyfu grawn wrth iddo archwilio dychwelyd i ffyrdd traddodiadol o ffermio cymysg sydd yn garedig i natur ac yn cymryd i ystyriaeth treftdaeath y ffarm a’r diwylliant bwyd lleol.  Mae hyn wedi cael ei ystyried mewn mwy o fanylder fel rhan o’r Prosiect Treftadaeth sydd wedi bod yn annog pobl lleol i feddwl am y fferm, y cynnyrch a’r tir, ac yn gofyn i gyfranogwyr ymateb i sut mae hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo trwy gelf, barddoniaeth a chân.

Yn ogystal â threialu’r prosiect arloesol yn Mremenda Isaf, mae’r prosiect hefyd yn gweithio gyda thîm o ddeitetegwyr yn Mwrdd Iechyd Hywel Dda i ddatblygu sgiliau coginio a maeth pobl, tra’n partneru gyda Rhwydwaith Fwyd Sir Gaerfyrddin i ddatblygu cysylltiadau cymunedol trwy fwyd ym mhob cornel o’r sir.

Meddai’r Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet dros aterion Gwledig, Cynllunio a Chydlyniant Cymunedol Cyngor Sir Gâr: “Mae’n wych gweld y prosiect hwn yn cyflawni ei dargedau gyda bwyd ffres, lleol a hynod faethlon yn cael ei gynhyrchu’n effeithlon yma yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer ein plant ysgol. Mae gwaith Systemau Bwyd yn cwmpasu llawer o’n hamcanion strategol fel Cyngor, popeth o’r Economi Wledig a’r Amgylchedd i Iechyd Cymunedol a Threchu Tlodi. Mwy o Ffermwyr, Mwy o Fwyd, Mwy o Wytnwch.”

Mae’r prosiect wedi ariannu datblygu gwefan hefyd i godi ymwybyddiaeth o waith Bwyr Sir Gâr Food ac i gael cymaint o bobl o’r sir yn rhan o adeiladu dyfodol bwyd gwell i ni gyd.

Mae Bwyd Sir Gâr Food hefyd yn rhan o brosiect cenedlaethol, sef Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion – menter a gydlynir gan Synnwyr Bwyd Cymru sy’n anelu at gynnwys mwy o lysiau organig wedi’u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru.  Bydd llysiau o Fremenda Isaf yn cael eu cyflenwi i ysgolion ar draws chwe awdurdod lleol sy’n cymryd rhan yn y prosiect. Yn Sir Gaerfyrddin, mae’r llysiau sy’n cael eu tyfu fel rhan o Lysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn cael eu dosbarthu i ysgolion yn ystod Pythefnos Bwyd Prydeinig, sef Medi’r 10fed – Hydref 6ed.

Gan weithio gyda phartneriaid sy’n gynnwys Castell Howell, adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio a thyfwyr bwyd brwdfrydig hefyd, mae’r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn helpu i gynnwys mwy o lysiau organig sydd wedi’u tyfu’n lleol mewn cinio ysgol.  Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn ceisio ailgynllunio cadwyni cyflenwi i’w gwneud yn fwy teg ac yn fwy cadarn. Mae’n ychwanegu hefyd at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cynnig pryd ysgol am ddim a bod y bwyd sy’n cael ei ddefnyddio i goginio’r pryd hwnnw yn dod gan gyflenwyr lleol, pan fo hynny’n bosibl. 

Gan mai dim ond oddeutu chwarter dogn llysiau y pen o’r boblogaeth sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd, mae gan y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, ynghyd â’r prosiect peilot sy’n cael ei ddatblygu gyda Ysgol Bro Dinefwr a ffarm Bremenda Isaf, ill dau y potensial nid yn unig i gynyddu’r farchnad leol gan effeithio’n bositif ar yr economi leol, ond hefyd y gallu i helpu plant i gysylltu â’u bwyd ac i ddeall yn well o ble daw eu bwyd.

Lansio gwefan Bwyd Sir Gâr Food

Heddiw, caiff gwefan Bwyd Sir Gâr Food ei lansio – llwyfan newydd a fydd yn helpu i rannu gwaith gwych partneriaeth fwyd Sir Gaerfyrddin. Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cael eu lansio yn ogystal â brand newydd sbon.

Bwyd Sir Gâr Food yw partneriaeth fwyd lleol Sir Gaerfyrddin a’i nod yw datblygu system fwyd lewyrchus, gynaliadwy, gynhwysol a gwydn ledled y sir. Mae partneriaethau bwyd yn dod â phartneriaid o amrywiaeth o wahanol sectorau at ei gilydd i helpu i fynd i’r afael ag ystod eang o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan ymdrechu i sicrhau bwyd da i bawb. Mae Bwyd Sir Gâr Food hefyd yn aelod o’r rhwydwaith
Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a dyfarnwyd statws efydd i’r bartneriaeth llynedd.

Ymhlith y partneriaid allweddol yn Sir Gaerfyrddin y mae Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS), Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Synnwyr Bwyd Cymru a Chastell Howell.

Bydd y wefan newydd yn rhannu gwybodaeth am y bartneriaeth – beth mae’n ei gwneud, pwy sy’n cymryd rhan a’r prosiectau bwyd niferus y mae’n helpu i’w cyflawni a’u cefnogi yn Sir Gaerfyrddin. Bydd y sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac mae brand newydd hefyd wedi’i ddatblygu sy’n dynodi gwreiddiau’r sir ac yn cynrychioli twf, tirwedd, treftadaeth a chwedloniaeth.

