Projects
Gardeniser Pro
Cwrs achrededig a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n cynnig cymorth penodol i arweinwyr gerddi cymunedol yw Gardeniser Pro a gyflwynir gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol.
Diolch i gyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, bu modd i Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol ariannu deg arweinydd gardd gymunedol i gwblhau cwrs Gardeniser Pro yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r cwrs achrededig hwn a gydnabyddir yn rhyngwladol yn cael ei gyflwyno gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol ac mae’n cynnig cymorth penodol i arweinwyr gerddi cymunedol. Mae’r rôl yn fwy na thechnegydd neu ddylunydd tirwedd; mae’n arbenigwr, yn hwyluswr, yn hyfforddwr, yn gwnselydd neu’n ffrind, a hefyd yn gyfuniad o’r holl elfennau hynny. Drwy hyfforddi carfan newydd i arwain mannau tyfu cymunedol yn y sir, gallwn sbarduno cynnydd mewn cyfleoedd cysylltiedig i ddinasyddion gael mynediad i fannau cymunedol lleol lle mae bwyd yn tyfu ac mae byd natur a phobl yn ffynnu.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma.