Amdanom Ni

Beth yw Bwyd Sir Gâr Food?

Bwyd Sir Gâr Food yw partneriaeth fwyd leol Sir Gaerfyrddin, gyda’r weledigaeth o greu system fwyd ffyniannus, gynaliadwy, gynhwysol a gwydn yn cael ei chynnal ar draws y sir.

Mae’n dod â phartneriaid o sectorau gwahanol i fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan ymdrechu i sicrhau bwyd da i bawb.

Ein Cenhadaeth

Ein Gweledigaeth

Mae ein prif bartneriaid yn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys:

  • Cyngor Sir Gaerfyrddin
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin
  • Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin
  • Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
  • Synnwyr Bwyd Cymru
  • Castell Howell
  • Cywain
  • Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Cyfranogwyr yn nigwyddiad dathlu prosiect Treftadaeth Bwyd Bwyd Sir Gâr yn rhannu cân am ein treftadaeth fwyd gyfoethog a’n dyfodol.

Ein Gwerthoedd

Annog rhanddeiliaid, gan gynnwys unigolion a chymunedau, i gymryd rhan, dod yn ddinasyddion bwyd egnïol a theimlo elfen o falchder a pherchnogaeth o ran eu system fwyd leol.

Datblygu a chynnal perthynas waith strategol a chadarnhaol â rhanddeiliaid – sefydliadau’r trydydd preifat, y sector preifat a’r sector cyhoeddus – ynghyd ag unigolion a chymunedau i helpu i lywio a chreu system fwyd fwy cynaliadwy a llewyrchus i Sir Gaerfyrddin.

Estyn allan i gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin ac ymgysylltu â nhw mewn ffyrdd perthnasol, priodol a sensitif yn ddiwylliannol.

Sicrhau ein bod yn cyrraedd pobl o bob oedran a chefndir ar draws Sir Gaerfyrddin ac annog pawb i gymryd rhan yn ein gweithgareddau.

Rydym yn flaengar ac yn ymdrin â phrosiectau a chyflawni prosiectau mewn ffordd arloesol a chyfoes.

Cyfranogwyr yng Nghanolfan Deuluol Betws mewn rhaglen a gefnogir gan Fwyd Sir Gâr ac a arweinir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.


Darllenwch fwy am daith Bwyd Sir Gâr ers ei sefydlu yma

Pwy ydym ni?

Mae yna grŵp mawr o bobl sy’n helpu i bennu cyfeiriad gwaith Bwyd Sir Gâr. Dyma’r bobl sy’n rhan o grŵp llywio’r bartneriaeth fwyd. Yn ogystal, mae gennym staff prosiect.

Darllenwch fwy am y gwaith a’r unigolion sy’n ymwneud â’r prosiect.

Arweinwyr etholedig, trigolion ardal Llanarthne, a chynrychiolwyr undebau ffermio yn ymweld â Fferm Sirol Bremenda Isaf.

Beth yw Lle Bwyd Cynaliadwy?

Mae Bwyd Sir Gâr yn falch o fod yn aelod o rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ac yn 2022, dyfarnwyd gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy i Sir Gaerfyrddin, ac yn 2025 gwobr arian fawreddog, i gydnabod ei hymrwymiad i adeiladu system fwyd sirol ffyniannus, gynaliadwy, gynhwysol a gwydn.

Mae Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn un o’r mudiadau cymdeithasol sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae ei rwydwaith yn dod â phartneriaethau bwyd arloesol o drefi, dinasoedd, bwrdeistrefi, rhanbarthau a siroedd ledled y DU at ei gilydd, partneriaethau sy’n sbarduno arloesedd ac arfer gorau mewn perthynas â phob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy. Mae rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn dangos y gall partneriaeth fwyd leol helpu i ysgogi’r newid sylfaenol yn ein system fwyd leol gan ddod yn ganolbwynt ar gyfer mudiad bwyd da o ddinasyddion gweithgar ac ymgysylltiol.

Mae newid y system fwyd yn gofyn am ddull systemau. Mae hyn yn golygu cael gweledigaeth a chynllun i gyflawni newid ar draws ystod o faterion bwyd gwahanol ond cysylltiedig. Mae hefyd yn gofyn am bobl leol a sefydliadau sy’n gweithio ar bob lefel, ac ar draws pob rhan o’r system fwyd.

Mae fframwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ar gyfer gweithredu yn nodi 6 mater allweddol y dylid mynd i’r afael â nhw gyda’i gilydd i gyflawni newid sylfaenol yn y system fwyd.

