{"id":1717,"date":"2024-09-30T09:49:11","date_gmt":"2024-09-30T09:49:11","guid":{"rendered":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/"},"modified":"2024-10-07T14:27:45","modified_gmt":"2024-10-07T14:27:45","slug":"bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/","title":{"rendered":"Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae prosiect ar y gweill sy&#8217;n gweld llysiau o ffarm sirol yn Sir Gaerfyrddin yn bwydo plant mewn ysgol uwchradd gyfagos.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd llysiau lleol \u2013 wedi\u2019u tyfu\u2019n organig, eu cynaeafu a\u2019u prosesu ar fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne \u2013 yn cael eu cludo i Ysgol Bro Dinefwr a\u2019u gweini i ddisgyblion fel rhan o giniawau thema yn ystod eu diwrnod ysgol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1288\" height=\"966\" src=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/WhatsApp-Image-2024-09-17-at-16.17.52-2.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1714\" srcset=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/WhatsApp-Image-2024-09-17-at-16.17.52-2.jpeg 1288w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/WhatsApp-Image-2024-09-17-at-16.17.52-2-500x375.jpeg 500w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/WhatsApp-Image-2024-09-17-at-16.17.52-2-768x576.jpeg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1288px) 100vw, 1288px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r cynllun hwn yn bartneriaeth rhwng yr ysgol, Adran Arlwyo Cyngor Sir Gaerfyrddin a menter o&#8217;r enw Prosiect Datblygu Systemau Bwyd &#8211; prosiect sy\u2019n cael ei arwain gan bartneriaid o bartneriaeth fwyd <a href=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\">Bwyd Sir G\u00e2r<\/a> sy&#8217;n edrych ar sut ry\u2019n ni\u2019n cynhyrchu, gwerthu, hyrwyddo a bwyta bwyd lleol a chynaliadwy yn Sir G\u00e2r.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l cymryd drosodd gwaith dydd i dydd Bremenda Isaf, ffarm Gyngor cant erw yn Llanarthne, mae t\u00eem y prosiect yn treialu ffyrdd newydd o gael llysiau lleol i blatiau ysgolion cynradd a chartrefi gofal y Sir. Mae\u2019r datblygiad cyffrous hwn gydag Ysgol Bro Dinefwr yn rhan o\u2019r gwaith hwnnw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn defnyddio dulliau ffermio natur gyfeillgar, mae\u2019r t\u00eem ym Mremenda Isaf yn tyfu amrywiaeth o lysiau fydd yn cyrraedd prydau bwyd ysgolion a chartrefi gofal, yn sicrhau bod trigolion ifancaf a henaf y sir yn cael budd o gynnyrch, ffresh, lleol o safon uchel. Mae cnydau yn amrywio o ciwcymbyr i foron a sbrowts i bwmpenni gyda\u2019r llysiau canlynol yn gwneud eu ffordd i Ysgol Bro Dinefwr, a fydd yn golygu bod dros 40kg o lysiau lleol yn cael eu gweini ar blatiau ysgol ar y diwrnod cyntaf:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ciwcymbr<\/li>\n\n\n\n<li>Ffenigl<\/li>\n\n\n\n<li>Ffa dringo<\/li>\n\n\n\n<li>Brocoli Porffor<\/li>\n\n\n\n<li>Tomatos<\/li>\n\n\n\n<li>Chard Enfys<\/li>\n\n\n\n<li>Betys<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cRydym yn falch iawn o weld y cnydau cyntaf o ffarm sirol Bremenda Isaf yn gwneud eu ffordd ar blatiau myfyrwyr Bro Dinefwr,\u201d meddai Chris Pugh, Uwch Reolwr Arlwyo Cyngor Sir Gaerfyrddin. \u201cMae defnyddio cynnyrch ffres o ansawdd uchel a dyfwyd yn lleol, ar ein bwydlen yn gam cyntaf cyffrous cyntaf ym mhrosiect datblygu systemau bwyd ehangach yr adran arlwyo. Mae\u2019n Cogyddion yn edrych ymlaen at ddangos sut y gellir hyrwyddo cynnyrch lleol fel rhan o amrywiaeth o brydau cyffrous gyda blas o bedwar ban byd.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ychwanega Alex Cook, Rheolwr y Prosiect Datblygu Systemau Bwyd: &#8220;Mae datblygu a dylunio bwydlenni yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu bwyd cynaliadwy, lleol ar y pl\u00e2t cyhoeddus. Trwy gyflogi tyfwyr yn uniongyrchol i gynhyrchu&#8217;r bwyd, dyma ddatrysiad arloesol a chydweithredol sy\u2019n dangos effaith cyfathrebu da rhwng y galw, y cyflenwad a\u2019r dosbarthu.&nbsp; Dyma gam gwych ymlaen, gyda phartneriaid yn cydweithio tuag at greu Systemau Bwyd Sir Gaerfyrddin sy&#8217;n cynhyrchu, yn darparu ac yn hyrwyddo bwyd cynaliadwy ac iach ar gyfer Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r fferm hefyd yn <a href=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/farming-connect-support-helps-food-system-initiative-trial-legume-production\/\">tyfu grawn<\/a> wrth iddo archwilio dychwelyd i ffyrdd traddodiadol o ffermio cymysg sydd yn garedig i natur ac yn cymryd i ystyriaeth treftdaeath y ffarm a\u2019r diwylliant bwyd lleol.&nbsp; Mae hyn wedi cael ei ystyried mewn mwy o fanylder fel rhan o\u2019r&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/projects\/bremenda-isaf-heritage-project-project\/\">Prosiect Treftadaeth<\/a>&nbsp;sydd wedi bod yn annog pobl lleol i feddwl am y fferm, y cynnyrch a\u2019r tir, ac yn gofyn i gyfranogwyr ymateb i sut mae hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo trwy gelf, barddoniaeth a ch\u00e2n.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ogystal \u00e2 threialu\u2019r prosiect arloesol yn Mremenda Isaf, mae\u2019r prosiect hefyd yn gweithio gyda th\u00eem o ddeitetegwyr yn Mwrdd Iechyd Hywel Dda i ddatblygu sgiliau coginio a maeth pobl, tra\u2019n partneru gyda Rhwydwaith Fwyd Sir Gaerfyrddin i ddatblygu cysylltiadau cymunedol trwy fwyd ym mhob cornel o\u2019r sir.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Meddai\u2019r Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet dros aterion Gwledig, Cynllunio a Chydlyniant Cymunedol Cyngor Sir G\u00e2r: &#8220;Mae&#8217;n wych gweld y prosiect hwn yn cyflawni ei dargedau gyda bwyd ffres, lleol a hynod faethlon yn cael ei gynhyrchu&#8217;n effeithlon yma yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer ein plant ysgol. Mae gwaith Systemau Bwyd yn cwmpasu llawer o\u2019n hamcanion strategol fel Cyngor, popeth o\u2019r Economi Wledig a\u2019r Amgylchedd i Iechyd Cymunedol a Threchu Tlodi. Mwy o Ffermwyr, Mwy o Fwyd, Mwy o Wytnwch.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r prosiect wedi ariannu datblygu <a href=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/\">gwefan<\/a> hefyd i godi ymwybyddiaeth o waith Bwyr Sir G\u00e2r Food ac i gael cymaint o bobl o\u2019r sir yn rhan o adeiladu dyfodol bwyd gwell i ni gyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Bwyd Sir G\u00e2r Food hefyd yn rhan o brosiect cenedlaethol, sef <a href=\"https:\/\/www.synnwyrbwydcymru.org.uk\/good-food-movement\/llysiau-o-gymru-ar-gyfer-ysgolion-cymru\/\">Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion<\/a> \u2013 menter a gydlynir gan&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.foodsensewales.org.uk\/\">Synnwyr Bwyd Cymru<\/a>&nbsp;sy\u2019n anelu at gynnwys mwy o lysiau organig wedi\u2019u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru.&nbsp; Bydd llysiau o Fremenda Isaf yn cael eu cyflenwi i ysgolion ar draws chwe awdurdod lleol sy&#8217;n cymryd rhan yn y prosiect. Yn Sir Gaerfyrddin, mae\u2019r llysiau sy\u2019n cael eu tyfu fel rhan o Lysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn cael eu dosbarthu i ysgolion yn ystod <a href=\"https:\/\/www.lovebritishfood.co.uk\/british-food-fortnight-2024\">Pythefnos Bwyd Prydeinig<\/a>, sef Medi\u2019r 10fed \u2013 Hydref 6ed.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gan weithio gyda phartneriaid sy\u2019n gynnwys&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.castellhowellfoods.co.uk\/\">Castell Howell<\/a>, adran&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.wales.lantra.co.uk\/farming-connect-agriculture-horticulture\">Garddwriaeth Cyswllt Ffermio<\/a>&nbsp;a thyfwyr bwyd brwdfrydig hefyd, mae\u2019r prosiect&nbsp;Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn helpu i gynnwys mwy o lysiau organig sydd wedi\u2019u tyfu\u2019n lleol mewn cinio ysgol.&nbsp; Mae&nbsp;Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn ceisio ailgynllunio cadwyni cyflenwi i\u2019w gwneud yn fwy teg ac yn fwy cadarn. Mae\u2019n ychwanegu hefyd at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cynnig pryd ysgol am ddim a bod y bwyd sy\u2019n cael ei ddefnyddio i goginio\u2019r pryd hwnnw yn dod gan gyflenwyr lleol, pan fo hynny\u2019n bosibl.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gan mai dim ond oddeutu chwarter dogn llysiau y pen o\u2019r boblogaeth sy\u2019n cael ei gynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd, mae gan y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, ynghyd \u00e2\u2019r prosiect peilot sy\u2019n cael ei ddatblygu gyda Ysgol Bro Dinefwr a ffarm Bremenda Isaf, ill dau y potensial nid yn unig i gynyddu\u2019r farchnad leol gan effeithio\u2019n bositif ar yr economi leol, ond hefyd y gallu i helpu plant i gysylltu \u00e2\u2019u bwyd ac i ddeall yn well o ble daw eu bwyd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae prosiect ar y gweill sy&#8217;n gweld llysiau o ffarm sirol yn Sir Gaerfyrddin yn bwydo plant mewn ysgol uwchradd gyfagos. Bydd llysiau lleol \u2013 wedi\u2019u tyfu\u2019n organig, eu cynaeafu a\u2019u prosesu ar fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne \u2013 yn cael eu cludo i Ysgol Bro Dinefwr a\u2019u gweini i<a class=\"moretag\" \n\thref=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/\">&#8230;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":1713,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_price":"","_stock":"","_tribe_ticket_header":"","_tribe_default_ticket_provider":"","_tribe_ticket_capacity":"0","_ticket_start_date":"","_ticket_end_date":"","_tribe_ticket_show_description":"","_tribe_ticket_show_not_going":false,"_tribe_ticket_use_global_stock":"","_tribe_ticket_global_stock_level":"","_global_stock_mode":"","_global_stock_cap":"","_tribe_rsvp_for_event":"","_tribe_ticket_going_count":"","_tribe_ticket_not_going_count":"","_tribe_tickets_list":"[]","_tribe_ticket_has_attendee_info_fields":false,"footnotes":""},"categories":[34],"tags":[],"class_list":["post-1717","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr - Bwyd Sir G\u00e2r Food<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr - Bwyd Sir G\u00e2r Food\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae prosiect ar y gweill sy&#8217;n gweld llysiau o ffarm sirol yn Sir Gaerfyrddin yn bwydo plant mewn ysgol uwchradd gyfagos. Bydd llysiau lleol \u2013 wedi\u2019u tyfu\u2019n organig, eu cynaeafu a\u2019u prosesu ar fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne \u2013 yn cael eu cludo i Ysgol Bro Dinefwr a\u2019u gweini i...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Bwyd Sir G\u00e2r Food\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-09-30T09:49:11+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-10-07T14:27:45+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Bremenda-Isaf-Llysiau-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Lowri Johnston\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Lowri Johnston\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Lowri Johnston\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/8e01f6a9d49bcdf9457afa382e4e595b\"},\"headline\":\"Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr\",\"datePublished\":\"2024-09-30T09:49:11+00:00\",\"dateModified\":\"2024-10-07T14:27:45+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\\\/\"},\"wordCount\":1060,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/09\\\/Bremenda-Isaf-Llysiau-scaled.jpg\",\"articleSection\":[\"Newyddion\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\\\/\",\"name\":\"Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr - Bwyd Sir G\u00e2r Food\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/09\\\/Bremenda-Isaf-Llysiau-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2024-09-30T09:49:11+00:00\",\"dateModified\":\"2024-10-07T14:27:45+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/8e01f6a9d49bcdf9457afa382e4e595b\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/09\\\/Bremenda-Isaf-Llysiau-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/09\\\/Bremenda-Isaf-Llysiau-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1707},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Bwyd Sir G\u00e2r Food\",\"description\":\"Driving healthy and sustainable food in Carmarthenshire\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/8e01f6a9d49bcdf9457afa382e4e595b\",\"name\":\"Lowri Johnston\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/76481d16dd5e24d41b68865d3f51630a2fbac3b76cdd6ec05e724afa8da1bcb6?