“Rydym yn falch iawn o fod yn lansio ein gwefan heddiw,” meddai Augusta Lewis, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Sir Gaerfyrddin. “Mae bwyd yn thema drawsbynciol sy’n dylanwadu ar iechyd a llesiant cymunedol, yr economi leol, a’r amgylchedd. Mae defnyddio dull ‘system gyfan’ aml-sector wedi’n galluogi i ddod yn fwy na’n cydrannau unigol, ac i weithio ar y cyd ar gyfer y nod cyffredin o sicrhau system fwyd leol gynaliadwy, gynhwysol, wydn ac amrywiol sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym wedi datblygu prosiectau yn seiliedig ar yr hyn y mae cymunedau Sir Gaerfyrddin wedi dweud wrthym y mae ei eisiau a’i angen, ac rydym wrth ein bodd bod ein hymdrechion wedi cael eu cydnabod yn y gorffennol wrth i ni ennill ein gwbor efydd. Rydym ‘nawr yn awyddus i adeiladu ar y gwaith sylfaenol hwn, gan ymgysylltu ymhellach â chymunedau, busnesau, y sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus, i greu system fwyd ffyniannus, amrywiol, iach a gwydn ar gyfer y sir. Byddwch yn gallu darganfod mwy – gan hefyd ddilyn ein cynnydd – ar ein gwefan newydd a sianeli cyfryngau cymdeithasol.”

Mae effaith Bwyd Sir Gâr Food yn ymestyn ar draws y sir ac mae prosiectau a mentrau diweddar wedi cynnwys:

  • Gweithredu rhaglen beilot sy’n archwilio caffael cyhoeddus lleol a chynaliadwy
  • Datblygu prosiect cymunedol drwy Rwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin
  • Datblygu prosiect Prydau Ysgol gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru
  • Gweithio gyda Synnwyr Bwyd Cymru i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol trwy brosiect Llysiau Cymru mewn Ysgolion
  • Gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i helpu i lunio Strategaeth Fwyd ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Bod yn rhan o Gylch Peiriannau a ddatblygwyd ac a ddarperir gan Social Farms & Gardens a fydd yn galluogi tyfwyr ar raddfa fach i fenthyg peiriannau i’w defnyddio ar eu tir yn Sir Gaerfyrddin

Mae’r wefan a’r gwaith cyfathrebu ehangach wedi’u hariannu fel rhan o Brosiect Datblygu Systemau Bwyd – mentersy’n anelu at ddatblygu system fwyd leol ffyniannus, gynaliadwy a chynhwysol.

Gan adeiladu ar ei waith presennol, nod Prosiect Datblygu System Fwyd Bwyd Sir Gâr yw gwella’r system fwyd leol ar
gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ac mae’n canolbwyntio ar:

  1. Cysylltu Cymunedau a Mynediad Cymunedol i Fwyd Iach
  2. Datblygu safle cynhyrchu ffrwythau a llysiau cynaliadwy ar raddfa cae yn Fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne
  3. Cyfathrebu: Adeiladu ‘Mudiad Bwyd Da’

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: “Mae’n wych gweld gwefan Bwyd Sir Gâr yn cael ei lansio heddiw. Mae’r bartneriaeth yn arwain ar rai prosiectau bwyd gwirioneddol drawsnewidiol ar draws y sir ac yn cyd-fynd ag amcan llesiant y Cyngor Sir i alluogi’n cymunedau a’n hamgylchedd i fod yn iach, diogel a llewyrchus. Mae’r fenter hon hefyd yn cyfrannu at uchelgais y Cyngor i ddod yn awdurdod lleol sero-net drwy weithio tuag at leihau’n sylweddol y milltiroedd bwyd o gynnyrch, o’r cae i’r fforc, sydd ar gael i’w gymunedau.”

Gwefan newydd: www.bwydsirgarfood.org

X: @bwydsirgar

Facebook: @bwydsirgarfood

Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion

Mae Bwyd Sir Gâr Food yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion – menter a gydlynir gan Synnwyr Bwyd Cymru sy’n anelu at gynnwys mwy o lysiau organig wedi’u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru.

Gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Castell Howell, adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio a thyfwyr bwyd brwdfrydig hefyd, mae’r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn helpu i gynnwys mwy o lysiau organig sydd wedi’u tyfu’n lleol mewn cinio ysgol.

Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn ceisio ailgynllunio cadwyni cyflenwi i’w gwneud yn fwy teg ac yn fwy cadarn. Mae’n ychwanegu hefyd at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cynnig pryd ysgol am ddim a bod y bwyd sy’n cael ei ddefnyddio i goginio’r pryd hwnnw yn dod gan gyflenwyr lleol, pan fo hynny’n bosibl. Gan mai dim ond oddeutu chwarter dogn llysiau y pen o’r boblogaeth sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd, mae gan Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru y gallu i ddatblygu’r farchnad er mwyn helpu i wireddu’r ymrwymiad hwn.

Dechreuodd Synnwyr Bwyd Cymru ymchwilio i’r broses o brynu llysiau wedi’u tyfu’n lleol drwy’r ‘Cynllun Peilot Courgettes’ – sef cynllun peilot a oedd yn cynnwys un tyfwr bwyd ac un cyfanwerthwr a lwyddodd i ddosbarthu bron i 1 tunnell o courgettes i ysgolion cynradd Caerdydd yn ystod rhaglen Bwyd a Hwyl haf 2022. Bwyd Caerdydd, sef partneriaeth bwyd lleol y brifddinas, oedd yn hyrwyddo’r cynllun peilot, gan gynorthwyo i ddod â’r holl bartneriaid ynghyd, gan gynnwys Blas Gwent, Arlwyo Addysg Cyngor Caerdydd ac adran deieteg iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Castell Howell.

Yn 2023, gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, datblygodd y prosiect caffael hwn i fod yn gam cyntaf Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru gan weithio gyda thri thyfwr bwyd mewn tair ardal awdurdod lleol a gyda chefnogaeth cydlynwyr y partneriaethau bwyd lleol yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy. Mae’r prosiect hefyd wedi cael cymorth gan Gyngor Sir Fynwy drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Yn ystod Gwanwyn 2024, cafodd Synnwyr Bwyd Cymru arian ychwanegol gan Pontio’r Bwlch – rhaglen a arweinir gan Sustain, Growing Communities ac Elusen Alexandra Rose – i ehangu’r gwaith ymhellach ac i greu rhwydwaith ehangach byth o arbenigedd a chymorth. Bydd y cam hwn o ymchwil gweithredol yn gweithio gyda mwy o dyfwyr bwyd ac awdurdodau lleol; yn ymchwilio sut i bontio’r bwlch rhwng costau cynnyrch confensiynol a llysiau wedi’u tyfu’n gynaliadwy yng Nghymru; a phrofi sawl dull i ganfod sut beth yw ‘cynllun buddsoddi cynaliadwy’. Y nod yw datblygu model y gellir ei ymestyn ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Drwy gefnogi ffermio organig amaeth-ecolegol, mae’r prosiect hwn yn creu ffrwd incwm newydd neu allweddol amgen i dyfwyr bwyd ac i ffermwyr, yn ogystal â chreu cyfleoedd i blant gysylltu â natur a ffermio drwy ymweld â thyfwyr bwyd lleol.

“Prif nod Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yw sicrhau bod llysiau lleol wedi’u cynhyrchu’n gynaliadwy yn cael eu defnyddio mewn ysgolion i ddarparu maeth i’r plant drwy brydau ysgol – y mwyaf o gynnydd y byddwn yn ei wneud, y mwyaf o fanteision y gallwn eu darparu iddyn nhw,” meddai Katie Palmer, un o reolwyr Synnwyr Bwyd Cymru.

“Nid ydym yn cynhyrchu digon o lysiau yng Nghymru ac mae angen i ni allu creu ein cyflenwad ein hunain er budd cymunedau lleol ac er mwyn lleihau ein dibyniaeth ar fewnforion drwy gysylltu tyfwyr bwyd lleol â chyfanwerthwyr lleol a chreu cysylltiadau sy’n helpu busnesau i ffynnu.

“Rydym wedi wynebu nifer o heriau technegol, strwythurol a heriau’n ymwneud â’r tywydd yn ystod pob cam o’r cynllun peilot ond roedd creu cysylltiadau ar draws y gadwyn gyflenwi gyda rhanddeiliaid a defnyddio eu harbenigedd ym maes garddwriaeth yn allweddol,” meddai Katie Palmer. “Roedd hynny’n amrywio o ganfod gofynion ceginau ysgol neu benderfynu moron o ba faint y dylid eu tyfu, i ddatblygu cynlluniau achredu a chyfrifo’r logisteg, cyflenwad a datblygu’r cynnyrch – roedd gennym lawer o waith i’w wneud ond mae’r holl bartneriaid wedi buddsoddi’n helaeth yn y gwaith ac yn benderfynol o weld mwy o fwyd sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol yn cael ei weini ar blatiau’r cyhoedd yng Nghymru.”

Meddai Edward Morgan o Castell Howell: “Fel un o’r dolenni cyswllt yn y gadwyn gyflenwi, rydym yn cyflenwi bwyd i oddeutu 1000 o ysgolion ledled Cymru, ac yn cydnabod pa mor bwysig yw ailstrwythuro’r ffynonellau. Mae cydweithio â rhanddeiliaid o’r un anian, ffermwyr brwdfrydig, tyfwyr bwyd a chwsmeriaid ymrwymedig yn hollbwysig i ni allu cyflawni ein nodau cyffredin, nid dim ond o ran cyflenwi llysiau wedi’u tyfu yng Nghymru ond o ran darparu gwybodaeth a thrafod y risgiau a’r cyfleoedd mewn ffordd gwbl dryloyw. Rydym yn falch o fod yn rhan o fenter sydd wedi datblygu o gyflenwi tunnell o courgettes yn 2022 ac rydym yn edrych ymlaen at weld hyn yn parhau ac yn datblygu i fod yn rhywbeth mawr.”

