Beth yw Bwyd Sir Gâr Food?
Bwyd Sir Gâr Food yw partneriaeth fwyd leol Sir Gaerfyrddin, gyda’r weledigaeth o greu system fwyd ffyniannus, gynaliadwy, gynhwysol a gwydn yn cael ei chynnal ar draws y sir.
Mae’n dod â phartneriaid o sectorau gwahanol i fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan ymdrechu i sicrhau bwyd da i bawb.
Neidio i:
Ein Cenhadaeth
Nod Bwyd Sir Gâr yw creu system fwyd iachach, decach a mwy cynaliadwy drwy ddull partneriaeth sy’n seiliedig ar le.
Ein Gweledigaeth
Cyd-greu system fwyd leol sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn cynhyrchu, hyrwyddo a darparu bwyd fforddiadwy, iach a chynaliadwy i bawb.
Mae ein prif bartneriaid yn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys:
- Cyngor Sir Gaerfyrddin
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin
- Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin
- Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
- Synnwyr Bwyd Cymru
- Castell Howell
- Cywain
- Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Darllenwch fwy am daith Bwyd Sir Gâr ers ei sefydlu yma
Pwy ydym ni?
Mae yna grŵp mawr o bobl sy’n helpu i bennu cyfeiriad gwaith Bwyd Sir Gâr. Dyma’r bobl sy’n rhan o grŵp llywio’r bartneriaeth fwyd. Yn ogystal, mae gennym staff prosiect.
Darllenwch fwy am y gwaith a’r unigolion sy’n ymwneud â’r prosiect.

Beth yw Lle Bwyd Cynaliadwy?

Dysgwch fwy am systemau bwyd trwy wylio’r fideo byr yma:
Partneriaethau Bwyd

Mae partneriaethau bwyd yn dod â phartneriaid o amrywiaeth o wahanol sectorau at ei gilydd i helpu i fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol wrth iddynt ymdrechu i sicrhau bwyd da i bawb. Mae partneriaid fel arfer yn cynnwys cyrff cyhoeddus fel Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol yn ogystal â rhanddeiliaid ymroddedig eraill fel sefydliadau gwirfoddol, elusennau, busnesau bwyd, manwerthwyr, cyfanwerthwyr, tyfwyr a ffermwyr.
Mae partneriaethau bwyd yn datblygu cydnerthedd mewn rhwydweithiau bwyd lleol drwy gyd-gysylltu gweithgarwch ar lawr gwlad sy’n ymwneud â bwyd a helpu i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd. Mae nhw hefyd yn allweddol ar gyfer adeiladu a chadw cyfoeth yng Nghymru – yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol – ac yn helpu i hybu cydweithio a chynwysoldeb.
Mae Bwyd Sir Gâr Food yn un o 22 o bartneriaethau bwyd ar draws Cymru ac yn un o 10 aelod o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru. Mae Bwyd Sir Gâr Food nawr yn brysur yn tyfu seilwaith sy’n seiliedig ar leoedd, gan helpu i gyfrannu at ddatblygu ‘mudiad bwyd da’ yn ogystal â strategaethau bwyd cymunedol ehangach sy’n sicr o o fod o fudd i iechyd, economi, cynaliadwyedd a ffyniant cymdeithasol ein cymunedau.
Ar gyfer gwybodaeth bellach am bartneriaethau bwyd, ewch i wefan Synnwyr Bwyd Cymru yma.

Beth yw diffiniad Bwyd Sir Gâr o ‘fwyd iach a chynaliadwy’?
Mae deiet iach a chynaliadwy yn cyd-fynd â’n hymrwymiad yng Nghymru i leihau afiechydon sy’n gysylltiedig â deiet drwy strategaeth Pwysau Iach, Cymru Iach, a thrwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Mae’n pwysleisio amrywiaeth o gynhwysion lleol, tymhorol a gynhyrchir mewn systemau ffermio sy’n gyfeillgar i natur sy’n:
- cwrdd ag anghenion y presennol heb beryglu anghenion cenedlaethau’r dyfodol.
- cefnogi bioamrywiaeth yn lleol
- lleihau allyriadau, llygredd a gwastraff pecynnu
- dathlu diwylliant bwyd
- sicrhau economi fwyd leol ffyniannus ac amrywiol a bywoliaethau teg
- gwella diogelwch bwyd a gwydnwch
- adeiladu mynediad cyfartal at fwyd a gynhyrchir yn lleol
- gweithio tuag at Gymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang

Helpwch i wneud bwyd iach a chynaliadwy yn realiti
I gefnogi’r ymrwymiad hwn, rydym wedi sefydlu rhai addewidion syml y gall pobl a sefydliadau ledled Sir Gaerfyrddin eu gwneud i wneud ein bwyd yn fwy lleol, cynaliadwy ac iach.
Rydym yn gofyn i bobl wneud addewid i:
- Prynu mwy o fwyd lleol a chynaliadwy
- Bwyta deiet iachach a mwy cynaliadwy
- Coginio o’r dechrau’n amlach
- Tyfu fy llysiau neu fy mherlysiau fy hun
- Helpu i roi bwyd wrth galon y gymuned
- Gwastraffu llai
- Dathlu ein Stori Fwyd
