Bydd ysgewyll a gafodd eu tyfu ar fferm yn Llanarthne yn cael eu danfon i holl gartrefi gofal Cyngor Sir Caerfyrddin er mwyn i’r preswylwyr eu mwynhau ar Ddydd Nadolig.
Cafodd yr ysgewyll eu tyfu’n organig, eu cynaeafu a’u prosesu ar Fferm Bremenda Isaf Cyngor Sir Caerfyrddin fel rhan o brosiect datblygu systemau bwyd – menter sy’n cael ei darparu gan bartneriaid o Bwyd Sir Gâr. Mae’r prosiect yn edrych ar y modd yr ydym yn cynhyrchu, yn gwerthu, yn hyrwyddo ac yn bwyta bwyd lleol a chynaliadwy ar draws Sir Gaerfyrddin.
Bydd yr ysgewyll yn cael eu cynaeafu ddydd Gwener, 20 Rhagfyr a byddant yn cael eu danfon i gartrefi gofal ar draws y sir er mwyn i’r staff arlwyo eu defnyddio fel rhan o’r ciniawau Nadolig. Plannwyd yr ysgewyll ar fferm Bremenda Isaf nôl yn y gwanwyn ac maent yn rhan o waith ehangach y prosiect datblygu systemau bwyd o geisio darparu bwyd lleol i blât y cyhoedd, lleihau’r gadwyn gyflenwi a chyflenwi llysiau lleol, organig a maethlon i rai o breswylwyr mwyaf bregus y sir.
Y llynedd cymerodd y Prosiect Datblygu Systemau Bwyd reolaeth dros Bremenda Isaf, fferm cyngor 100 erw yn Llanarthne, ac mae’n treialu ffyrdd newydd o gael llysiau lleol ar blatiau cartrefi gofal ac ysgolion y sir ac adeiladu ar hyn.

Nôl ym mis Medi, cafodd llysiau o Bremenda eu danfon i Ysgol Bro Dinefwr i’w gweini i ddisgyblion fel rhan o giniawau thema yn ystod eu diwrnod ysgol. Mae Bwyd Sir Gâr Food hefyd yn rhan o’r prosiect cenedlaethol ehangach Llysiau Cymreig mewn Ysgolion sy’n cael ei gydlynu gan Synnwyr Bwyd Cymru a’i nod yw cael mwy o lysiau Cymreig organig i brydau ysgolion cynradd ledled Cymru gyfan.
Gan ddefnyddio arferion ffermio sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur, mae’r tîm yn Bremenda Isaf yn tyfu amrywiaeth o wahanol lysiau a fydd yn gwneud eu ffordd i brydau ysgolion a chartrefi gofal, gan sicrhau bod rhai o breswylwyr ieuengaf a hynaf y sir yn elwa o gynnyrch ffres o ansawdd uchel sydd wedi’i dyfu’n lleol. Mae’r cnydau’n amrywio o giwcymerau i foron ac o ysgewyll i bwmpenni.
Fel rhan o’r prosiect, ymwelodd yr hanesydd bwyd Carwyn Graves a’r actor Lowri Sion Evans â phreswylwyr Cartref Gofal Awel Tywi yn yr haf gan gofnodi rhai ohonynt yn sôn am eu hatgofion o dreftadaeth a thraddodiadau bwyd. Mae preswylwyr Awel Tywi hefyd wedi bod yn derbyn lluniau o’r fferm, yn dilyn tyfu’r ysgewyll.
Dywedodd Alex Cook, Rheolwr y Prosiect Datblygu Systemau Bwyd:
“Mae ysgewyll yn tyfu’n dda yn ein hinsawdd ac nid yw eleni wedi bod yn eithriad. Gan nad yw’r tywydd mor ffafriol i rai mathau eraill o lysiau, mae’n wych y gallwn gyflenwi’r swm sydd ei angen o ysgewyll ar gyfer cartrefi gofal Cyngor Sir Caerfyrddin yn hawdd. Bydd llawer o bobl yn y cartrefi gofal hynny wedi gweld y newid enfawr mewn cynhyrchu bwyd yma yn Nyffryn Tywi dros ddegawdau, felly mae’n gyfle gwirioneddol i dynnu sylw at yr hyn y gellir ei gyflawni gyda chnwd addas, pan fydd y galw yno. Gallwn gynhyrchu amrywiaeth ehangach o fwydydd pwysig mwy maethlon i’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, ac ar yr un pryd rydym yn gweithio tuag at well sicrwydd bwyd a’r gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd.”
Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:
“Mae rhoi anogaeth i gynhyrchu a chyflenwi bwyd o ffynonellau lleol yn uchelgais allweddol yn natganiad gweledigaeth y Cyngor Sir ac mae’n wych gweld yr enghraifft hon o gynnyrch wedi’i dyfu yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei gyflenwi i’n cartrefi gofal.”
Mae’r fferm hefyd yn tyfu grawn wrth archwilio cyfleodd i droi’n ôl at ffordd hŷn o ffermio cymysg sy’n cynhyrchu’r amrywiaeth o fwyd sy’n hanfodol ar gyfer iechyd y cyhoedd, sydd mewn cytgord â natur ac sy’n rhoi ystyriaeth i dreftadaeth y fferm a diwylliant bwyd yr ardal. Edrychwyd ar hyn yn fanylach fel rhan o brosiect treftadaeth sydd wedi bod yn annog pobl leol i feddwl am y fferm, y cynnyrch a’r tir, gan ofyn i gyfranogwyr ymateb i sut mae hynny’n gwneud iddynt deimlo trwy gyfrwng celf, barddoniaeth a chân.
Yn ogystal â threialu’r dull arloesol hwn yn Bremenda Isaf, mae’r prosiect Datblygu Systemau Bwyd hefyd yn gweithio gyda’r tîm deietegol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddatblygu sgiliau coginio a maeth pobl, wrth weithio mewn partneriaeth â Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin i ddatblygu cysylltiadau cymunedol drwy fwyd ym mhob cwr o’r sir hefyd.
Mae’r prosiect Datblygu Systemau Bwyd hefyd wedi ariannu datblygiad gwefan Bwyd Sir Gâr, i helpu i godi ymwybyddiaeth o waith Bwyd Sir Gâr ac i gael cymaint â phosibl o bobl Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan mewn adeiladu dyfodol bwyd gwell i bob un ohonom.
Cynhaliwyd digwyddiad yn ddiweddar yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin i dynnu sylw at waith Bwyd Sir Gâr ac i ddathlu llwyddiannau’r bartneriaeth.