Projects

Prosiect Datblygu Systemau Bwyd

Mae Bwyd Sir Gâr yn gweithredu Prosiect Datblygu Systemau Bwyd i edrych ar sut ry’n ni’n cynhyrchu, gwerthu, hyrwyddo a bwyta bwyd lleol a chynaliadwy yn Sir Gâr.

Beth yw'r prosiect

Ar ôl cymryd drosodd gwaith dydd i dydd Bremenda Isaf, fferm Cyngor cant erw yn Llanarthne, mae tîm y prosiect yn treialu ffyrdd newydd o gael llysiau lleol i blatiau ysgolion cynradd a chartrefi gofal y Sir.

Yn defnyddio dulliau ffermio natur gyfeillgar, mae’r tîm yn tyfu amrywiaeth o lysiau fydd yn cyrraedd prydau bwyd ysgolion a chartrefi gofal, yn sicrhau bod trigolion ifancaf a henaf y sir yn cael budd o gynnyrch, ffresh, lleol o safon uchel. Mae’r llysiau yn y ddaear ac yn barod i gyrraedd platiau yn yr hydref. Mae cnydau yn amrywio o ciwcymbyr i foron a sbrowts i bwmpenni.

Mae’r fferm hefyd yn tyfu grawn wrth iddo archwilio dychwelyd i ffyrdd traddodiadol o ffermio cymysg sydd yn garedig i natur ac yn cymryd i ystyriaeth treftdaeath y fferm a’r diwylliant bwyd lleol. Mae hyn wedi cael ei ystyried mewn mwy o fanylder fel rhan o’r Prosiect Treftadaeth sydd wedi bod yn annog pobl lleol i feddwl am y fferm, y cynnyrch a’r tir, ac yn gofyn i gyfranogwyr ymateb i sut mae hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo trwy gelf, barddoniaeth a chân.

Yn ogystal â threialu’r prosiect arloesol yn Mremenda Isaf, mae’r prosiect hefyd yn gweithio gyda thîm o ddeitetegwyr yn Mwrdd Iechyd Hywel Dda i ddatblygu sgiliau coginio a maeth pobl, tra yn partneru gyda Rhwydwaith Fwyd Sir Gaerfyrddin i ddatblygu cysylltiadau cymunedol trwy fwyd ym mhob cornel o’r sir.

Mae’r prosiect hefyd wedi ariannu datblygu y wefan yma i godi ymwybyddiaeth o waith Bwyr Sir Gâr Food ac i gael cymaint o bobl o’r sir yn rhan o adeiladu dyfodol bwyd gwell i ni gyd.

Byddwn yn diweddaru y wefan yn rheolaidd gyda newyddion am fentrau a digwyddiadau, ac yn adrodd mwy am y gwaith sy’n digwydd yn Mremenda Isaf.

Dysgwch fwy am y fferm yma.

A gallwch gofrestru i glywed mwy gan Bwyd Sir Gâr yma.

Golwg mwy manwl ar Brosiect Datblygu Systemau Bwyd

Mae’r Prosiect Datblygu Systemau Bwyd yn bwriadu datblygu economi bwyd lleol, cyfrannu at adfer natur a gwytnwch hinsawdd a hyrwyddo iechyd a lles.

Yn adeiladu ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan Bwyd Sir Gâr Food, mae’r Prosiect Datblygu Systemau Bwyd â’r nôd i wella systemau bwyd lleol ar gyfer ycenedlaethau presennol a rhai’r dyfodol. Mae’r prosiect hefyd yn galluogi Bwyd Sir Gâr Food i gyflogi staff ychwanegol a chadw rolau hanfodol, gan ddarparu sylfaen gref ar gyfer partneriaeth.

Mae tair elfen y prosiect yn cynnwys:

1. Rheoli Tir mewn modd Strategol ar gyfer Nwyddau Cyhoeddus – Fferm Bremenda Isaf

Nod yr elfen hon o’r prosiect yw sefydlu seilwaith, cyfarpar a gweithlu medrus i ddatblygu model o farchnad ar gyfer safle cynhyrchu ffrwythau a llysiau mewn modd cynaliadwy ar raddfa cae ar fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne. Mae’r prosiect arbrofol hwn yn cwmpasu’r ffermdy, y tai allan ac oddeutu 100 erw, gyda’r bwriad o brydlesu’r eiddo cyfan i denant addas a fydd yn ei reoli’n barhaus. Hwn hefyd fydd y prosiect cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio dull gweithredu mewn partneriaeth a chadwyn gyflenwi amlsector sy’n cymryd cyfraniad y safle at iechyd cymunedol, llesiant a chreu cyfoeth i ystyriaeth.

2. Cymunedau Cysylltiedig a Mynediad Cymunedol at Fwyd Iach.

Gan weithio trwy Rwydwaith Bwyd Sir Gâr (CFN) ar y cyd â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS), Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol (SFG), a thîm Gwella Iechyd Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd), bydd llinyn y Prosiect Datblygu Systemau Bwyd sy’n ymwneud â Chysylltiadau Cymunedol yn ehangu Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin, datblygu hyfforddiant a sgiliau meithrin cysylltiadau cymunedol.

3. Cyfathrebu: Datblygu ‘Mudiad Bwyd Da’:

Y trydydd llinyn fydd cynyddu ymwybyddiaeth o waith Bwyd Sir Gâr Food gan weithio ar yr un pryd i ddatblygu ‘mudiad bwyd da’ yn Sir Gaerfyrddin, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion bwyd a’u hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiedig â bwyd, gan greu sir o ddinasyddion bwyd gweithgar.

Pam gwneud hyn?

Mae bwyd yn gatalydd ar gyfer iechyd cymunedol, twf economaidd, a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae’r Prosiect Datblygu Systemau Bwyd yn dod â rhanddeiliaid o wahanol sefydliadau at ei gilydd i roi sylw i’r heriau sy’n wynebu’r sir. Gyda chymorth Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, bydd y fenter hon yn adeiladu ar gyflawniadau’r gorffennol, gan feithrin datblygiad sgiliau, cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy a dinasyddiaeth fwyd weithgar ar draws y sir.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU, ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, a hynny trwy fuddsoddi mewn cymunedau a lle, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Cwrdd â’r tîm prosiect

Dyma’r bobl sy’n gweithio ar y Prosiect Datblygu Systemau Bwyd

Augusta Lewis

Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Sir Gâr

Carwyn Graves

Cadeirydd Grŵp Llywio Bwyd Sir Gâr Food

Alex Cook

Datblygu Systemau Bwyd – Rheolwr y Prosiect

Piers Lunt

Prif Arddwr yn Bremenda Isaf

Simon Frayne

Cynorthwy-ydd Garddio yn Bremenda Isaf

Sian-Elin Davies

Rheolwr Cyfathrebu (trwy ei rôl yn Synnwyr Bwyd Cymru)

Lowri Johnston

Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Datblygiad Systemau Bwyd

Cerys Jennings

Cynorthwy-ydd Monitro Prosiect Datblygu Systemau Bwyd

Alanna Noble

Deietegydd Iechyd Cymunedol – Bwrdd Iechyd Hywel Dda