Projects

Hybiau Caffael Bwyd Cynaliadwy

O fis Medi 2022 tan fis Mehefin 2023, bu Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn arwain rhaglen arbrofol arloesol yng Nghymru i ddefnyddio hybiau bwyd cymunedol i gyflenwi ffrwythau a llysiau a gynhyrchwyd mewn dull cydnaws â byd natur gan dyfwyr lleol, i’r sector cyhoeddus.

Hybiau Caffael Bwyd Cynaliadwy

Gwybodaeth am y prosiect

Darparu mynediad at ffrwythau a llysiau maethlon lleol trwy sefydliadau cyhoeddus yw un o’r ffyrdd gorau o sicrhau pontio teg i ddeiet iach a chefnogi economi leol gynhyrchiol.

Amlygodd y cynllun arbrofol barodrwydd tyfwyr, busnesau cymunedol, rheolwyr caffael a chogyddion y sector cyhoeddus i gynyddu’r galw am ffrwythau a llysiau lleol a’r cyflenwad ohonynt ond mae rhagor o waith i’w wneud i gynyddu’r fenter hon. Mae cyfraniad parhaus Partneriaethau Bwyd Lleol Cynaliadwy sy’n hwyluso sgyrsiau traws-sector yn allweddol o ran sbarduno twf parhaus cadwyni cyflenwi lleol.

Mae canfyddiadau’r cynllun arbrofol ar gael bellach i helpu llunwyr polisi i lunio deddfwriaeth sy’n galluogi mwy o ffrwythau a llysiau i gael eu tyfu a’u bwyta’n lleol, gan gynnwys trwy sefydliadau cyhoeddus. Lluniwyd cyfres o adnoddau gennym hefyd i gynorthwyo tyfwyr, hybiau bwyd lleol a busnesau cymunedol eraill i ddechrau cyflenwi cynnyrch lleol i’r sector cyhoeddus.

Adnoddau a rhagor o wybodaeth

Adroddiad Rhan Caffael Cyhoeddus yn Nhrawsffurfio System Fwyd Cymru

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y rhan y gallai’r sector cyhoeddus yng Nghymru ei chwarae o ran ysgogi cynnydd sylweddol mewn cynnyrch garddwriaethol yng Nghymru.

Fideo Hybiau Caffael Bwyd

Dysgwch sut mae Hybiau Caffael Bwyd yn gweithio trwy wylio ein ffilm fer sy’n dangos sut y mae cynnyrch lleol yn cyrraedd cogyddion y sector cyhoeddus trwy hyb bwyd a angorir yn y gymuned, a’r manteision i dyfwyr, cogyddion, cyrff sector cyhoeddus, a defnyddwyr.

Yn rhan o’r prosiect, datblygodd y Rhwydwaith Bwyd Agored dechnoleg newydd i gefnogi cyfuno cynnyrch yn yr hyb bwyd a symleiddio’r broses archebu a dosbarthu.

Templed siarter uchelgeisiol

Canolbwyntiai’r prosiect ar gefnogi tyfwyr bach lleol, ond ni phennwyd safonau amgylcheddol penodol. Defnyddiwyd siarter uchelgeisiol, ynghyd â chyfleoedd hyfforddiant, i annog tyfwyr i symud tuag at ddulliau cynhyrchu cydnaws â byd natur.

Deall effaith carbon gwaith tyfu

Buom yn gweithio gyda gwasanaethau ymgynghori i gasglu a phrosesu data ynghylch ôl troed carbon ffermio amaethecolegol ar raddfa fach. Aethom ati hefyd i fesur effaith y tyfwyr, yn enwedig o ran atafaelu carbon trwy ddulliau sy’n gydnaws â byd natur. Rydym yn galw am ragor o fuddsoddiad a chymorth i alluogi tyfwyr i fesur effaith carbon lawn eu gweithrediadau er mwyn dangos sut y gall dulliau cynhyrchu amaethecolegol lleol effeithio’n gadarnhaol ar dargedau sero net. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a defnyddio ein templedi mesur ôl troed carbon.

Esbonio effaith gadarnhaol hybiau bwyd

Gan ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), dechreusom fesur a meintioli gwerth ychwanegol hybiau bwyd a angorir yn y gymuned. Gall hybiau ddefnyddio’r templed syml hwn i esbonio’r effaith gadarnhaol a gânt ar yr ystod eang o flaenoriaethau sydd gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, yr economi leol a sero net.

Lawrlwytho’r templed effaith gadarnhaol

Dadlau o blaid cynnyrch llawn maethynnau

Gan weithio gyda Growing Real Food for Nutrition ar hyd y prosiect, dangoswyd y gall ‘moronen fod yn FWY na moronen’. Gwelwyd bod gwahanol ddulliau tyfu, cadw a pharatoi yn effeithio ar ansawdd maethol y llysiau yr ydym yn eu bwyta. Mae sicrhau lefel uchel o faethynnau yn cynnig manteision penodol i’r sector cyhoeddus sydd â chyfrifoldeb dros iechyd plant a phobl hŷn a chyfleoedd i ddylanwadu’n gadarnhaol arno mewn ysgolion a chartrefi gofal. Mae ein hadroddiad yn galw am waith ymchwil pellach i’r manteision y cyfeiriwyd atynt mewn asesiad bach o gynnyrch lleol a dyfwyd mewn modd amaethecolegol o gymharu â dulliau cynhyrchu a dosbarthu ar raddfa eang.

Darllen yr adroddiad ar brofi ansawdd bwyd

Adroddiad gwerthuso’r prosiect

Gallwch ddysgu rhagor am effaith ein prosiect arbrofol a gynhaliwyd yn Sir Gaerfyrddin a Gogledd Powys.

Darllen yr adroddiad gwerthuso annibynnol llawn

Partneriaid y prosiect

Cyflwynwyd y prosiect gan y Rhwydwaith Bwyd Agored, Cultivate, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Foothold Cymru gan weithio ar y cyd â Swyddogion Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn Sir Gaerfyrddin a Gogledd Powys.

Llywiwyd y bartneriaeth gan Grŵp Llywio o arbenigwyr gwybodus a phrofiadol a rannai’r un weledigaeth, sef bod gwaith caffael cyhoeddus yn cyfrannu’n gadarnhaol at lesiant cenedlaethau’r dyfodol. Roedd yr aelodau’n cynnwys:

  • Synnwyr Bwyd Cymru
  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • GRFfN
  • BIC Innovation
  • Consortiwm Amaethyddiaeth Drefol
  • Menter Môn
  • EcoStudio
  • Cynghrair Gweithwyr Tir Cymru
  • Bwyd Sir Gâr Food
  • Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS)
  • Lantra
  • PLANED

Derbyniwyd cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.