
Creu system fwyd iachach, decach a mwy cynaliadwy yn Sir Gâr
Bwyd Sir Gâr yw partneriaeth fwyd lleol Sir Gaerfyrddin.
Ein nod yw cyd-greu system fwyd leol sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol sy’n cynhyrchu, yn hyrwyddo ac yn helpu i ddarparu bwyd fforddiadwy, iach a chynaliadwy i bawb.

Beth ydyn ni’n ei wneud?
Fel aelod o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, mae Bwyd Sir Gâr yn gweithio i greu system fwyd leol iachach, gynaliadwy a thecach trwy ddull sy’n seiliedig ar le, sy’n cael ei yrru gan bartneriaeth. Rydyn ni’n dod â phartneriaid o ystod o sectorau gwahanol ynghyd yn Sir Gâr i yrru a chyflawni newid.
Prosiectau Bwyd Da
Dyma rai o’r prosiectau rydyn ni’n ynghlwm â nhw:
-
Prosiect Datblygu Systemau Bwyd
Mae Bwyd Sir Gâr yn gweithredu Prosiect Datblygu Systemau Bwyd i edrych ar sut ry’n ni’n cynhyrchu, gwerthu, hyrwyddo a bwyta bwyd lleol a chynaliadwy yn Sir Gâr.
-
Cook 24
Porth i sgiliau bwyd a all newid dyfodol unigolion a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt. Cyflwynir Cook24, Cegin y Dyfodol, gan rai o weithwyr proffesiynol profiadol, ysbrydoledig y diwydiant sy’n gweithio yn rhai o’r busnesau mwyaf llwyddiannus a chreadigol yng Nghymru.
-
Banciau bwyd yn Sir Gaerfyrddin
Os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin ac yn cael trafferth cael bwyd, mae’n bosibl y gall Ymddiriedolaeth Trussell eich helpu.
Digwyddiadau sydd ar y gweill
Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol – Lefel 2
Llandybie Memorial Hall Llandybie Memorial Hall, AmmanfordSgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol – Lefel 2
Llandybie Memorial Hall Llandybie Memorial Hall, AmmanfordSgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol – Lefel 2
Llandybie Memorial Hall Llandybie Memorial Hall, AmmanfordNewyddion diweddaraf
Darllenwch y newyddion a blogs diweddaraf gan Bwyd Sir Gâr Food.
-
Arlwyo a Chaffael: cyflwyno dulliau arloesol i arlwywyr gaffael bwyd, a gwneud cadwyni cyflenwi lleol yn fwy gwydn a chynaliadwy
Ymddangosodd y blog yma ar wefan Synnwyr Bwyd Cymru yn wreiddiol, fel rhan o gyfres o astudiaethau achos ar Bartneriaethau Bwyd yng Nghymru. Mae Bwyd Sir Gâr yn ymrwymedig i greu system bwyd lleol iachach a mwy cynaliadwy i Sir Gaerfyrddin. Wedi’i sefydlu yn 2021, mae’r bartneriaeth fwyd yn ymrwymedig i gryfhau…
-
Grantiau Bach ar gyfer Gweithgareddau Bwyd
Mae Bwyd Sir Gâr Food yn cynnig chwe grant o £2,000 i ariannu gweithgareddau sy’n anelu at ddileu anghydraddoldeb, hyrwyddo cydraddoldeb, a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl. Mae’r grantiau ar gael i fudiadau cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin, ac mae’r gronfa hon wedi’i hanelu’n benodol at alluogi a chynyddu cyfranogiad…
-
Ffrwyth ein Llafur
Yn mis Rhagfyr 2024, cynhaliwyd digwyddiad yn yr Egin, Caerfyrddin i ddathlu gwaith Bwyd Sir Gâr ar draws y flwyddyn. Dan arweiniad Adam Jones (Adam yn yr Ardd), cafwyd diwrnod llawn o drafodaethau, cyflwyniadau a sgyrsiau diddorol ynglyn â’r system fwyd ar draws y sir. Meddai Augusta Lewis, Cydlynydd Bwyd…