Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan yn ein mudiad, gan gynnwys dod yn llysgennad lleol a gwirfoddoli ar gyfer un o’n prosiectau.
Y ffordd symlaf o ddechrau arni yw gwneud addewid i ymrwymo i un neu fwy o’n nodau bwyd.
Ein nodau bwyd
Mae pobl ledled Sir Gâr wedi ein helpu i ddod o hyd i 7 ffordd y gallwn ni i gyd helpu i wella ein bwyd. Pa un allech chi ei gefnogi?
addewid wedi’u gwneud hyd yma
Ydych chi’n fusnes neu’n sefydliad o’r trydydd sector?
Ymunwch â’n Siarter Fwyd Sir Gâr a dangoswch eich ymrwymiad i fwyd lleol a chynaliadwy.
Rydym yn gofyn i sefydliadau:
- Cefnogi ffermwyr, tyfwyr a chynhyrchwyr bwyd Sir Gâr drwy ddewis bwyd lleol a chynaliadwy pryd bynnag y gallwch
- Hyrwyddo dewisiadau bwyd ar gyfer iechyd eich staff, ymwelwyr neu gwsmeriaid – ac ar gyfer y blaned – a hynny trwy weini mwy o brydau tymhorol, sy’n canolbwyntio ar lysiau, gan leihau gwastraff bwyd
- Coginio mwy o brydau gan ddefnyddio cynhwysion ffres, lleol – lleihau gwastraff, gwella iechyd eich staff a’ch cwsmeriaid, a dathlu blasau a thraddodiadau Sir Gâr
- Cefnogi prosiectau a sefydliadau sy’n helpu pobl i dyfu eu bwyd eu hunain, cefnogi staff i ailgysylltu â’r ardal lle mae eu bwyd yn dod, a helpu i adeiladu Sir Gâr sy’n fwy gwyrdd a gwydn
- Lleihau gwastraff bwyd a llygredd trwy ddefnyddio sbarion, compostio gweddillion bwyd, a dewis deunydd pecynnu isel ei effaith. Gwnewch eich rhan i ddiogelu ein hamgylchedd ac adeiladu system fwyd gylchol
- Dathlu traddodiadau bwyd cyfoethog Sir Gâr a chefnogi ei dyfodol sy’n llewyrchus o ran bwyd, a hynny drwy hyrwyddo cynnyrch Cymreig, a dathlu’r creadigrwydd a’r diwylliant sy’n gwneud ein bwyd yn unigryw
Byddwn yn rhannu manylion eich busnes a’ch llwyddiannau â phobl ledled y sir ar ein gwefan, ein llythyr newyddion a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
A hoffech chi wneud rhagor?
Os hoffech gefnogi Bwyd Sir Gâr Food ymhellach, cysylltwch â’n tîm:






