Mae Bwyd Sir Gâr Food wedi ymgysylltu â channoedd o bobl o bob rhan o Sir Gâr i ddatblygu siarter fwyd, sy’n adlewyrchu’r hyn y mae pobl am ei gael o system fwyd yn yr 21ain ganrif.
Y Siarter
- Cefnogi ffermwyr a thyfwyr Sir Gaerfyrddin i ffynnu
- Deietau iach a chynaliadwy i bawb
- Bwyd yng nghanol ein cymunedau
- System fwyd leol amrywiol, ddiogel a gwydn sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
- Rhoi diwedd ar wastraff bwyd a llygredd
- Dathlu treftadaeth fwyd a dyfodol bwyd cyfoethog Sir GârCelebration of Carmarthenshire’s rich food heritage and food future
Gallwch chi helpu i wneud hyn yn realiti.
Er mwyn cefnogi’r nodau hyn, rydym wedi sefydlu rhai addewidion syml y gall pobl a sefydliadau ledled Sir Gâr eu gwneud i wneud ein bwyd yn fwy lleol, cynaliadwy ac iach.
Rydym yn gofyn i bobl wneud addewid i:
- Prynu mwy o fwyd lleol a chynaliadwy
- Bwyta deiet iachach a mwy cynaliadwy
- Coginio o’r dechrau’n amlach
- Tyfu fy llysiau neu fy mherlysiau fy hun
- Helpu i roi bwyd wrth galon y gymuned
- Gwastraffu llai
- Dathlu ein Stori Fwyd
Datblygu Siarter Fwyd Bwyd Sir Gâr Food
Rhwng Mai 2024 a Mai 2025 cafodd gweithdai ‘sgwrs am fwyd’ eu cynnal ar draws y sir fel bod llawer o bobl yn gallu dweud eu dweud wrth ddatblygu’r siarter. Roedd y rhain yn edrych ar y problemau yn y system fwyd gan gynnwys: effeithiau iechyd, llesiant, cydlyniant cymunedol, diwylliant, masnach deg, diogelwch bwyd, anghydraddoldeb o ran mynediad at fwyd iach a chynaliadwy, ac effaith cynhyrchu bwyd ar natur a’r hinsawdd.
Mae’r sgyrsiau hyn yn aml yn digwydd ochr yn ochr â gwahanol weithgareddau sy’n gysylltiedig â bwyd gan gynnwys tyfu, coginio, rhannu prydau bwyd a gweithgareddau creadigol i greu amgylchedd hamddenol, a oedd yn helpu pobl i rannu eu barn.
Roedd mwy na 225 o bobl o bob oed a chefndir, gan gynnwys trigolion, disgyblion ysgol a grwpiau cymunedol, wedi cymryd rhan mewn sesiynau ledled y sir, gan rannu’r hyn roeddent am ei weld o ran system fwyd yr 21ain ganrif yn Sir Gâr.
Sef:
| Siarter | Addewid | Camau gweithredu |
| 1. Cefnogi cynhyrchwyr lleol ac economi fwyd wydn | Cefnogi ffermwyr, tyfwyr a chynhyrchwyr bwyd Sir Gâr drwy ddewis bwyd lleol a chynaliadwy pryd bynnag y gallaf | – Siopa mewn marchnadoedd ffermwyr, siopau fferm, neu fanwerthwyr annibynnol lleol – Dewis cynnyrch Cymreig mewn archfarchnadoedd – Tanysgrifio i flwch llysiau neu gynllun dosbarthu bwyd lleol – Gofyn i fwytai a chaffis a ydynt yn cyrchu eu bwyd yn lleol – Rhannu a dathlu busnesau bwyd lleol ar y cyfryngau cymdeithasol |
| 2. Hyrwyddo deietau iachach, mwy cynaliadwy i bawb | Gwneud dewisiadau bwyd sy’n dda i’m hiechyd a’r blaned, a hynny trwy fwyta mwy o brydau sy’n canolbwyntio ar lysiau tymhorol a lleihau gwastraff bwyd | – Bwyta mwy o lysiau, corbys, a grawn cyflawn – Dewis cynnyrch tymhorol wedi’i dyfu’n lleol – Lleihau’r defnydd o fwydydd wedi’u prosesu’n helaeth (UPF) – Lleihau gwastraff bwyd trwy gynllunio prydau bwyd a defnyddio sbarion – Cefnogi mentrau bwyd sy’n gwneud bwyd iach yn hygyrch i bawb |
