Projects

Hyfforddiant sgiliau maeth i weithwyr cymunedol / gweithwyr iechyd proffesiynol

Mae Tîm Deieteg Gwella Iechyd Hywel Dda yn darparu hyfforddiant sgiliau maeth i weithwyr cymunedol fel nyrsys meithrin, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr gofal, cynorthwywyr addysgu, gwirfoddolwyr a llawer mwy. Eu nod yw gweithio gyda gweithwyr cymunedol i ddatblygu sgiliau bwyd a maeth yng ngwaith bob dydd y rhai sydd mewn cysylltiad rheolaidd â grwpiau cymunedol ac sy’n deall anghenion pobl leol orau.

Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol

Lefel 2

Os ydych chi’n gweithio gydag unigolion, teuluoedd neu grwpiau cymunedol ac yn awyddus i drosglwyddo negeseuon bwyd a maeth cyson sy’n seiliedig ar dystiolaeth i eraill ac i gyflwyno cyrsiau sgiliau bwyd a maeth achrededig lefel 1, dyma’r cwrs i chi! Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ym meysydd bwyd a maeth ac yn rhoi syniadau ac adnoddau i chi eu defnyddio gyda grwpiau cymunedol i’w cefnogi i fwyta’n dda.

Mae 10 sesiwn, a gyflwynir fel arfer fel un sesiwn yr wythnos am 10 wythnos. Fodd bynnag, gellir cyflwyno cyrsiau mewn nifer o wahanol ffyrdd yn ôl yr angen.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am gynnwys y cwrs.

Mae’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol wedi’i osod ar lefel dau ac mae’n werth tri chredyd (30 awr ddysgu dan arweiniad). Mae achrediad yn dangos lefel y dysgu rydych wedi’i gyflawni ac i gael credyd mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod wedi bodloni’r holl feini prawf asesu ar gyfer yr uned. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am faeth, nid oes unrhyw arholiadau na thraethodau i boeni amdanyn nhw, ond i brofi eich bod wedi bodloni’r meini prawf asesu bydd gofyn i chi gwblhau portffolio o dystiolaeth ar gyfer asesu. Mae mynychu’r sesiynau hefyd yn rhan bwysig o’r asesiad.

Bydd tiwtor y cwrs yn eich cefnogi gyda phob agwedd ar y cwrs, a bydd cymorth ar gael ar ôl y cwrs i’r rhai sydd am roi eu dysgu ar waith e.e. i weithredu a bodloni elfen bwyd a maeth y Cynllun Ysgolion Iach a’r Wobr Ansawdd Genedlaethol; i gyflwyno’r sesiynau addysg maeth Bwyd a Hwyl; i ddarparu rhaglenni Bwyd Doeth am Oes neu Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd yn y gymuned, neu i gyflwyno ac asesu’r cyrsiau Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol lefel 1 achrededig, Dechrau Coginio neu Dewch i Goginio.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu un o’r cyrsiau hyn neu os ydych yn gweithio i sefydliad sydd am sefydlu cwrs Sgiliau Maeth Lefel 1 am Oes, cysylltwch â thîm Dieteteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 01267 227 067 neu e-bostiwch [email protected]  am ragor o fanylion.

Apiau Defnyddiol

Mae yna hefyd rai Apiau am ddim ar gael a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

Ap Bwyd Doeth

Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd

Newyddion diweddaraf

Darllenwch y newyddion a blogs diweddaraf gan Bwyd Sir Gâr Food.

  • Arlwyo a Chaffael: cyflwyno dulliau arloesol i arlwywyr gaffael bwyd, a gwneud cadwyni cyflenwi lleol yn fwy gwydn a chynaliadwy

    Arlwyo a Chaffael: cyflwyno dulliau arloesol i arlwywyr gaffael bwyd, a gwneud cadwyni cyflenwi lleol yn fwy gwydn a chynaliadwy

    Ymddangosodd y blog yma ar wefan Synnwyr Bwyd Cymru yn wreiddiol, fel rhan o gyfres o astudiaethau achos ar Bartneriaethau Bwyd yng Nghymru. Mae Bwyd Sir Gâr yn ymrwymedig i greu system bwyd lleol iachach a mwy cynaliadwy i Sir Gaerfyrddin. Wedi’i sefydlu yn 2021, mae’r bartneriaeth fwyd yn ymrwymedig i gryfhau…

    Darllen mwy

  • Grantiau Bach ar gyfer Gweithgareddau Bwyd

    Grantiau Bach ar gyfer Gweithgareddau Bwyd

    Mae Bwyd Sir Gâr Food yn cynnig chwe grant o £2,000 i ariannu gweithgareddau sy’n anelu at ddileu anghydraddoldeb, hyrwyddo cydraddoldeb, a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl. Mae’r grantiau ar gael i fudiadau cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin, ac mae’r gronfa hon wedi’i hanelu’n benodol at alluogi a chynyddu cyfranogiad…

    Darllen mwy

  • Ffrwyth ein Llafur

    Ffrwyth ein Llafur

    Yn mis Rhagfyr 2024, cynhaliwyd digwyddiad yn yr Egin, Caerfyrddin i ddathlu gwaith Bwyd Sir Gâr ar draws y flwyddyn. Dan arweiniad Adam Jones (Adam yn yr Ardd), cafwyd diwrnod llawn o drafodaethau, cyflwyniadau a sgyrsiau diddorol ynglyn â’r system fwyd ar draws y sir. Meddai Augusta Lewis, Cydlynydd Bwyd…

    Darllen mwy

Llysiau

We’re working with Food Sense Wales to develop new local agro-ecological supply chains into schools – so our children can enjoy locally grown fresh vegetables at lunchtimes.