News

Dathlu cyflawniadau Pys Plîs yng Nghymru

Fis Tachwedd, cynhaliodd Synnwyr Bwyd Cymru Cynhadledd Lysiau yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin i ddathlu gwaith a chyflawniadau menter Pys Plîs yng Nghymru.

Sefydlwyd y fenter Pys Plîs yn 2019, a’i chenhadaeth oedd ei gwneud hi’n haws i bawb yn y DU fwyta mwy o lysiau. Drwy gydol y rhaglen bedair blynedd, bu Synnwyr Bwyd Cymru yn arwain gwaith Pys Plîs yng Nghymru a thros y blynyddoedd daeth â ffermwyr, manwerthwyr a chadwyni bwytai, arlwywyr, proseswyr ac adrannau’r llywodraeth at ei gilydd gyda’r un nod o’i gwneud yn haws i bawb fwyta llysiau. Partneriaid eraill y prosiect oedd yn ymwneud â’r fenter hon yn y DU oedd The Food Foundation, Nourish Scotland, Food NI and Nourish NI.

Nod y rhaglen arloesol oedd yn canolbwyntio’n benodol ar lysiau, oedd annog diwydiant a’r llywodraeth i ymrwymo i wella argaeledd, derbynioldeb (gan gynnwys cyfleustra), fforddiadwyedd ac ansawdd y llysiau sydd ar gael mewn siopau, ysgolion, bwytai a thu hwnt, ac yn ei dro, ysgogi’r cyhoedd yn y DU i fwyta mwy o lysiau, yn enwedig plant a’r rhai ar incwm isel.

Ers lansio’r prosiect Pys Plîs bedair blynedd yn ôl, mae 1.1 biliwn o ddognau ychwanegol o lysiau wedi’u gwerthu neu eu gweini ac fe wnaeth 110 o sefydliadau addunedu i chwarae eu rhan yn y broses o helpu pawb yn y DU i fwyta dogn ychwanegol o lysiau bob dydd. Gelwir yr addunedau hyn yn Addunedau Llysiau ac yng Nghymru, Synnwyr Bwyd Cymru oedd yn gyfrifol am reoli 8 addunedwr cenedlaethol, 24 o addunedau lleol drwy Bwyd Caerdydd a 25 o addunedwyr Dinas Llysiau mewn partneriaeth â Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Llwyddodd wyth o fanwerthwyr i ychwanegu gwerth at y cynllun Cychwyn Iach ledled Cymru a’r DU hefyd, a chafodd 22 o bobl eu recriwtio’n Hyrwyddwyr Llysiau, gan weithio fel asiantau newid unigol yn eu cymuned leol a helpu i ysgogi’r newidiadau enfawr sydd eu hangen i gyrraedd y nod o gael pawb i fwyta mwy o lysiau.

Yn 2021, mewn ymgais i gynyddu’r llysiau a gynhyrchir yn lleol, rhoddodd Synnwyr Bwyd Cymru ynghyd â’n partneriaid, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, bump o grantiau Pys Plîs gwerth rhwng £2500 a £5000 i gynorthwyo busnesau bach sy’n cynhyrchu cynnyrch garddwriaethol bwytadwy sy’n gweithredu yng Nghymru. Dangosodd yr adroddiad dilynol y gallai buddsoddiad ar raddfa fach gael effaith sylweddol a chadarnhaol ar fusnesau garddwriaethol, gyda chynnydd o 75% ar gyfartaledd yng ngwerthiant llysiau.

Ac yn ddiweddarach yn 2022, fel rhan o adduned y cwmni o Sir Gâr, Castell Howell i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol, bu Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio gyda’r cyfanwerthwr i ddatblygu cynllun peilot i ymchwilio i’r hyn fyddai angen ei wneud yn ymarferol i roi llysiau gan gynhyrchwyr amaethecolegol o Gymru ar blatiau plant ysgol Cymru. Arweiniodd hyn at gyhoeddi adroddiad arall a oedd yn nodi bod prydau ysgol yn gyfle i greu marchnad ddiogel i gynhyrchwyr llysiau amaethecolegol a sut y gellir eu defnyddio fel y prif ddull o fuddsoddi mewn cadwyni cyflenwi llysiau yng Nghymru. Mae ail gam y cynllun peilot gyda chymorth cyllid Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru bellach yn ychwanegu at ganfyddiadau’r ‘Cynllun Peilot Courgettes’ gwreiddiol, ac yn edrych eto ar geisio cynyddu cyfanswm y llysiau lleol sy’n mynd i ysgolion.

Nodwyd Pys Plîs hefyd fel rhaglen yng nghynllun cyflawni 22-24 Pwysau Iach Cymru Iach o dan Faes Blaenoriaeth Cenedlaethol 1, sy’n llywio’r amgylchedd bwyd a diod tuag at opsiynau cynaliadwy ac iachach. Ei nod yw sicrhau bod ein hamgylchedd bwyd wedi’i dargedu mwy tuag at opsiynau iachach i wneud y dewis iach yn ddewis hawdd.

“Wrth i’r rhaglen Pys Plîs ddirwyn i ben, roedd Cynhadledd Lysiau Cymru yn gyfle pwysig iawn i ddiolch i bawb a fu’n rhan o Pys Plîs hyd yma – addunedwyr, cefnogwyr, hyrwyddwyr llysiau a buddiolwyr – ac i edrych ymlaen at sut y gallwn barhau i gydweithio ar y materion hyn yn sgil newidiadau heriol i’r rhaglen,” meddai Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru.

