Projects

Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin

Sefydlwyd Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin yn 2021 yn dilyn pandemig COVID-19 pan oedd pobl yn teimlo eu bod wedi’u datgysylltu, ar gyfer pobl a oedd yn cael trafferth cael bwyd, yn arbennig y rhai yr oedd angen banciau bwyd arnynt.

Mae’r rhwydwaith yn dwyn ynghyd: tyfwyr cymunedol, cynhyrchwyr bwyd proffesiynol, ysgolion, cogyddion, dosbarthwyr, banciau bwyd, prosiectau prydau bwyd poeth cymunedol a darparwyr bwyd dros ben, yn ogystal â rhanddeiliaid megis Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr.

Cenhadaeth y Rhwydwaith yw datblygu grŵp cydlynus o aelodau sy’n gallu cefnogi darpariaeth fwyd gynaliadwy trwy gysylltu â’i gilydd a chysylltu â’r gymuned, trwy rannu adnoddau ac arferion gorau yn ogystal â chefnogi’r rhai sydd mewn perygl o ddioddef tlodi bwyd. Mae’r manteision posibl i’r aelodau yn cynnwys cyfleoedd rhwydweithio yn y sector, rhannu sgiliau ac adnoddau, cyfleoedd cyllido, ymweliadau safle, hyfforddiant a chefnogaeth. Mae gan y Rhwydwaith oddeutu 150 o aelodau ac mae’n dal i dyfu.

Os oes ddiddordeb gennych mewn dod yn aelod am ddim, bydd gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer. Anfonwch neges e-bost at [email protected] ac anfonir y manylion aelodaeth atoch, a fydd yn fodd i chi ymuno â rhestr bostio Rhwydwaith Bwyd Sir Gâr a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd, digwyddiadau, cyllid a chyrsiau.

Newyddion diweddaraf

Darllenwch y newyddion a blogs diweddaraf gan Bwyd Sir Gâr Food.

  • Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr

    Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr

    Mae prosiect ar y gweill sy’n gweld llysiau o ffarm sirol yn Sir Gaerfyrddin yn bwydo plant mewn ysgol uwchradd gyfagos. Bydd llysiau lleol – wedi’u tyfu’n organig, eu cynaeafu a’u prosesu ar fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne – yn cael eu cludo i Ysgol Bro Dinefwr a’u gweini i…

    Darllen mwy

  • Taith astudio i Abbey Home Farm, Cirencester

    Taith astudio i Abbey Home Farm, Cirencester

    Yn galw ar dyfwyr a ffermwyr Sir Gaerfyrddin sydd â diddordeb mewn: sefydlu a rhedeg mentrau wedi pentyru ar y tir; rheoli plâu integredig ac agroecoleg. Mae gan Bwyd Sir Gâr wyth o leoedd wedi’u hariannu’n llawn ar daith astudio i Abbey Home Farm, ar Ddydd Mercher yr 2il o Hydref.

    Darllen mwy

  • Lansio gwefan Bwyd Sir Gâr Food

    Lansio gwefan Bwyd Sir Gâr Food

    Heddiw, caiff gwefan Bwyd Sir Gâr Food ei lansio – llwyfan newydd a fydd yn helpu i rannu gwaith gwych partneriaeth fwyd Sir Gaerfyrddin. Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cael eu lansio yn ogystal â brand newydd sbon. Bwyd Sir Gâr Food yw partneriaeth fwyd lleol Sir Gaerfyrddin a’i…

    Darllen mwy

Welsh Veg in Schools

We’re working with Food Sense Wales to develop new local agroecological supply chains into schools – so our children can enjoy locally grown fresh vegetables at lunchtimes.