Projects

Bwydlen ein Bro

Bwydlen Ein Bro yw’r her flynyddol i ysgolion sy’n rhoi cyfle iddynt ddefnyddio cynnyrch o ardd eu hysgol a chysylltu â chyflenwyr a chynhyrchwyr lleol i ddatblygu pryd cymunedol yn seiliedig ar fetrau bwyd yn hytrach na milltiroedd bwyd.

Her Ysgolion Sir Gâr 2024

Lansiwyd Her Ysgolion ‘Bwydlen Ein Bro’ ym mis Medi 2023. Mae’n ddigwyddiad blynyddol seiliedig ar brosiect sy’n gyfle i ysgolion ddefnyddio cynnyrch o’u gerddi ysgol a chysylltu â chyflenwyr a chynhyrchwyr lleol, i ddatblygu pryd cymunedol yn seiliedig ar fetrau bwyd yn hytrach na milltiroedd bwyd.

Yr her: creu pryd a ysbrydolwyd gan eich ardal leol.

  • Defnyddio cynhwysion o ardd yr ysgol a chan gynhyrchwyr lleol.
  • Rhannu’r pryd yn eich ysgol.
  • Hyrwyddo cynhwysion lleol a’r cynhyrchwyr yn eich cymuned.
  • Rhannu eich syniadau gwych mewn cyflwyniad creadigol.

Rhaid cyflwyno cynigion erbyn dydd Llun 14 Tachwedd 2024.

Gweinir y cynnig buddugol ym mwyty Wright’s, Llanarthne, a bydd y dathliad amser cinio yn cynnwys cyfle i chi rannu eich stori.

Anfonwch eich cynnig at: [email protected]

Y llynedd, enillwyr y Wobr Aur oedd Ysgol Bro Banw ac Ysgol Llangennech. Aeth disgyblion o’r ddwy ysgol ati i baratoi eu ryseitiau buddugol ym mwyty Wright’s (Wright’s Food Emporium), Llanarthne cyn gweini’r fwydlen flasus i’r gwahoddedigion.

Last year’s Gold Award schools were Ysgol Bro Banw and Ysgol Llangennech. Pupils from both prepared their winning recipes at Wright’s Food Emporium, Llanarthne and then served their delicious menu to invited guests.