Projects

Cylch Peiriannau

Mae Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn gweithio gyda thyfwyr bach yn Sir Gaerfyrddin i greu ‘llyfrgell’ o beiriannu i gynorthwyo gwaith cynhyrchu, bioamrywiaeth ac iechyd y pridd.

Gyda chymorth rhwydwaith o dyfwyr lleol, bu Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn edrych ar yr offer, y cyfarpar a’r peiriannau a fyddai o gymorth iddynt gynhyrchu mwy o’r llysiau sy’n allweddol i’r sector cyhoeddus (ysgolion a chartrefi gofal). Mae Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol hefyd yn gweithio gydag arbenigwyr o Lantra ac Ymgynghoriaeth Ffermio Gynaliadwy, ac yn dysgu yn ogystal o’r gronfa o arbenigedd sydd wedi datblygu ar hyd y cenedlaethau yn y gymuned ffermio ehangach.

Gallwch gael mynediad at y cylch peiriannau yma.

Un rhwystr wrth geisio tyfu mwy o ffrwythau a llysiau, ac adfywio’r pridd yn ogystal, yw cael y peiriannau a’r cyfarpar cywir ar gyfer y gwaith. Yn rhan o’r prosiect hwn, prynodd Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol ystod o eitemau a fydd yn cynyddu capasiti tyfwyr bach, megis tractor dwy olwyn gydag amrywiaeth eang o ategolion. Gan fanteisio ar yr hyn a ddysgwyd yn sgil cynllun Benthyg a llyfrgelloedd benthyca eraill, mae Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn cyd-ddatblygu mecanwaith a fydd yn caniatáu i’r peiriannau fod yn hygyrch a chael eu rhannu’n deg.

Ein gobaith yw gweld y cynllun arbrofol bach hwn yn sbarduno newid mewn garddwriaeth fwytadwy, gyda rhagor o dyfwyr a ffermwyr yn arallgyfeirio i gynhyrchu ffrwythau a llysiau er mwyn bodloni’r galw cynyddol am gynnyrch lleol maethlon.

Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â’r Prosiect Datblygu Systemau Bwyd yn Sir Gaerfyrddin a gwaith Bwyd Sir Gâr Food.

Ariennir y cylch peiriannau gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU trwy Gyngor Sir Caerfyrddin.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect rhannu cyfarpar, cysylltwch â Steve Morris neu Alison Sheffield yn Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol.