Projects

Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion

Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn brosiect peilot a gydlynir gan Synnwyr Bwyd Cymru sy’n anelu at gynnwys mwy o lysiau organig wedi’u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru.

Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion

Gan weithio gyda phartneriaid sy’n cynnwys Bwyd Sir Gâr Food ynghyd â Phartneriaethau Bwyd eraill yng Nghymru,  Castell Howell, adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio a thyfwyr bwyd brwdfrydig hefyd, mae’r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn helpu i gynnwys mwy o lysiau organig sydd wedi’u tyfu’n lleol mewn cinio ysgol.

Yn Sir Gaerfyrddin, Bwyd Sir Gâr sy’n hwyluso’r berthynas rhwng y prosiect Llysiau O gymru ar gyfer Ysgolion a’r llysiau sy’n cael eu tyfu ar Fferm Bremenda Isaf.

Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn ceisio ailgynllunio cadwyni cyflenwi i’w gwneud yn fwy teg ac yn fwy cadarn. Mae’n ychwanegu hefyd at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cynnig pryd ysgol am ddim a bod y bwyd sy’n cael ei ddefnyddio i goginio’r pryd hwnnw yn dod gan gyflenwyr lleol, pan fo hynny’n bosibl.   Gan mai dim ond oddeutu chwarter dogn llysiau y pen o’r boblogaeth sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd, mae gan Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru y gallu i ddatblygu’r farchnad er mwyn helpu i wireddu’r ymrwymiad hwn.

Synnwyr Bwyd Cymru

Dechreuodd Synnwyr Bwyd Cymru ymchwilio i’r broses o brynu llysiau wedi’u tyfu’n lleol drwy’r ‘Cynllun Peilot Courgettes’ – sef cynllun peilot a oedd yn cynnwys un tyfwr bwyd ac un cyfanwerthwr a lwyddodd i ddosbarthu bron i 1 tunnell o courgettes i ysgolion cynradd Caerdydd yn ystod rhaglen Bwyd a Hwyl haf 2022.  Bwyd Caerdydd, sef partneriaeth bwyd lleol y brifddinas, oedd yn hyrwyddo’r cynllun peilot, gan gynorthwyo i ddod â’r holl bartneriaid ynghyd, gan gynnwys Blas Gwent, Arlwyo Addysg Cyngor Caerdydd ac adran deieteg iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Castell Howell.

Yn 2023, gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, datblygodd y prosiect caffael hwn i fod yn gam cyntaf Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru gan weithio gyda thri thyfwr bwyd mewn tair ardal awdurdod lleol a gyda chefnogaeth cydlynwyr y partneriaethau bwyd lleol yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy.  Mae’r prosiect hefyd wedi cael cymorth gan Gyngor Sir Fynwy drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Yn ystod Gwanwyn 2024, cafodd Synnwyr Bwyd Cymru arian ychwanegol gan Pontio’r Bwlch – rhaglen a arweinir gan Sustain, Growing Communities ac Elusen Alexandra Rose – i ehangu’r gwaith ymhellach ac i greu rhwydwaith ehangach byth o arbenigedd a chymorth. Bydd y cam hwn o ymchwil gweithredol yn gweithio gyda mwy o dyfwyr bwyd ac awdurdodau lleol; yn ymchwilio sut i bontio’r bwlch rhwng costau cynnyrch confensiynol a llysiau wedi’u tyfu’n gynaliadwy yng Nghymru; a phrofi sawl dull i ganfod sut beth yw ‘cynllun buddsoddi cynaliadwy’.  Y nod yw datblygu model y gellir ei ymestyn ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Drwy gefnogi ffermio organig amaeth-ecolegol, mae’r prosiect hwn yn creu ffrwd incwm newydd neu allweddol amgen i dyfwyr bwyd ac i ffermwyr, yn ogystal â chreu cyfleoedd i blant gysylltu â natur a ffermio drwy ymweld â thyfwyr bwyd lleol.

Food Sense Wales is already researching future funding streams to develop this work beyond March 2025 to include more growers, local authorities and wholesalers. If you’re interested in getting involved with the Welsh Veg in Schools project, you can contact Food Sense Wales by emailing [email protected]

Mae Synnwyr Bwyd Cymru eisoes yn chwilio am ffrydiau cyllido ar gyfer y dyfodol i allu datblygu’r gwaith hwn ar ôl mis Mawrth 2025 ac i gynnwys mwy o dyfwyr bwyd, awdurdodau lleol a chyfanwerthwyr. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru, gallwch gysylltu â Synnwyr Bwyd Cymru drwy e-bostio [email protected] 

Gallwch ddarllen mwy am y prosect yma a gallwch hefyd gwylio fideo sy’n esbonio mwy isod:

Newyddion diweddaraf

Darllenwch y newyddion a blogs diweddaraf gan Bwyd Sir Gâr Food.

  • Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr

    Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr

    Mae prosiect ar y gweill sy’n gweld llysiau o ffarm sirol yn Sir Gaerfyrddin yn bwydo plant mewn ysgol uwchradd gyfagos. Bydd llysiau lleol – wedi’u tyfu’n organig, eu cynaeafu a’u prosesu ar fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne – yn cael eu cludo i Ysgol Bro Dinefwr a’u gweini i…

    Darllen mwy

  • Taith astudio i Abbey Home Farm, Cirencester

    Taith astudio i Abbey Home Farm, Cirencester

    Yn galw ar dyfwyr a ffermwyr Sir Gaerfyrddin sydd â diddordeb mewn: sefydlu a rhedeg mentrau wedi pentyru ar y tir; rheoli plâu integredig ac agroecoleg. Mae gan Bwyd Sir Gâr wyth o leoedd wedi’u hariannu’n llawn ar daith astudio i Abbey Home Farm, ar Ddydd Mercher yr 2il o Hydref.

    Darllen mwy

  • Lansio gwefan Bwyd Sir Gâr Food

    Lansio gwefan Bwyd Sir Gâr Food

    Heddiw, caiff gwefan Bwyd Sir Gâr Food ei lansio – llwyfan newydd a fydd yn helpu i rannu gwaith gwych partneriaeth fwyd Sir Gaerfyrddin. Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cael eu lansio yn ogystal â brand newydd sbon. Bwyd Sir Gâr Food yw partneriaeth fwyd lleol Sir Gaerfyrddin a’i…

    Darllen mwy

Encouraging Children’s Cooking Skills

We’re working with Food Sense Wales to develop new local agro-ecological supply chains into schools – so our children can enjoy locally grown fresh vegetables at lunchtimes.