Siarter Fwyd Bwyd Sir Gâr Food

Mae Bwyd Sir Gâr Food wedi ymgysylltu â channoedd o bobl o bob rhan o Sir Gâr i ddatblygu siarter fwyd, sy’n adlewyrchu’r hyn y mae pobl am ei gael o system fwyd yn yr 21ain ganrif.

Y Siarter

  • Cefnogi ffermwyr a thyfwyr Sir Gaerfyrddin i ffynnu
  • Deietau iach a chynaliadwy i bawb
  • Bwyd yng nghanol ein cymunedau
  • System fwyd leol amrywiol, ddiogel a gwydn sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
  • Rhoi diwedd ar wastraff bwyd a llygredd
  • Dathlu treftadaeth fwyd a dyfodol bwyd cyfoethog Sir GârCelebration of Carmarthenshire’s rich food heritage and food future

Gallwch chi helpu i wneud hyn yn realiti.

Er mwyn cefnogi’r nodau hyn, rydym wedi sefydlu rhai addewidion syml y gall pobl a sefydliadau ledled Sir Gâr eu gwneud i wneud ein bwyd yn fwy lleol, cynaliadwy ac iach.

Rydym yn gofyn i bobl wneud addewid i:

  1. Prynu mwy o fwyd lleol a chynaliadwy
  2. Bwyta deiet iachach a mwy cynaliadwy
  3. Coginio o’r dechrau’n amlach
  4. Tyfu fy llysiau neu fy mherlysiau fy hun
  5. Helpu i roi bwyd wrth galon y gymuned
  6. Gwastraffu llai
  7. Dathlu ein Stori Fwyd

Datblygu Siarter Fwyd Bwyd Sir Gâr Food

Rhwng Mai 2024 a Mai 2025 cafodd gweithdai ‘sgwrs am fwyd’ eu cynnal ar draws y sir fel bod llawer o bobl yn gallu dweud eu dweud wrth ddatblygu’r siarter. Roedd y rhain yn edrych ar y problemau yn y system fwyd gan gynnwys: effeithiau iechyd, llesiant, cydlyniant cymunedol, diwylliant, masnach deg, diogelwch bwyd, anghydraddoldeb o ran mynediad at fwyd iach a chynaliadwy, ac effaith cynhyrchu bwyd ar natur a’r hinsawdd.

Mae’r sgyrsiau hyn yn aml yn digwydd ochr yn ochr â gwahanol weithgareddau sy’n gysylltiedig â bwyd gan gynnwys tyfu, coginio, rhannu prydau bwyd a gweithgareddau creadigol i greu amgylchedd hamddenol, a oedd yn helpu pobl i rannu eu barn.

Roedd mwy na 225 o bobl o bob oed a chefndir, gan gynnwys trigolion, disgyblion ysgol a grwpiau cymunedol, wedi cymryd rhan mewn sesiynau ledled y sir, gan rannu’r hyn roeddent am ei weld o ran system fwyd yr 21ain ganrif yn Sir Gâr.

Sef:

Cefnogwch y nodau hyn ac ymunwch â’n mudiad trwy wneud addewid ynghylch bwyd da