Meddai Tony Little, o’r Ymgynghoriaeth Ffermio Cynaliadwy: “Mae’r prosiect hwn yn paratoi’r ffordd i lawer mwy o dyfwyr bwyd gymryd rhan yn y broses o gyflenwi’r farchnad caffael cyhoeddus. Mae’n gyfle anhygoel i archwilio sut y gallwn sefydlu cadwyni cyflenwi sy’n gweithio i bawb, yn amrywio o ddatblygu safonau cynhyrchu sy’n briodol i dyfwyr organig bach i sefydlu systemau cyfathrebu a logisteg sy’n galluogi tyfwyr bwyd i fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r farchnad hon yn eu cynnig.”

Mae’r adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn rhan annatod o ddatblygu cynllun peilot Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru ac yn rhan hanfodol o ddatblygu’r sector garddwriaeth yng Nghymru.

“Mae’r gwaith hwn yn creu llwybr i’r farchnad sy’n lleihau risg, sy’n golygu bod modd cynllunio ymlaen llaw ac sy’n cynorthwyo gyda thwf y sector gan alluogi mwy o bobl i brofi ansawdd y bwyd y gall Cymru ei gynhyrchu,” meddai Sarah Gould o adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio. “Mae’r math o gymorth rydym yn ei gynnig i dyfwyr bwyd yn golygu ein bod hefyd yn helpu i godi safonau a rhannu arfer gorau. Mae’r prosiect yn un cyffrous iawn ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi hyd yn oed mwy o dyfwyr bwyd i fod yn rhan o’r cynllun peilot.”

Mae Hannah Gibbs o Pontio’r Bwlch yn edrych ymlaen hefyd at gefnogi Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru. “Rydym yn falch o gefnogi’r cynllun peilot hwn i’w ddatblygu ymhellach ac i ychwanegu at y dystiolaeth o ran sut y gallwn sicrhau bod mwy o ffrwythau a llysiau cynaliadwy sy’n cael eu cynhyrchu’n lleol yn mynd i mewn i’r gadwyn cyflenwi bwyd gyhoeddus. Mae’r bartneriaeth anhygoel hon hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd gwych i ni ddysgu ar y cyd drwy’r cynlluniau peilot Pontio’r Bwlch mewn ysgolion eraill yn Yr Alban a Lloegr.”

Ychwanegodd Dr Amber Wheeler sy’n arwain y gwaith ymchwil ar y camau gweithredu: “Ar hyn o bryd daw’r rhan fwyaf o’r llysiau ar gyfer Ysgolion Cymru o wlad arall ac maent wedi’u rhewi fel arfer. Dengys y cynllun peilot hwn ei bod yn bosibl cynyddu faint o gynnyrch sy’n cael ei dyfu yng Nghymru, a chefnogi tyfwyr bwyd a ffermwyr drwy wneud hynny, drwy ddefnyddio marchnad y ddarpariaeth Prydau Ysgol am Ddim Awdurdodau Lleol. Rydym yn mynd o nerth i nerth ac yn datblygu’r systemau sydd eu hangen i ddarparu mwy o Lysiau o Gymru sy’n iach a ffres mewn ysgolion a hynny tra’n cefnogi systemau ffermio sy’n gwella’r amgylchedd yma yng Nghymru.”

Mae Synnwyr Bwyd Cymru eisoes yn chwilio am ffrydiau cyllido ar gyfer y dyfodol i allu datblygu’r gwaith hwn ar ôl mis Mawrth 2025 ac i gynnwys mwy o dyfwyr bwyd, awdurdodau lleol a chyfanwerthwyr. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru, gallwch gysylltu â Synnwyr Bwyd Cymru drwy e-bostio [email protected]

Gallwch hefyd wylio fideo sy’n esbonio’r prosiect yma.

Cymorth Cyswllt Ffermio yn helpu mentr systemau bwyd i dreialu cynhyrchu

Mae menter datblygu systemau bwyd arloesol yn Sir Gaerfyrddin yn ymuno â Cyswllt Ffermio i ddysgu sut y gellir tyfu gwahanol fathau o godlysiau a grawn yn y sir a’u prosesu i’w bwyta’n lleol.

Fel rhan o brosiect fferm ffocws Cyswllt Ffermio, mae technegau cynhyrchu codlysiau yn cael eu treialu ar Fferm Bremenda Isaf, daliad 40 hectar sy’n eiddo i’r Cyngor Sir yn Llanarthne.

Yma, mae partneriaeth Bwyd Sir Gâr yn tyfu bwyd i’w gaffael gan y sector cyhoeddus, gan gynnwys ei gyflenwi i ysgolion a chartrefi gofal.

Mae Prosiect Datblygu Systemau Bwyd y bartneriaeth fwyd leol, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Sir Gâr, yn cael ei ysgogi gan weledigaeth i greu system fwyd ffyniannus, gynaliadwy, gynhwysol a gwydn ledled y sir, a’r gobaith yw creu templedi sy’n defnyddio dulliau carbon isel sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd ar gyfer cynhyrchu bwyd ar raddfa cae.

Fel rhan o’r uchelgais hwn, fe’i cefnogir gan Cyswllt Ffermio i dreialu technegau ar gyfer tyfu codlysiau.

Meddai Alex Cook, Swyddog Datblygu Bwyd Cyngor Sir Gâr, y bydd y gwaith o drin y tir yn dechrau ym mis Mawrth ar ddwy erw o dir a ddefnyddiwyd i dyfu cnydau âr mor bell yn ôl â’r 1840au, yn ôl ymchwil hanesyddol.

Mae’r bartneriaeth yn falch iawn o gael cymorth Cyswllt Ffermio i helpu i yrru’r prosiect yn ei flaen.

“Mae garddwriaeth yn cyfrif am ganran fach iawn yn unig o’r diwydiant ffermio yn Sir Gâr, ac rydym yn gweld gwerth gwirioneddol mewn pontio’r bwlch gwybodaeth sy’n bodoli,” meddai Mr Cook.

Bydd arbenigwyr yn cynnig cyngor ar ddulliau ac arfer gorau yn ystod y treial.

Mae nodi cadwyn gyflenwi ar gyfer y cnwd, gan gynnwys y sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol, yn amcan allweddol arall, gyda diwrnodau hyfforddiant ar gyfer ffermwyr i rannu gwybodaeth i lywio eu harallgyfeirio posibl eu hunain i dyfu ar gyfer y farchnad leol.

“Daw hyn ar adeg hollbwysig i amaethyddiaeth yng Nghymru,” meddai Mr Cook. “Rydym ni’n gwybod bod newid ar y ffordd, ac fe allai hynny olygu newid yn y ffordd mae rhai ffermydd yn cynhyrchu bwyd a chyfleoedd i lenwi bylchau sy’n bodoli yn y farchnad.

“Er enghraifft, nid yw llawer o’r codlysiau a ddefnyddir mewn prydau ysgol yn Sir Gâr yn cael eu tyfu yn y DU, felly mae potensial i dyfu’r farchnad honno i leihau milltiroedd bwyd a dod â manteision ariannol i’r economi leol.”

Un o’r rhwystrau yn y sector garddwriaeth yw dod o hyd i lwybrau i’r farchnad sydd o fudd i’r ffermwr a’r defnyddiwr.

Dywed Hannah Norman, swyddog sector garddwriaeth Cyswllt Ffermio, fod cyfle enfawr o fewn caffael cyhoeddus i gefnogi cynhyrchu bwyd lleol ar gyfer pobl leol.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld y prosiect hwn yn archwilio marchnad newydd ar gyfer ffermwyr a thyfwyr yng Nghymru,’’ meddai.

Dathlu cyflawniadau Pys Plîs yng Nghymru

Fis Tachwedd, cynhaliodd Synnwyr Bwyd Cymru Cynhadledd Lysiau yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin i ddathlu gwaith a chyflawniadau menter Pys Plîs yng Nghymru.

Sefydlwyd y fenter Pys Plîs yn 2019, a’i chenhadaeth oedd ei gwneud hi’n haws i bawb yn y DU fwyta mwy o lysiau. Drwy gydol y rhaglen bedair blynedd, bu Synnwyr Bwyd Cymru yn arwain gwaith Pys Plîs yng Nghymru a thros y blynyddoedd daeth â ffermwyr, manwerthwyr a chadwyni bwytai, arlwywyr, proseswyr ac adrannau’r llywodraeth at ei gilydd gyda’r un nod o’i gwneud yn haws i bawb fwyta llysiau. Partneriaid eraill y prosiect oedd yn ymwneud â’r fenter hon yn y DU oedd The Food Foundation, Nourish Scotland, Food NI and Nourish NI.

Nod y rhaglen arloesol oedd yn canolbwyntio’n benodol ar lysiau, oedd annog diwydiant a’r llywodraeth i ymrwymo i wella argaeledd, derbynioldeb (gan gynnwys cyfleustra), fforddiadwyedd ac ansawdd y llysiau sydd ar gael mewn siopau, ysgolion, bwytai a thu hwnt, ac yn ei dro, ysgogi’r cyhoedd yn y DU i fwyta mwy o lysiau, yn enwedig plant a’r rhai ar incwm isel.

Ers lansio’r prosiect Pys Plîs bedair blynedd yn ôl, mae 1.1 biliwn o ddognau ychwanegol o lysiau wedi’u gwerthu neu eu gweini ac fe wnaeth 110 o sefydliadau addunedu i chwarae eu rhan yn y broses o helpu pawb yn y DU i fwyta dogn ychwanegol o lysiau bob dydd. Gelwir yr addunedau hyn yn Addunedau Llysiau ac yng Nghymru, Synnwyr Bwyd Cymru oedd yn gyfrifol am reoli 8 addunedwr cenedlaethol, 24 o addunedau lleol drwy Bwyd Caerdydd a 25 o addunedwyr Dinas Llysiau mewn partneriaeth â Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Llwyddodd wyth o fanwerthwyr i ychwanegu gwerth at y cynllun Cychwyn Iach ledled Cymru a’r DU hefyd, a chafodd 22 o bobl eu recriwtio’n Hyrwyddwyr Llysiau, gan weithio fel asiantau newid unigol yn eu cymuned leol a helpu i ysgogi’r newidiadau enfawr sydd eu hangen i gyrraedd y nod o gael pawb i fwyta mwy o lysiau.

Yn 2021, mewn ymgais i gynyddu’r llysiau a gynhyrchir yn lleol, rhoddodd Synnwyr Bwyd Cymru ynghyd â’n partneriaid, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, bump o grantiau Pys Plîs gwerth rhwng £2500 a £5000 i gynorthwyo busnesau bach sy’n cynhyrchu cynnyrch garddwriaethol bwytadwy sy’n gweithredu yng Nghymru. Dangosodd yr adroddiad dilynol y gallai buddsoddiad ar raddfa fach gael effaith sylweddol a chadarnhaol ar fusnesau garddwriaethol, gyda chynnydd o 75% ar gyfartaledd yng ngwerthiant llysiau.

