News

Grantiau Bach ar gyfer Gweithgareddau Bwyd

Mae Bwyd Sir Gâr Food yn cynnig chwe grant o £2,000 i ariannu gweithgareddau sy’n anelu at ddileu anghydraddoldeb, hyrwyddo cydraddoldeb, a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl. Mae’r grantiau ar gael i fudiadau cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin, ac mae’r gronfa hon wedi’i hanelu’n benodol at alluogi a chynyddu cyfranogiad aelodau o grwpiau ag un neu fwy Nodwedd Gwarchodedig

Trwy weithgareddau a digwyddiadau arloesol a deniadol sy’n ymwneud â bwyd, bydd gweithgarwch a ariennir yn dod â phobl ynghyd i hwyluso ‘sgyrsiau bwyd’, ar sut y gallwn gydweithio ar gyfer system fwyd gynhwysol, wydn, gynaliadwy a theg yn lleol ac yn fyd-eang. Bydd canlyniadau’r sgyrsiau hyn yn cyfrannu at ddatblygu siarter bwyd ar gyfer Sir Gaerfyrddin wedi’i choladu gan Bwyd Sir Gâr Food

Cronfa Datblygu Partneriaeth Bwyd Lleol Gweinyddiaeth Cyfiawnder Llywodraeth Cymru yw hon, a weinyddir gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol ar ran Bwyd Sir Gâr Food. Croesewir ceisiadau ar y cyd rhwng sefydliadau. 

Llinell amser 

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 12ed Mawrth, hanner nos 
  • Hysbysir y dyfarnwyr: Dydd Llun 17ed Ebrill 
  • Prosiect wedi’i gwblhau a’r adroddiad wedi’i gyflwyno erbyn Dydd Sul Ebrill 27ed

Darllenwch y canllawiau yma cyn ymgeisio os gwelwch yn dda i gael mwy o wybodaeth am y gronfa.

Ceir ffurflen gais yma.

Os oes ganddoch chi gwestiynau am y grant, plis ebostiwch [email protected]