Rydym yn haeddu system fwyd well: un sy’n gynaliadwy, yn decach i ffermwyr a chynhyrchwyr, ac yn iachach i ni.
Fel sir wledig, mae ein system fwyd yn cael effaith enfawr ar ein hamgylchedd, ein cymuned, ac ar iechyd pawb.
Ymunwch â Bwyd Sir Gâr Food a gwnewch addewid syml i gefnogi cynhyrchwyr lleol, bwyta’n dda, coginio o’r dechrau, tyfu eich hun, neu gryfhau bwyd yn eich cymuned. Mae pob gweithred yn gwneud gwahaniaeth. Mae pob gweithred yn gwneud gwahaniaeth
Ein nodau bwyd
Roedd cannoedd o bobl ledled Sir Gâr wedi ein helpu i ddewis saith nod ar gyfer sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i wneud ein bwyd yn well.
Mae llawer o newidiadau syml, yn aml rhai bach, y gallwn ni i gyd eu gwneud.
Dewch i ddysgu sut y gallwch chi helpu, ac ymuno â’r mudiad sy’n tyfu, trwy archwilio ein saith nod:
Dewch i wybod mwy am y broses ac am siarter fwyd Bwyd Sir Gâr Food.
Ymunwch â’n mudiad a gwnewch addewid i wneud newidiadau bach a fydd yn gwneud ein bwyd yn fwy lleol, cynaliadwy ac iach






