News

Ffrwyth ein Llafur

Yn mis Rhagfyr 2024, cynhaliwyd digwyddiad yn yr Egin, Caerfyrddin i ddathlu gwaith Bwyd Sir Gâr ar draws y flwyddyn. Dan arweiniad Adam Jones (Adam yn yr Ardd), cafwyd diwrnod llawn o drafodaethau, cyflwyniadau a sgyrsiau diddorol ynglyn â’r system fwyd ar draws y sir.

Meddai Augusta Lewis, Cydlynydd Bwyd Sir Gâr;

“Roedd Ffrwyth ein Llafur yn gyfle gwych i ddod â’r gymuned at ei gilydd ry’n ni wedi ei greu trwy’r Prosiect Datblygu Systemau Bwyd eleni – o dyfwyr a ffermwyr, sefydliadau cymunedol, athrawon, gweithwyr sifil, gweithwyr iechyd proffesiynol a gwneithirwyr polisi cenedlaethol.

Yn ogystal â dathlu yr hyn ry’n ni wedi ei gyflawni ar draws tair elfen y prosiect, roedd yn ddatganiad gwych o fwriad, ein bod ni fel sir wedi ymrwymo i adeiladu system fwyd lleol cynaliadwy, gwydn a chynhwysol trwy gydweithio.”

Gwyliwch y fideo isod sy’n crynhoi’r diwrnod: