Tudalen Adref

Creu system fwyd iachach, decach a mwy cynaliadwy yn Sir Gâr

Bwyd Sir Gâr yw partneriaeth fwyd lleol Sir Gaerfyrddin.

Ein nod yw cyd-greu system fwyd leol sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol sy’n cynhyrchu, yn hyrwyddo ac yn helpu i ddarparu bwyd fforddiadwy, iach a chynaliadwy i bawb.

Prosiectau Bwyd Da

Dyma rai o’r prosiectau rydyn ni’n ynghlwm â nhw:

  • Prosiect Datblygu Systemau Bwyd

    Mae Bwyd Sir Gâr yn gweithredu Prosiect Datblygu Systemau Bwyd i edrych ar sut ry’n ni’n cynhyrchu, gwerthu, hyrwyddo a bwyta bwyd lleol a chynaliadwy yn Sir Gâr.

  • Cook 24

    Porth i sgiliau bwyd a all newid dyfodol unigolion a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt. Cyflwynir Cook24, Cegin y Dyfodol, gan rai o weithwyr proffesiynol profiadol, ysbrydoledig y diwydiant sy’n gweithio yn rhai o’r busnesau mwyaf llwyddiannus a chreadigol yng Nghymru.

  • Banciau bwyd yn Sir Gaerfyrddin

    Os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin ac yn cael trafferth cael bwyd, mae’n bosibl y gall Ymddiriedolaeth Trussell eich helpu.

Digwyddiadau sydd ar y gweill

Newyddion diweddaraf

Darllenwch y newyddion a blogs diweddaraf gan Bwyd Sir Gâr Food.

  • Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr

    Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr

    Mae prosiect ar y gweill sy’n gweld llysiau o ffarm sirol yn Sir Gaerfyrddin yn bwydo plant mewn ysgol uwchradd gyfagos. Bydd llysiau lleol – wedi’u tyfu’n organig, eu cynaeafu a’u prosesu ar fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne – yn cael eu cludo i Ysgol Bro Dinefwr a’u gweini i…

    Darllen mwy

  • Taith astudio i Abbey Home Farm, Cirencester

    Taith astudio i Abbey Home Farm, Cirencester

    Yn galw ar dyfwyr a ffermwyr Sir Gaerfyrddin sydd â diddordeb mewn: sefydlu a rhedeg mentrau wedi pentyru ar y tir; rheoli plâu integredig ac agroecoleg. Mae gan Bwyd Sir Gâr wyth o leoedd wedi’u hariannu’n llawn ar daith astudio i Abbey Home Farm, ar Ddydd Mercher yr 2il o Hydref.

    Darllen mwy

  • Lansio gwefan Bwyd Sir Gâr Food

    Lansio gwefan Bwyd Sir Gâr Food

    Heddiw, caiff gwefan Bwyd Sir Gâr Food ei lansio – llwyfan newydd a fydd yn helpu i rannu gwaith gwych partneriaeth fwyd Sir Gaerfyrddin. Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cael eu lansio yn ogystal â brand newydd sbon. Bwyd Sir Gâr Food yw partneriaeth fwyd lleol Sir Gaerfyrddin a’i…

    Darllen mwy