Digwyddiadau
Bwyta’n Gall, Cynilo’n Well
Ymunwch â ni ar fferm Bremenda Isaf, Llanarthne, i gael syniadau ar sut i fwyta’n gall tra’n arbed arian.
- This event has passed.
Byddwch yn derbyn parsel o fwyd a ffedog ac fe fydd y sesiwn yn cynnwys arddangosfa coginio a chyfle i flasu’r bwyd. Byddwn yn cynnig enghreifftiau o sut i siopa’n gall ar gyfer iechyd da gan arbed ar wastraff. Mae’r sesiwn ar agor i bawb.
I gadw eich lle, ebostiwch Kate gyda eich enw a rhif ffôn a pha sesiwn rydych chi’n ymuno ag e: hidieteticteam.hdd@@wales.nhs.uk