Ac yn ddiweddarach yn 2022, fel rhan o adduned y cwmni o Sir Gâr, Castell Howell i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol, bu Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio gyda’r cyfanwerthwr i ddatblygu cynllun peilot i ymchwilio i’r hyn fyddai angen ei wneud yn ymarferol i roi llysiau gan gynhyrchwyr amaethecolegol o Gymru ar blatiau plant ysgol Cymru. Arweiniodd hyn at gyhoeddi adroddiad arall a oedd yn nodi bod prydau ysgol yn gyfle i greu marchnad ddiogel i gynhyrchwyr llysiau amaethecolegol a sut y gellir eu defnyddio fel y prif ddull o fuddsoddi mewn cadwyni cyflenwi llysiau yng Nghymru. Mae ail gam y cynllun peilot gyda chymorth cyllid Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru bellach yn ychwanegu at ganfyddiadau’r ‘Cynllun Peilot Courgettes’ gwreiddiol, ac yn edrych eto ar geisio cynyddu cyfanswm y llysiau lleol sy’n mynd i ysgolion.

Nodwyd Pys Plîs hefyd fel rhaglen yng nghynllun cyflawni 22-24 Pwysau Iach Cymru Iach o dan Faes Blaenoriaeth Cenedlaethol 1, sy’n llywio’r amgylchedd bwyd a diod tuag at opsiynau cynaliadwy ac iachach. Ei nod yw sicrhau bod ein hamgylchedd bwyd wedi’i dargedu mwy tuag at opsiynau iachach i wneud y dewis iach yn ddewis hawdd.

“Wrth i’r rhaglen Pys Plîs ddirwyn i ben, roedd Cynhadledd Lysiau Cymru yn gyfle pwysig iawn i ddiolch i bawb a fu’n rhan o Pys Plîs hyd yma – addunedwyr, cefnogwyr, hyrwyddwyr llysiau a buddiolwyr – ac i edrych ymlaen at sut y gallwn barhau i gydweithio ar y materion hyn yn sgil newidiadau heriol i’r rhaglen,” meddai Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru.

“Gwyddom nad yw pobl yn bwyta digon o lysiau yn y DU a datblygwyd Pys Plîs fel menter bartneriaeth i atgoffa pobl bod llysiau yn dda i ni a bod angen i ni fwyta mwy ohonynt. Dengys ystadegau diweddar a gyhoeddwyd gan Rwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion mai dim ond 37% o blant blynyddoedd 3 – 6 (7-11 oed) a arolygwyd sy’n bwyta o leiaf 1 dogn y dydd; mae merched yn llawer mwy tebygol o fwyta llysiau na bechgyn a bod dysgwyr o gartrefi incwm uwch yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bwyta llysiau bob dydd na’r rheini mewn cartrefi incwm isel.

“Nod Pys Plîs oedd gweld pobl yn bwyta mwy o lysiau; creu newid i’r system fwyd a sefydlu model llwyddiannus i bobl allu lleisio barn,” meddai Katie. “Yn ystod y digwyddiad cawsom ddathlu effaith Pys Plîs yng Nghymru, ar lefel unigol ac yn genedlaethol ar draws y DU, ac roedd yn fraint cydnabod cyfraniad cymuned Pys Plîs Cymru i newid y ffordd rydym yn meddwl am lysiau. Ond mae angen mwy o frys gan y Llywodraeth hefyd. Mae bwyta llysiau yn hanfodol i’n hiechyd – ac er gwaethaf ein hymdrechion gorau ar y cyd, mae’r defnydd o lysiau yn dal i ostwng. Dros y 4 blynedd diwethaf mae cyfran y llysiau yn ein basgedi siopa wedi gostwng o 7.2% pan lansiwyd Pys Plîs (Kantar 2017) i 6.8%. I fod yn unol â Chanllaw Bwyta’n Iach y llywodraeth, dylai 20% o’r fasged siopa fod yn lysiau.”

Yn ystod y Gynhdaledd Lysiau, amlygodd Synnwyr Bwyd Cymru rai o’r meysydd sydd wedi creu effaith, gan gynnwys y rhaglen hyrwyddwyr Llysiau; sut y llwyddodd cystadleuaeth hysbysebu Pys Plîs i greu Nerth Llysiau ac ymgyrch hysbysebu llysiau gwerth miliynau; cymunedau yn cymryd camau gweithredu ar Lysiau drwy’r Dinasoedd Llysiau; grantiau bach sydd wedi cael effaith fawr yn ogystal ag addunedau Pys Plîs.

Cymerodd Llinos Hallgarth, un o Hyrwyddwyr Llysiau Cymru ran yn y gynhadledd gan sôn am ei phrofiad o fod yn rhan o’r rhaglen. “Fel un o Hyrwyddwyr Llysiau Pys Plîs, roeddwn yn ddigon ffodus i gael swm bach o arian drwy’r cynllun grantiau bach a oedd yn ein galluogi i godi ymwybyddiaeth o’r prosiect drwy brosiect cymunedol ymarferol yn ardal Llandysul,” meddai Llinos. “Er mai dim ond swm bach o arian ydoedd, cafodd effaith fawr, gan greu gwaddol i adeiladu arno y flwyddyn ganlynol.

