Digwyddiadau
- This digwyddiadau has passed.
O iechyd a lles, cymunedau, yr economi, amgylchedd naturiol a hinsawdd mae’r ffordd ry’n ni’n cynhyrchu, dosbarthu a bwyta bwyd yn cael effaith fawr ar y byd.
Ymunwch â ni am fore anffurfiol i sgwrsio am yr heriau a chyfleon ry’n ni’n eu gwynebu o gwmpas bwyd ac i archwilio atebion. Ry’n ni eisiau clywed EICH BARN CHI.
Bydd y canlyniadau yn cyfrannu at siarter fwyd yn Sir Gâr gydag addunedau all trigolion, busnesau a’r sector gyhoeddus eu gwneud ar gyfer system fwyd mwy teg, iachus a chynaliadwy i’r sir.
Cynnwys CINIO AM DDIM & DIOD. Nodwch bod y sesiwn yn Llandysul trwy gyfrwng y Gymraeg, croeso mawr i ddysgwyr Cymraeg.
Archebwch eich lle am ddim yma.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, ebostiwch [email protected]
Nifer cyfyngedig, rhaid archebu lle.