Projects

Cook 24

Porth i sgiliau bwyd a all newid dyfodol unigolion a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt. Cyflwynir Cook24, Cegin y Dyfodol, gan rai o weithwyr proffesiynol profiadol, ysbrydoledig y diwydiant sy’n gweithio yn rhai o’r busnesau mwyaf llwyddiannus a chreadigol yng Nghymru.

 

Os ydych chi’n ystyried dyfodol ym maes bwyd, gallwn eich helpu i gael mynediad i’r byd creadigol, cyffrous hwnnw. Os ydych am gyflwyno sgiliau coginio newydd i’ch teulu, eich cymuned, eich ysgol neu’ch busnes, yr ydym yma i sicrhau bod hynny’n digwydd. Cyflawnir hyn oll trwy ystod amrywiol o gyfleoedd hyfforddiant hyblyg a drefnwyd i fod yn hygyrch ble bynnag yr ydych yn y sir.

Os oes gennych gwestiynau neu ymholiadau ynghylch prosiect Cook24, Cegin y Dyfodol, anfonwch neges e-bost at [email protected]

Gwybod mwy