Nid ydym yn gwybod pryd y sefydlwyd y fferm yn gyntaf, er bod yr enw ‘Abermenda’ yn ymddangos yn y cofnodion yn 1637 ac mae’r pentref ei hun yn mynd yn ôl o leiaf 1400 o flynyddoedd. Mae nifer o’r hen enwau caeau Cymraeg ar y fferm – fel ‘Cae’r lleiniau’ a ‘Maesmawr’ – yn awgrymu hen batrymau ffermio sy’n ymestyn yn ôl i’r Oesoedd Canol cynnar. Y person cyntaf y gallwn gysylltu â sicrwydd â’r ffarm yw gŵr o’r enw Dafydd Thomas, sy’n ymddangos yn yr archifau yn y flwyddyn 1789 fel tenant arni ac a oedd hefyd yn ddiacon yng Nghapel y Ddôl yn y pentref.
Mae’r cipolwg hwnnw i fywyd un dyn yn mynd â ni yn ôl i fyd gwledig sydd bellach wedi cilio, lle roedd llawer mwy o bobl yn gweithio’r tir ac roedd mwy o waith a chyfleoedd cymdeithasol yn lleol. Byddai Dafydd a’r rhai o’i gwmpas i bob pwrpas yn byw eu holl fywyd trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn byw o fewn diwylliant cyfoethog oedd yn dathlu’r tir, ei bobl a’i fywyd gwyllt. Roedd y fferm hon ynghyd ag eraill ledled cefn gwlad Sir Gaerfyrddin hefyd yn ymarfer ffermio cymysg, gan gynhyrchu bwydydd a chnydau o bob math mewn ffyrdd cynaliadwy, cylchol. Mae atgofion o’r ffyrdd hynny – y gwaith caled a’r llawenydd – yn dal i fod gyda ni heddiw, gyda llawer o’r hen arferion ddim ond yn dod i ben o fewn y degawdau diwethaf yn y rhan yma o Gymru.
Mae’r fferm wedi bod yn rhan o ystâd Ffermydd Sirol Sir Gaerfyrddin ers yr 1970au, un o nifer o ffermydd o’r fath sy’n darparu llwybr pwysig i mewn i ffermio i ddarpar ffermwyr na fyddent fel arall yn gallu cael eu troed yn y drws. Nawr, mae’r Cyngor Sir, gyda chefnogaeth cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, wedi neilltuo cyfran o’r fferm i dyfu llysiau a ffrwythau ffres i blant ysgol a phobl mewn gofal, gyda gwaith ar droed ar hyn o bryd i weld sut y gallai’r fferm gyfan ddod yn fodel o amaethu cymysg adfywiol.
Byddai hyn yn golygu unwaith eto gynhyrchu amrywiaeth eang o fwydydd o’r tir hwn a chyflenwi cymaint ohono yn lleol o fewn y sir â phosibl. Mae’r bywyd gwyllt ar y fferm hon, o lannau graean y Tywi i’r coed derw hynafol, eisoes yn amhrisiadwy. Drwy leihau neu ddileu’r defnydd o wrteithiau a phlaleiddiaid a ffermio mewn ffordd sy’n adfywio cylchoedd pridd a natur, gallai’r fferm ddod yn fodel o gynaliadwyedd economaidd ac adfywiaeth naturiol ar gyfer y Sir gyfan.