Projects

Bwyd a Hwyl

CYFood and Fun is a school-based education programme that provides food and nutrition education, physical activity, enrichment sessions and healthy meals to children during the school summer holidays.

Beth yw Bwyd a Hwyl?

Gan ddechrau fel cynllun peilot gan Gyngor Caerdydd yn 2015, mae Bwyd a Hwyl wedi datblygu’n rhaglen genedlaethol wedi’i hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru a gaiff ei gweinyddu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Yn 2023, bu 175 o ysgolion yn darparu’r rhaglen gan ddarparu mwy na 11,150 o leoedd i blant bob dydd y bu’n rhedeg.

 


Fe fydd CLlLC yn parhau i gyflwyno’r rhaglen drwy weithio’n agos gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau partner.

 

Sir Gaerfyrddin

Yn Sir Gaerfyrddin, mae Bwyd a Hwyl yn cael ei gydlynu gan Alice Jones, Tîm Gofal Plant a Chwarae, Gwybodaeth i Deuluoedd, Cyngor Sir Caerfyrddin.

Yn ystod haf 2024, bydd Bwyd a Hwyl yn cael ei ddarparu mewn 9 ysgol ar draws Sir Gaerfyrddin:

  • Ysgol Y Bedol
  • Ysgol Pontyberem
  • Ysgol Betws
  • Ysgol Burry Port
  • Ysgol Pen Rhos
  • Ysgol Llanmiloe
  • Ysgol Myrddin
  • Ysgol Old Road
  • Ysgol Gyfun Emlyn

Os oes gennych ddiddordeb dysgu mwy am raglen Bwyd a Hwyl yn Sir Gaerfyrddin, cysylltwch â [email protected]

I gael gwybodaeth am raglen Bwyd a Hwyl yng Nghymru, ewch i’r brif wefan. ‘Bwyd a Hwyl’

Newyddion diweddaraf

Darllenwch y newyddion a blogs diweddaraf gan Bwyd Sir Gâr Food.

  • Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr

    Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr

    Mae prosiect ar y gweill sy’n gweld llysiau o ffarm sirol yn Sir Gaerfyrddin yn bwydo plant mewn ysgol uwchradd gyfagos. Bydd llysiau lleol – wedi’u tyfu’n organig, eu cynaeafu a’u prosesu ar fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne – yn cael eu cludo i Ysgol Bro Dinefwr a’u gweini i…

    Darllen mwy

  • Taith astudio i Abbey Home Farm, Cirencester

    Taith astudio i Abbey Home Farm, Cirencester

    Yn galw ar dyfwyr a ffermwyr Sir Gaerfyrddin sydd â diddordeb mewn: sefydlu a rhedeg mentrau wedi pentyru ar y tir; rheoli plâu integredig ac agroecoleg. Mae gan Bwyd Sir Gâr wyth o leoedd wedi’u hariannu’n llawn ar daith astudio i Abbey Home Farm, ar Ddydd Mercher yr 2il o Hydref.

    Darllen mwy

  • Lansio gwefan Bwyd Sir Gâr Food

    Lansio gwefan Bwyd Sir Gâr Food

    Heddiw, caiff gwefan Bwyd Sir Gâr Food ei lansio – llwyfan newydd a fydd yn helpu i rannu gwaith gwych partneriaeth fwyd Sir Gaerfyrddin. Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cael eu lansio yn ogystal â brand newydd sbon. Bwyd Sir Gâr Food yw partneriaeth fwyd lleol Sir Gaerfyrddin a’i…

    Darllen mwy

Encouraging Children’s Cooking Skills

We’re working with Food Sense Wales to develop new local agro-ecological supply chains into schools – so our children can enjoy locally grown fresh vegetables at lunchtimes.