Loading Digwyddiadau
Digwyddiadau

Cyswllt Ffermio: Arallgyfeirio garddwriaethol

Hydref 3 @ 2:00 pm - 4:00 pm

Treialu cynhyrchiant o godlysiau-grawnfwyd fel ffynhonell bwyd i bobl

Ymunwch â ni yn Mremenda Isaf yn Llanarthne ar gyfer digwyddiad Cyswllt Ffermio. Fel Fferm Ffocws i Cyswllt Ffermio, mae Bremenda Isaf yn arbrofi gyda chynhyrchu codlysiau-grawnfwyd fel ffynhonnell bwyd i bobl.

Trefnwyd gan Farming Connect
  • This digwyddiadau has passed.

Bydd y digwyddiad hwn yn hyrwyddo a thrafod amcanion y prosiect, gan gynnwys:

  • Canfod ac arddangos mathau o godlysiau a grawn sy’n addas i dyfu yn sir Gâr ac sydd hefyd yn addas fel ffynhonell bwyd i bobl
  •  Archwilio amaethu, cynaeafu a dulliau prosesu ar gyfer y cnydau a ddewiswyd
  • Canfod cadwyn gyflenwi ar gyfer y sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol

Mae’r fferm yn gweithio’n agos gyda thîm arlwyo ysgolion Cyngor Sir Gâr drwy fwydlen dwy flwydd oed sydd wedi’i chreu a’i dylunio o amgylch y defnydd o gynhwysion tymhorol, lleol a chynaliadwy. Bydd y fferm a’r tîm arlwyo yn archwilio’r hyfywedd wrth gynnwys gwahanol godlysiau yn y fwydlen fel adnodd cynaliadwy ychwanegol o faeth i ddisodli cynhwysion sy’n cael eu mewnforio mewn prydiau bwyd.

Yn ogystal â thyfu codlysiau a gwenith, mae Bremenda Isaf yn datblygu nifer o strategaethau arallgyfeirio a fydd yn cael eu trafod mewn manylder yn y digwyddiad. Mae hyn yn gyfle gwych i archwilio opsiynau newydd ar gyfer arallgyfeirio i arddwriaeth a thrafod caffael cyhoeddus fel ffordd i’r farchnad. Bydd cyfle i drafod y gwaith prosiect gyda’r tyfwyr a deall mwy am gynlluniau hirdymor y fferm sirol.

Os nad ydych yn aelod o Cyswllt Ffermio ac eisiau ymuno â ni, ebostiwch Hannah Norman, Swyddog Sector Garddwriaeth: [email protected]

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.