Bwyta’n Dda

Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol

Yn 2023, comisiynodd Cyngor Sir Caerfyrddin waith ymchwil a datblygu cysylltiedig â ‘Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol’ er mwyn edrych ar effaith integredig cyflwyno bwydlenni ysgol presennol y sir.

Hybiau Caffael Bwyd Cynaliadwy

O fis Medi 2022 tan fis Mehefin 2023, bu Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn arwain rhaglen arbrofol arloesol yng Nghymru i ddefnyddio hybiau bwyd cymunedol i gyflenwi ffrwythau a llysiau a gynhyrchwyd mewn dull cydnaws â byd natur gan dyfwyr lleol, i’r sector cyhoeddus.

Cychwyn Iach

Menter gan y Llywodraeth yw Cychwyn Iach sy’n darparu cerdyn gydag arian wedi llwytho arno i deuluoedd cymwys i’w wario ar laeth; ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u rhewi ac mewn tun; corbys ffres, sych ac mewn tun, a llaeth fformiwla i fabanod.If you are a community worker and would like to attend nutrition training contact: [email protected]

Hyfforddiant sgiliau maeth i weithwyr cymunedol / gweithwyr iechyd proffesiynol

Mae Tîm Deieteg Gwella Iechyd Hywel Dda yn darparu hyfforddiant sgiliau maeth i weithwyr cymunedol fel nyrsys meithrin, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr gofal, cynorthwywyr addysgu, gwirfoddolwyr a llawer mwy. Eu nod yw gweithio gyda gweithwyr cymunedol i ddatblygu sgiliau bwyd a maeth yng ngwaith bob dydd y rhai sydd mewn cysylltiad rheolaidd â grwpiau cymunedol ac sy’n deall anghenion pobl leol orau.

Sgiliau Maeth am Oes®

Nod Sgiliau Maeth am Oes® yw gweithio gydag asiantaethau a sefydliadau partner i sicrhau bod pawb yng Nghymru â’r sgiliau, y cyfleoedd a’r hyder i gael mynediad at y bwyd y maent ei angen i gael iechyd da.