Projects

Sgiliau Maeth am Oes®

Nod Sgiliau Maeth am Oes® yw gweithio gydag asiantaethau a sefydliadau partner i sicrhau bod pawb yng Nghymru â’r sgiliau, y cyfleoedd a’r hyder i gael mynediad at y bwyd y maent ei angen i gael iechyd da.

Sgiliau Maeth am Oes®

Nod Sgiliau Maeth am Oes® yw gweithio gydag asiantaethau a sefydliadau partner i sicrhau bod pawb yng Nghymru â’r sgiliau, y cyfleoedd a’r hyder i gael mynediad at y bwyd y maent ei angen i gael iechyd da.

Ein nod yw gwneud hyn drwy ddarparu addysg a hyfforddiant maeth i staff a gwirfoddolwyr cymunedol; trwy gefnogi asiantaethau partner i wella’r ddarpariaeth bwyd a diod mewn lleoliadau cymunedol fel gofal plant, ysgolion a lleoliadau gofal oedolion hŷn a thrwy gefnogi cymunedau i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael deiet amrywiol a chytbwys. Gall hyn gynnwys sefydlu mentrau bwyd cymunedol a galluogi cymunedau i rannu’r pethau sy’n gweithio iddyn nhw.

Yn Sir Gaerfyrddin, tîm Deieteg Gwella Iechyd Hywel Dda, sef tîm o Ddeietegwyr Cofrestredig, Ymarferwyr Maeth Cymunedol ac Ymarferwyr Cynorthwyol Deietegol sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill a’r cyhoedd i rymuso pobl i wneud dewisiadau bwyd iach. 

Mae’r tîm yn gweithredu ystod eang o gyrsiau ar draws Sir Gaerfyrddin – ceir mwy o fanylion isod.  Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o fanylion am Sgiliau Maeth am Oes® yma neu gallwch gysylltu  â’r  tîm dry ebostio [email protected]  

Dyma ganllaw defnyddiol hefyd ar gyfer mwy o wybodaeth am fwyta’n iach gan gynnwys ryseitiau: Sgiliau Maes am Oes

Newyddion diweddaraf

Darllenwch y newyddion a blogs diweddaraf gan Bwyd Sir Gâr Food.

  • Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr

    Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr

    Mae prosiect ar y gweill sy’n gweld llysiau o ffarm sirol yn Sir Gaerfyrddin yn bwydo plant mewn ysgol uwchradd gyfagos. Bydd llysiau lleol – wedi’u tyfu’n organig, eu cynaeafu a’u prosesu ar fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne – yn cael eu cludo i Ysgol Bro Dinefwr a’u gweini i…

    Darllen mwy

  • Taith astudio i Abbey Home Farm, Cirencester

    Taith astudio i Abbey Home Farm, Cirencester

    Yn galw ar dyfwyr a ffermwyr Sir Gaerfyrddin sydd â diddordeb mewn: sefydlu a rhedeg mentrau wedi pentyru ar y tir; rheoli plâu integredig ac agroecoleg. Mae gan Bwyd Sir Gâr wyth o leoedd wedi’u hariannu’n llawn ar daith astudio i Abbey Home Farm, ar Ddydd Mercher yr 2il o Hydref.

    Darllen mwy

  • Lansio gwefan Bwyd Sir Gâr Food

    Lansio gwefan Bwyd Sir Gâr Food

    Heddiw, caiff gwefan Bwyd Sir Gâr Food ei lansio – llwyfan newydd a fydd yn helpu i rannu gwaith gwych partneriaeth fwyd Sir Gaerfyrddin. Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cael eu lansio yn ogystal â brand newydd sbon. Bwyd Sir Gâr Food yw partneriaeth fwyd lleol Sir Gaerfyrddin a’i…

    Darllen mwy

Llysiau o Gymru i Ysgolion

We’re working with Food Sense Wales to develop new local agroecological supply chains into schools – so our children can enjoy locally grown fresh vegetables at lunchtimes.