| 3. Ailgysylltu Pobl â Sgiliau Coginio a Bwyd3. Reconnect People with Cooking and Food Skills | Coginio mwy o brydau o’r dechrau gan ddefnyddio cynhwysion ffres, lleol, gan leihau gwastraff, gwella fy iechyd, a dathlu blasau a thraddodiadau Sir Gâr | – Rhoi cynnig ar un rysáit newydd wedi’i choginio gartref bob wythnos – Coginio gan ddefnyddio chynnyrch tymhorol o farchnadoedd a siopau lleol – Cynnwys plant neu aelodau o’r teulu wrth baratoi prydau bwyd – Coginio llawer o brydau bwyd ar yr un pryd a’u rhewi i arbed amser a lleihau gwastraff – Rhannu eich hoff brydau cartref â ffrindiau neu gymdogion |
| 4. Annog Tyfu Bwyd ar bob Lefel | Tyfu fy llysiau, fy mherlysiau, neu fy ffrwythau fy hun – boed mewn gardd, ar sil ffenestr, neu mewn gofod cymunedol a rennir. Byddaf yn ailgysylltu â’r man lle mae fy mwyd yn dod ac yn helpu i adeiladu Sir Gâr sy’n fwy gwyrdd a gwydn | – Dechrau gyda pherlysiau hawdd eu tyfu fel basil, mintys, neu gennin syfi – Plannu dail salad neu domatos mewn potiau neu gynwysyddion – Ymuno â gardd gymunedol neu randir lleol – Tyfu bwyd gyda phlant yn y cartref neu yn yr ysgol – Rhannu hadau, awgrymiadau, neu gynnyrch sydd dros ben â chymdogion – Sefydlu prosiect tyfu cymunedol |
| 5. Rhoi Bwyd wrth Galon Bywyd Cymunedol | Defnyddio bwyd fel ffordd o gysylltu ag eraill, helpu’r rhai mewn angen, a chryfhau fy nghymuned, a hynny drwy rannu prydau bwyd, gwirfoddoli, a chymryd rhan mewn mentrau bwyd lleol sy’n dod â phobl at ei gilydd | – Cynnal neu ymuno â phryd o fwyd cymunedol neu ddigwyddiad bwyd – Gwirfoddoli mewn banc bwyd, pantri, neu gegin gymunedol – Cefnogi neu ddechrau oergell gymunedol neu gynllun rhannu bwyd – Helpu mewn ysgol neu ardd gymunedol – Rhoi cynnyrch neu brydau dros ben i gymdogion neu elusennau lleol |
| 6. Hyrwyddo Diwylliant Bwyd Diwastraff, Isel ei Effaith | Lleihau gwastraff bwyd a llygredd trwy gynllunio prydau bwyd, defnyddio sbarion, compostio gweddillion bwyd, a dewis deunydd pecynnu isel ei effaith. Byddaf yn gwneud fy rhan i ddiogelu ein hamgylchedd ac adeiladu system fwyd gylchol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol | – Cynllunio prydau bwyd a siopa gan ddefnyddio rhestr i osgoi gorbrynu – Storio bwyd yn iawn i ymestyn ei gyfnod cadw – Defnyddio sbarion yn greadigol – Compostio gweddillion bwyd yn y cartref neu drwy gynllun lleol – Dewis cynhyrchion gydag ychydig iawn o ddeunydd pecynnu neu ddeunydd pecynnu y mae modd ei gompostio – Cefnogi busnesau sy’n lleihau gwastraff ac yn rhoi bwyd sydd dros ben |
| 7. Dathlu Treftadaeth a Dyfodol Bwyd Sir Gâr Food | Dathlu traddodiadau bwyd cyfoethog Sir Gâr a chefnogi ei dyfodol sy’n llewyrchus o ran bwyd, a hynny drwy rannu ryseitiau lleol, hyrwyddo cynnyrch Cymreig, a dathlu’r creadigrwydd a’r diwylliant sy’n gwneud ein bwyd yn unigryw | – Coginio a rhannu ryseitiau traddodiadol Sir Gâr neu rai Cymreig – Cefnogi gwyliau a digwyddiadau bwyd lleol – Adrodd straeon am gynhyrchwyr bwyd lleol neu draddodiadau bwyd teuluol – Rhoi cynnig ar gynhyrchion bwyd newydd, arloesol sy’n cael eu gwneud yn y rhanbarth – Annog pobl ifanc i archwilio treftadaeth fwyd a gyrfaoedd ym maes bwyd |
Cefnogwch y nodau hyn ac ymunwch â’n mudiad trwy wneud addewid ynghylch bwyd da