
Digwyddiadau
Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol – Lefel 2
Nod y cwrs hwn, sy’n cael ei redeg gan Bwyd Sir Gâr yw cymhwyso cyfranogwyr gyda gwybodaeth maeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i hyrwyddo negeseuon cyson bwyd a maeth yn seiliedig ar dystiolaeth i grwpiau cymunedol y maent yn cydweithio a hwy.

Mae’r cwrs yma am ddim i rai sy’n gweithio / gwirfoddoli yn y gymuned.
Yn person: Cyfanswm o 20 awr o addysgu anffurfiol wedi ei drefnu i gwrdd a gofynion, a hyd at 10 awr o ddysgu gartref. Nid oes arholiadau na thraethodau dim ond taflenni gwaith i ffurfio portffolio.
Ar-Lein: Cyfanswm o 10 awr o addysgu ar-lein, a hyd at 20 awr o ddysgu gartref. Nid oes arholiadau na thraethodau dim ond taflenni gwaith i ffurfio portffolio.
Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gydag Agored Cymru ar lefel 2, ac mae’n werth 3 credyd (cymharol mewn cymhlethdod i radd TGAU A-C, NVQ2 a GNVQ canolraddol).
I gadw eich lle, bydd angen cwblhau y ffurflen gofrestru isod a’i anfon at yr ebost yma: [email protected]
Ffurflen Archebu lle – Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2