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/76481d16dd5e24d41b68865d3f51630a2fbac3b76cdd6ec05e724afa8da1bcb6?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/76481d16dd5e24d41b68865d3f51630a2fbac3b76cdd6ec05e724afa8da1bcb6?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Lowri Johnston\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/author\\\/lowrijohnston\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr - Bwyd Sir G\u00e2r Food","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr - Bwyd Sir G\u00e2r Food","og_description":"Mae prosiect ar y gweill sy&#8217;n gweld llysiau o ffarm sirol yn Sir Gaerfyrddin yn bwydo plant mewn ysgol uwchradd gyfagos. Bydd llysiau lleol \u2013 wedi\u2019u tyfu\u2019n organig, eu cynaeafu a\u2019u prosesu ar fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne \u2013 yn cael eu cludo i Ysgol Bro Dinefwr a\u2019u gweini i...","og_url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/","og_site_name":"Bwyd Sir G\u00e2r Food","article_published_time":"2024-09-30T09:49:11+00:00","article_modified_time":"2024-10-07T14:27:45+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Bremenda-Isaf-Llysiau-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Lowri Johnston","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Lowri Johnston","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/"},"author":{"name":"Lowri Johnston","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/#\/schema\/person\/8e01f6a9d49bcdf9457afa382e4e595b"},"headline":"Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr","datePublished":"2024-09-30T09:49:11+00:00","dateModified":"2024-10-07T14:27:45+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/"},"wordCount":1060,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Bremenda-Isaf-Llysiau-scaled.jpg","articleSection":["Newyddion"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/","url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/","name":"Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr - Bwyd Sir G\u00e2r Food","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Bremenda-Isaf-Llysiau-scaled.jpg","datePublished":"2024-09-30T09:49:11+00:00","dateModified":"2024-10-07T14:27:45+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/#\/schema\/person\/8e01f6a9d49bcdf9457afa382e4e595b"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Bremenda-Isaf-Llysiau-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/Bremenda-Isaf-Llysiau-scaled.jpg","width":2560,"height":1707},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/bremenda-isaf-farm-supplying-ysgol-bro-dinefwr-with-local-veg\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/","name":"Bwyd Sir G\u00e2r Food","description":"Driving healthy and sustainable food in Carmarthenshire","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/#\/schema\/person\/8e01f6a9d49bcdf9457afa382e4e595b","name":"Lowri Johnston","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/76481d16dd5e24d41b68865d3f51630a2fbac3b76cdd6ec05e724afa8da1bcb6?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/76481d16dd5e24d41b68865d3f51630a2fbac3b76cdd6ec05e724afa8da1bcb6?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/76481d16dd5e24d41b68865d3f51630a2fbac3b76cdd6ec05e724afa8da1bcb6?s=96&d=mm&r=g","caption":"Lowri Johnston"},"url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/author\/lowrijohnston\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1717","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1717"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1717\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1725,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1717\/revisions\/1725"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1713"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1717"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1717"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1717"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}