News

Ffermio yn unol â Natur

Ffarm yw tir Bremenda Isaf ers dechrau ein cofnodion hanesyddol, ond dyw hynny ddim wedi ei rhwystro rhag bod yn gartref i bopeth o ddyfrgwn i fwncathod, ac o gen (sef ‘lichen’) i bathewod (‘dormice’). Mae ffermio a natur wedi cyd-esblygu yng Nghymru dros gyfnod o sawl mileniwm, ac mae’r fferm hon yn cynnwys cartrefi ar gyfer yr amrywiaeth hon o fywyd gwyllt – o lannau graean y Tywi i gaeau corsiog y bryniau y tu ôl a’r gwrychoedd hynafol.

Cyfoeth o rywogaethau

Mae dyfroedd y Tywi yn enwog am eu poblogaethau o sewin ac eogiaid, gydag adar fel yr iâr ddŵr, cwtieir a’r cwtiad torchog bach (sef ‘little ringed plover’), sy’n brin yn genedlaethol, hefyd yn weddol gyffredin ar hyd ei glannau. Mae’r afon ei hun a’i thraethau graean, ystumllynnoedd ac ati yn cefnogi bioamrywiaeth gyfoethog i mewn ac allan o’r dŵr: mae’r adar sy’n gaeafu yma yn creu côr trawiadol yn eu tymor! Mae dyffryn Tywi hefyd yn gartref i 75% o’r holl boblogaeth Gymreig o olfan y mynydd (‘tree sparrow’) – felly pan fyddwch yn ymweld â’r safle, cadwch eich llygaid ar agor!

I ffwrdd o’r afon efallai y gwelwch bathewod a ffyngau prin yn tyfu yn y porfeydd llaith, yn ogystal â charwe troellog– blodyn sirol Sir Gaerfyrddin. Mae’r hen goed derw unigol sy’n sefyll yn wyliadwrus ar hyd rhannau o gloddiau’r fferm hefyd yn gynefinoedd pwysig ar gyfer cen, pryfed ac adar.

Newidiadau

Gwyddom o atgofion a chofnodion gan bobl hŷn o’r ardal hon fod llawer o rywogaethau a oedd gynt yn bresennol bellach wedi’u colli neu wedi mynd yn brin. Mae rhai o’r rhain yn golledion enfawr – arferai rhegen yr ŷd (‘corncrake’), sydd bellach mewn perygl enbyd, fod yn gwmni cyfarwydd yn yr ardal hon gyda’i chân gras, aflafar. Roedd adar eraill, sydd bellach yn brin yn y rhan hon o Gymru gan gynnwys glas y dorlan, cudyll y gwynt a’r gïach, yn arfer bod yn ddigon cyffredin yn lleol i blant gasglu eu wyau.

Mae llawer o’r adar hyn wedi dioddef yn sgil y lleihad mewn pryfed (i’w bwyta) a’r gostyngiad mewn ardaloedd addas i nythu a magu eu rhai ifanc – ac mae pob un ohonynt wedi dioddef o’r newidiadau enfawr ym myd ffermio dros y saith deg mlynedd diwethaf. Mewn tirwedd a arferai fod â chlytwaith o ddefnydd – tyfu gwenith a haidd, perllannau afalau, dolydd gwair a phorfa –dim ond un cnwd dominyddol sydd erbyn hyn, sef glaswellt. Nawr, wrth i’r tir gael ei ddychwelyd i gynhyrchu bwyd organig mewn ffordd adfywiol, gobeithio y bydd rhywogaethau newydd yn dod o hyd i gartref yma ochr yn ochr â ffermio.