Rhannwch eich newyddion
Dywedwch wrth eich cwsmeriaid, ffrindiau a theulu am eich addewidion. Rydyn ni wedi creu rhai postiadau y gallwch chi eu rhannu ar Instagram neu Facebook.
Lawrlwythwch y delweddau yma a chopïwch y testun isod.
Rwyf wedi’i wneud! ✋ Rwyf wedi gwneud addewid i helpu i lunio ein stori fwyd yn Sir Gâr.
Mae newidiadau bach yn arwain at effeithiau mawr i’n cymuned a’n planed. Dyma’r rhestr lawn o addewidion y gallwch ddewis ohonyn nhw i gymryd rhan:
🛒 Prynu mwy o fwyd lleol a chynaliadwy 🥗 Bwyta bwyd iachach a mwy cynaliadwy 🍳 Coginio o’r dechrau’n amlach 🪴 Tyfu fy llysiau, perlysiau neu ffrwythau fy hun 🤝 Cysylltu â’m cymuned trwy fwyd 🗑️ Gwastraffu llai o fwyd ✨ Dathlu ein stori am fwyd Sir Gâr
Yn barod i ymuno â’r mudiad? Dim ond munud y mae’n ei gymryd i helpu i wneud ein system fwyd leol yn well i bawb.
Gwnewch yr addewid drwy fynd i bwydsirgarfood.org neu sganiwch y côd QR yn y llun.