I gael rhagor o wybodaeth am Leoedd Bwyd Cynaliadwy, ewch i’r wefan.

Mae’r rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn bartneriaeth rhwng y Soil Association, Food Matters a Sustain. Caiff ei ariannu gan Gronfa Esmée Fairbairn a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Synnwyr Bwyd Cymru yw partner cenedlaethol Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru ac ry’n ni’n cefnogi’r deg aelod cyfredol yng Nghymru, sef Bwyd Caerdydd, Bwyd y Fro, Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy, Bwyd RCT, Phartneriaeth Bwyd Blaenau Gwent, Partneriaeth Bwyd Powys, Bwyd Sir Gâr Fwyd yn Sir Gaerfyrddin, Bwyd Abertawe, Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr a Phartneriaeth Bwyd Torfaen.

Dysgwch fwy am systemau bwyd trwy wylio’r fideo byr yma:

Partneriaethau Bwyd

Mae partneriaethau bwyd yn dod â phartneriaid o amrywiaeth o wahanol sectorau at ei gilydd i helpu i fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol wrth iddynt ymdrechu i sicrhau bwyd da i bawb. Mae partneriaid fel arfer yn cynnwys cyrff cyhoeddus fel Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol yn ogystal â rhanddeiliaid ymroddedig eraill fel sefydliadau gwirfoddol, elusennau, busnesau bwyd, manwerthwyr, cyfanwerthwyr, tyfwyr a ffermwyr.

Mae partneriaethau bwyd yn datblygu cydnerthedd mewn rhwydweithiau bwyd lleol drwy gyd-gysylltu gweithgarwch ar lawr gwlad sy’n ymwneud â bwyd a helpu i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd. Mae nhw hefyd yn allweddol ar gyfer adeiladu a chadw cyfoeth yng Nghymru – yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol – ac yn helpu i hybu cydweithio a chynwysoldeb.

Mae Bwyd Sir Gâr Food yn un o 22 o bartneriaethau bwyd ar draws Cymru ac yn un o 10 aelod o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru. Mae Bwyd Sir Gâr Food nawr yn brysur yn tyfu seilwaith sy’n seiliedig ar leoedd, gan helpu i gyfrannu at ddatblygu ‘mudiad bwyd da’ yn ogystal â strategaethau bwyd cymunedol ehangach sy’n sicr o o fod o fudd i iechyd, economi, cynaliadwyedd a ffyniant cymdeithasol ein cymunedau.

Ar gyfer gwybodaeth bellach am bartneriaethau bwyd, ewch i wefan Synnwyr Bwyd Cymru yma.

Beth yw diffiniad Bwyd Sir Gâr o ‘fwyd iach a chynaliadwy’?

Mae deiet iach a chynaliadwy yn cyd-fynd â’n hymrwymiad yng Nghymru i leihau afiechydon sy’n gysylltiedig â deiet drwy strategaeth Pwysau Iach, Cymru Iach, a thrwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Mae’n pwysleisio amrywiaeth o gynhwysion lleol, tymhorol a gynhyrchir mewn systemau ffermio sy’n gyfeillgar i natur sy’n:

  • cwrdd ag anghenion y presennol heb beryglu anghenion cenedlaethau’r dyfodol.
  • cefnogi bioamrywiaeth yn lleol
  • lleihau allyriadau, llygredd a gwastraff pecynnu
  • dathlu diwylliant bwyd
  • sicrhau economi fwyd leol ffyniannus ac amrywiol a bywoliaethau teg
  • gwella diogelwch bwyd a gwydnwch
  • adeiladu mynediad cyfartal at fwyd a gynhyrchir yn lleol
  • gweithio tuag at Gymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang

  

Polytwnnel yn Fferm Sirol Bremenda Isaf, Llanarthne.

Helpwch i wneud bwyd iach a chynaliadwy yn realiti

I gefnogi’r ymrwymiad hwn, rydym wedi sefydlu rhai addewidion syml y gall pobl a sefydliadau ledled Sir Gaerfyrddin eu gwneud i wneud ein bwyd yn fwy lleol, cynaliadwy ac iach.

Rydym yn gofyn i bobl wneud addewid i:

  1. Prynu mwy o fwyd lleol a chynaliadwy
  2. Bwyta deiet iachach a mwy cynaliadwy
  3. Coginio o’r dechrau’n amlach
  4. Tyfu fy llysiau neu fy mherlysiau fy hun
  5. Helpu i roi bwyd wrth galon y gymuned
  6. Gwastraffu llai
  7. Dathlu ein Stori Fwyd