“Mewn cydweithrediad ag Yr Ardd, prosiect tyfu a gardd gymunedol rwy’n rhan ohono, fe wnaethom lwyddo i dyfu cynnyrch, ei gynaeafu a gwneud picl a jam ynghyd â chadwoli’r bwyd dros ben nad oeddem wedi gallu ei fwyta,” ychwanegodd Llinos. “Yn ddiddorol i mi, fel swyddog iaith menter iaith leol ‘Cered’, roedd yn ffordd i ni gysylltu hefyd â’n treftadaeth a’n diwylliant lleol drwy gasglu geiriau a therminoleg garddio, planhigion a choginio yn y Gymraeg, gwneud cofnod ohonyn nhw a sicrhau na fyddwn yn anghofio’r geiriau o ganlyniad i newidiadau mewn patrymau a defnydd o’r iaith.”

Un o banelwyr eraill y Gynhadledd Lysiau oedd Edward Morgan, Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a Rheolwr Hyfforddiant Bwydydd Castell Howell. Cymerodd ran mewn sgwrs a oedd yn edrych ar addunedau Pys Plîs Castell Howell. “Drwy gymryd rhan yn Pys Plîs daeth Castell Howell yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau i helpu i fynd i’r afael â materion deietegol,” meddai Edward Morgan. “Rydym yn cyflenwi bwyd i tua 1100 o ysgolion ac mae’n hanfodol ein bod ni’n helpu i ddarparu mwy o lysiau ar gyfer y prydau bwyd a’r fwydlen, ac mae gweithio gyda’n cadwyni cyflenwi yn hanfodol i gyflawni’r nodau hyn.”

Wrth i’r rhaglen Pys Plîs ddirwyn i ben, bydd Synnwyr Bwyd Cymru yn parhau i ychwanegu at ei llwyddiant drwy weithio gydag eraill yn y gymuned llysiau a garddwriaeth – gan eirioli dros fuddsoddiad gwerth chweil mewn garddwriaeth, creu achos er budd iechyd y cyhoedd a gweithio ar atebion drwy raglenni gwaith newydd, megis Pontio’r Bwlch. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn parhau i weithio ar y prosiect Llysiau o Gymru mewn Ysgolion hefyd, ac mewn cydweithrediad â phartneriaid Pys Plîs y DU, mae’r gwaith o gynllunio prosiect newydd yn seiliedig ar lysiau bellach ar y gweill.

Dyma fideo sy’n crynhoi’r digwyddiad:

Cymru Can

Mae Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yr wythnos hon wedi nodi ei flaenoriaethau yn Cymru Can – strategaeth newydd ar gyfer 2023-2030 sy’n amlinellu ei weledigaeth hirdymor a’i bwrpas.

Gyda bwyd yn rhan annatod o gyflawni nodau llesiant Cymru, mae Bwyd Sir Gâr Food wrth ei fodd i weld ein system fwyd wedi’i nodi fel maes ffocws cyntaf y Comisiynydd, gan gyfrannu at bob un o’i bum cenhadaeth, sef Gweithredu ac Effaith, Hinsawdd a Natur, Iechyd a Llesiant, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg ac Economi Llesiant.

Darllenwch y strategaeth lawn yma a gwyliwch y fideo isod:

Sir Gaerfyrddin yn dathlu blas ar lwyddiant

Ym mis Rhagfyr 2023, dyfarnwyd gwobr fawreddog statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy i Sir Gaerfyrddin i gydnabod ei hymrwymiad i ddatblygu system fwyd lewyrchus, gynaliadwy, gynhwysol a chydnerth ledled y sir.

Mae Dyfarniad Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn ddyfarniadau cenedlaethol, seiliedig ar dystiolaeth, sy’n dathlu siroedd, trefi neu ddinasoedd yn defnyddio dull cydgysylltiedig a chyfannol o ymdrin â bwyd cynaliadwy ac iach. Mae yna dair lefel o ddyfarniad – Efydd, Arian ac Aur – ac mae pob un yn gwobrwyo ymdrechion rhagorol partneriaethau bwyd a rhanddeiliaid lleol.

Cydlynir y gwaith yn Sir Gaerfyrddin gan Bwyd Sir Gâr Food – partneriaeth fwyd leol sy’n cynnwys sefydliadau, busnesau, unigolion a grwpiau cymunedol ymroddedig, sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu system fwyd ffyniannus, iach a chynaliadwy yn y sir.

Dywedodd Leon Ballin, Rheolwr Rhaglenni Lleoedd Bwyd Cynaliadwy: “Mae Sir Gaerfyrddin wedi dangos beth yn union y gellir ei gyflawni pan fydd pobl greadigol ac ymroddedig yn cydweithio i sicrhau bod bwyd iach a chynaliadwy yn nodwedd ddiffiniol o le y maent yn byw. Er bod yna lawer i’w wneud o hyd a llawer o heriau i’w goresgyn, mae Bwyd Sir Gâr Food wedi helpu i osod meincnod i aelodau eraill o Rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy y DU ei ddilyn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod i barhau i drawsnewid diwylliant bwyd a system fwyd Sir Gaerfyrddin er gwell.”

Mae partneriaeth Bwyd Sir Gâr Food yn aelod o rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy oddi ar 2021, ac mae’n cynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Synnwyr Bwyd Cymru, a Castell Howell.

Mae effaith Bwyd Sir Gâr Food yn ymestyn ar draws y sir, ac mae prosiectau a mentrau diweddar wedi cynnwys:

  • Rhaglen beilot, a ariennir gan y Rhaglen Datblygu Gwledig yn rhan o’r prosiect Mannau Gwyrdd Gwydn, sy’n archwilio trefniadau caffael cyhoeddus lleol a chynaliadwy, ac yn datblygu sector garddwriaeth gwydn a chynaliadwy trwy fodel canolfan fwyd dan arweiniad Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
  • Datblygu prosiect cymunedol trwy Rwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin i feithrin mynediad teg at fwyd maethlon, da trwy fodel tyfu, coginio, rhannu prydau bwyd cymunedol, gan weithio trwy Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin a chyda Tîm Gwella Iechyd Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, datblygu prosiect i archwilio Prydau Ysgol i Sbarduno Newid Cymdeithasol, Economaidd ac Amgylcheddol dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Gweithio gyda Synnwyr Bwyd Cymru i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol trwy’r rhaglen Bwyd a Hwyl yn Sir Gaerfyrddin
  • Gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol i helpu i lunio dull strategol o ymdrin â bwyd ar lefel y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC)
  • Sicrhau Cyllid Ffyniant Cyffredin y DU ar gyfer Prosiect Datblygu Systemau Bwyd i adeiladu ar waith presennol sy’n cynnwys tri llinyn:
  • Rheoli Tir mewn modd Strategol ar gyfer Nwyddau Cyhoeddus
  • Cysylltiadau Cymunedol a Gwella Mynediad at Fwyd Iach
  • Cyfathrebu
  • Bod yn rhan o Gylch Peiriannau a ariennir gan Cyllid Ffyniant Cyffredin y DU, sy’n cael ei ddatblygu a’i ddarparu gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol ac a fydd yn galluogi tyfwyr ar raddfa fach i fenthyg peiriannau i’w defnyddio ar eu tir yn Sir Gaerfyrddin

“Mae wedi bod yn bleser cydlynu grŵp mor frwdfrydig ac uchelgeisiol yn ystod y 18 mis diwethaf,” meddai Augusta Lewis, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Sir Gaerfyrddin.

“Mae bwyd yn thema drawsbynciol sy’n dylanwadu ar iechyd a llesiant cymunedol, yr economi leol, a’r amgylchedd. Mae defnyddio dull ‘system gyfan’ aml-sector wedi ein galluogi i ddod yn fwy na’n cydrannau unigol, ac i weithio ar y cyd ar gyfer y nod cyffredin o sicrhau system fwyd leol gynaliadwy, gynhwysol, wydn ac amrywiol sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym wedi datblygu prosiectau yn seiliedig ar yr hyn y mae cymunedau Sir Gaerfyrddin wedi dweud wrthym y mae ei eisiau a’i angen, ac rydym wrth ein bodd bod ein hymdrechion wedi cael eu cydnabod trwy i ni ennill ein dyfarniad efydd. Rydym ‘nawr yn awyddus i adeiladu ar y gwaith sylfaenol hwn, gan ymgysylltu ymhellach â chymunedau, busnesau, y sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus, i greu system fwyd ffyniannus, amrywiol, iach a gwydn ar gyfer y sir.”

Mae Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn un o’r mudiadau cymdeithasol sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae ei rwydwaith yn dod â phartneriaethau bwyd arloesol o drefi, dinasoedd, bwrdeistrefi, rhanbarthau a siroedd ledled y DU at ei gilydd, partneriaethau sy’n sbarduno arloesedd ac arfer gorau mewn perthynas â phob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy.

“Rwyf mor falch bod Sir Gaerfyrddin wedi ennill Statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy,” meddai Katie Palmer, Rheolwr Rhaglenni ar gyfer Synnwyr Bwyd Cymru, sef partner cenedlaethol Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru.

“Mae’r dyfarniad hwn yn dangos effaith gadarnhaol pobl, cymunedau, sefydliadau a busnesau yn cydweithio i ysgogi newid, a bydd hynny o fudd i iechyd, economi, cynaliadwyedd a ffyniant cymdeithasol cymunedau ar hyd a lled Cymru,” ychwanegodd Katie.

“Mae Sir Gaerfyrddin wedi cyflawni cymaint ers dod yn aelod o’r rhwydwaith yn 2021, gan gefnogi arferion cynhyrchu bwyd cynaliadwy, yn ogystal â datblygu cadwyni cyflenwi amaethecolegol; cynyddu cyfanswm y bwyd lleol sy’n cael ei weini ar y plât cyhoeddus, ac annog dinasyddiaeth fwyd a chyfranogiad mewn cymunedau ledled y sir. Mae’r gwaith a wnaed yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei ddefnyddio hefyd i ddatblygu’r achos dros feithrin partneriaethau bwyd ledled Cymru – model y mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi tynnu sylw ato yn y strategaeth #CymruCan newydd fel cyfle i helpu Cymru i gyflawni ei nodau llesiant. Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn ‘nawr ynghylch gweld y modd y mae prosiectau’n datblygu a’r modd y mae’r bartneriaeth yn effeithio ar ddyfodol bwyd Sir Gaerfyrddin.”