“Gwyddom nad yw pobl yn bwyta digon o lysiau yn y DU a datblygwyd Pys Plîs fel menter bartneriaeth i atgoffa pobl bod llysiau yn dda i ni a bod angen i ni fwyta mwy ohonynt. Dengys ystadegau diweddar a gyhoeddwyd gan Rwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion mai dim ond 37% o blant blynyddoedd 3 – 6 (7-11 oed) a arolygwyd sy’n bwyta o leiaf 1 dogn y dydd; mae merched yn llawer mwy tebygol o fwyta llysiau na bechgyn a bod dysgwyr o gartrefi incwm uwch yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bwyta llysiau bob dydd na’r rheini mewn cartrefi incwm isel.

“Nod Pys Plîs oedd gweld pobl yn bwyta mwy o lysiau; creu newid i’r system fwyd a sefydlu model llwyddiannus i bobl allu lleisio barn,” meddai Katie. “Yn ystod y digwyddiad cawsom ddathlu effaith Pys Plîs yng Nghymru, ar lefel unigol ac yn genedlaethol ar draws y DU, ac roedd yn fraint cydnabod cyfraniad cymuned Pys Plîs Cymru i newid y ffordd rydym yn meddwl am lysiau. Ond mae angen mwy o frys gan y Llywodraeth hefyd. Mae bwyta llysiau yn hanfodol i’n hiechyd – ac er gwaethaf ein hymdrechion gorau ar y cyd, mae’r defnydd o lysiau yn dal i ostwng. Dros y 4 blynedd diwethaf mae cyfran y llysiau yn ein basgedi siopa wedi gostwng o 7.2% pan lansiwyd Pys Plîs (Kantar 2017) i 6.8%. I fod yn unol â Chanllaw Bwyta’n Iach y llywodraeth, dylai 20% o’r fasged siopa fod yn lysiau.”

Yn ystod y Gynhdaledd Lysiau, amlygodd Synnwyr Bwyd Cymru rai o’r meysydd sydd wedi creu effaith, gan gynnwys y rhaglen hyrwyddwyr Llysiau; sut y llwyddodd cystadleuaeth hysbysebu Pys Plîs i greu Nerth Llysiau ac ymgyrch hysbysebu llysiau gwerth miliynau; cymunedau yn cymryd camau gweithredu ar Lysiau drwy’r Dinasoedd Llysiau; grantiau bach sydd wedi cael effaith fawr yn ogystal ag addunedau Pys Plîs.

Cymerodd Llinos Hallgarth, un o Hyrwyddwyr Llysiau Cymru ran yn y gynhadledd gan sôn am ei phrofiad o fod yn rhan o’r rhaglen. “Fel un o Hyrwyddwyr Llysiau Pys Plîs, roeddwn yn ddigon ffodus i gael swm bach o arian drwy’r cynllun grantiau bach a oedd yn ein galluogi i godi ymwybyddiaeth o’r prosiect drwy brosiect cymunedol ymarferol yn ardal Llandysul,” meddai Llinos. “Er mai dim ond swm bach o arian ydoedd, cafodd effaith fawr, gan greu gwaddol i adeiladu arno y flwyddyn ganlynol.

“Mewn cydweithrediad ag Yr Ardd, prosiect tyfu a gardd gymunedol rwy’n rhan ohono, fe wnaethom lwyddo i dyfu cynnyrch, ei gynaeafu a gwneud picl a jam ynghyd â chadwoli’r bwyd dros ben nad oeddem wedi gallu ei fwyta,” ychwanegodd Llinos. “Yn ddiddorol i mi, fel swyddog iaith menter iaith leol ‘Cered’, roedd yn ffordd i ni gysylltu hefyd â’n treftadaeth a’n diwylliant lleol drwy gasglu geiriau a therminoleg garddio, planhigion a choginio yn y Gymraeg, gwneud cofnod ohonyn nhw a sicrhau na fyddwn yn anghofio’r geiriau o ganlyniad i newidiadau mewn patrymau a defnydd o’r iaith.”

Un o banelwyr eraill y Gynhadledd Lysiau oedd Edward Morgan, Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a Rheolwr Hyfforddiant Bwydydd Castell Howell. Cymerodd ran mewn sgwrs a oedd yn edrych ar addunedau Pys Plîs Castell Howell. “Drwy gymryd rhan yn Pys Plîs daeth Castell Howell yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau i helpu i fynd i’r afael â materion deietegol,” meddai Edward Morgan. “Rydym yn cyflenwi bwyd i tua 1100 o ysgolion ac mae’n hanfodol ein bod ni’n helpu i ddarparu mwy o lysiau ar gyfer y prydau bwyd a’r fwydlen, ac mae gweithio gyda’n cadwyni cyflenwi yn hanfodol i gyflawni’r nodau hyn.”

Wrth i’r rhaglen Pys Plîs ddirwyn i ben, bydd Synnwyr Bwyd Cymru yn parhau i ychwanegu at ei llwyddiant drwy weithio gydag eraill yn y gymuned llysiau a garddwriaeth – gan eirioli dros fuddsoddiad gwerth chweil mewn garddwriaeth, creu achos er budd iechyd y cyhoedd a gweithio ar atebion drwy raglenni gwaith newydd, megis Pontio’r Bwlch. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn parhau i weithio ar y prosiect Llysiau o Gymru mewn Ysgolion hefyd, ac mewn cydweithrediad â phartneriaid Pys Plîs y DU, mae’r gwaith o gynllunio prosiect newydd yn seiliedig ar lysiau bellach ar y gweill.

Dyma fideo sy’n crynhoi’r digwyddiad: