
Digwyddiadau
Holi ac Ateb: Grantiau Bach ar gyfer Gweithgareddau Bwyd
Mae Bwyd Sir Gâr Food yn cynnig chwe grant o £2,000 i ariannu gweithgareddau sy’n anelu at ddileu anghydraddoldeb, hyrwyddo cydraddoldeb, a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl. Mae’r grantiau ar gael i fudiadau cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin, ac mae’r gronfa hon wedi’i hanelu’n benodol at alluogi a chynyddu cyfranogiad aelodau o grwpiau ag un neu fwy Nodwedd Gwarchodedig.
Trwy weithgareddau a digwyddiadau arloesol a deniadol sy’n ymwneud â bwyd, bydd gweithgarwch a ariennir yn dod â phobl ynghyd i hwyluso ‘sgyrsiau bwyd’, ar sut y gallwn gydweithio ar gyfer system fwyd gynhwysol, wydn, gynaliadwy a theg yn lleol ac yn fyd-eang. Bydd canlyniadau’r sgyrsiau hyn yn cyfrannu at ddatblygu siarter bwyd ar gyfer Sir Gaerfyrddin wedi’i choladu gan Bwyd Sir Gâr Food.
Cronfa Datblygu Partneriaeth Bwyd Lleol Gweinyddiaeth Cyfiawnder Llywodraeth Cymru yw hon, a weinyddir gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol ar ran Bwyd Sir Gâr Food. Croesewir ceisiadau ar y cyd rhwng sefydliadau.
Llinell amser
- Datblygu prosiect a gweminar holi ac ateb ar gyfer sefydliadau cymunedol â diddordeb: Dydd Mawrth 25ed Chwefror 2-2.30pm. Cliciwch yma [https://us02web.zoom.us/j/89385268417?pwd=AbxWQFCb7Cz5NHj03MADb2Gz2lOa7b.1 ID y cyfarfod: 893 8526 8417 Cod pas: 868931] i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 12ed Mawrth, hanner nos
- Hysbysir y dyfarnwyr: Dydd Llun 17ed Ebrill
Prosiect wedi’i gwblhau a’r adroddiad wedi’i gyflwyno erbyn Dydd Sul Ebrill 27ed

- This digwyddiadau has passed.