{"id":1020,"date":"2024-06-18T13:02:55","date_gmt":"2024-06-18T13:02:55","guid":{"rendered":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/"},"modified":"2024-07-02T13:38:17","modified_gmt":"2024-07-02T13:38:17","slug":"celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/","title":{"rendered":"Dathlu cyflawniadau Pys Pl\u00ees yng Nghymru"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile is-image-fill\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\" style=\"background-image:url(https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture-1-1-e1719313181654.jpg);background-position:50% 50%\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"960\" height=\"640\" src=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture-1-1-e1719313181654.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-448 size-full\" srcset=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture-1-1-e1719313181654.jpg 960w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture-1-1-e1719313181654-500x333.jpg 500w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture-1-1-e1719313181654-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 960px) 100vw, 960px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p>Fis Tachwedd, cynhaliodd Synnwyr Bwyd Cymru Cynhadledd Lysiau yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin i ddathlu gwaith a chyflawniadau menter <a href=\"https:\/\/foodfoundation.org.uk\/initiatives\/peas-please\">Pys Pl\u00ees<\/a> yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Sefydlwyd y fenter Pys Pl\u00ees yn 2019, a\u2019i chenhadaeth oedd ei gwneud hi\u2019n haws i bawb yn y DU fwyta mwy o lysiau. Drwy gydol y rhaglen bedair blynedd, bu Synnwyr Bwyd Cymru yn arwain gwaith Pys Pl\u00ees yng Nghymru a thros y blynyddoedd daeth \u00e2 ffermwyr, manwerthwyr a chadwyni bwytai, arlwywyr, proseswyr ac adrannau\u2019r llywodraeth at ei gilydd gyda\u2019r un nod o\u2019i gwneud yn haws i bawb fwyta llysiau. Partneriaid eraill y prosiect oedd yn ymwneud \u00e2\u2019r fenter hon yn y DU oedd <a href=\"https:\/\/foodfoundation.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/12\/Commitments-framework-2017-2022.pdf\">The Food Foundation<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.nourishscotland.org\/\">Nourish Scotland<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.nigoodfood.com\/\">Food NI<\/a> and <a href=\"https:\/\/www.nourishni.org\/\">Nourish NI<\/a>.<\/p>\n<\/div><\/div>\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p>Nod y rhaglen arloesol oedd yn canolbwyntio\u2019n benodol ar lysiau, oedd annog diwydiant a\u2019r llywodraeth i ymrwymo i wella argaeledd, derbynioldeb (gan gynnwys cyfleustra), fforddiadwyedd ac ansawdd y llysiau sydd ar gael mewn siopau, ysgolion, bwytai a thu hwnt, ac yn ei dro, ysgogi\u2019r cyhoedd yn y DU i fwyta mwy o lysiau, yn enwedig plant a\u2019r rhai ar incwm isel.<\/p>\n\n\n\n<p>Ers lansio\u2019r prosiect Pys Pl\u00ees bedair blynedd yn \u00f4l, mae <strong>1.1 biliwn o ddognau ychwanegol o lysiau<\/strong> wedi\u2019u gwerthu neu eu gweini ac fe wnaeth <strong>110 o sefydliadau addunedu<\/strong> i chwarae eu rhan yn y broses o helpu pawb yn y DU i fwyta dogn ychwanegol o lysiau bob dydd. Gelwir yr addunedau hyn yn <a href=\"https:\/\/foodfoundation.org.uk\/what-is-a-veg-city\/veg-pledges\/\">Addunedau Llysiau<\/a> ac yng Nghymru, Synnwyr Bwyd Cymru oedd yn gyfrifol am reoli 8 <strong>addunedwr cenedlaethol<\/strong>, <strong>24 o addunedau lleol <\/strong> drwy Bwyd Caerdydd a <strong>25 o addunedwyr Dinas Llysiau<\/strong> mewn partneriaeth \u00e2 Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Llwyddodd <strong>wyth o fanwerthwyr<\/strong> i ychwanegu gwerth at y cynllun Cychwyn Iach ledled Cymru a\u2019r DU hefyd, a chafodd <strong>22 o bobl eu recriwtio\u2019n Hyrwyddwyr Llysiau<\/strong>, gan weithio fel asiantau newid unigol yn eu cymuned leol a helpu i ysgogi\u2019r newidiadau enfawr sydd eu hangen i gyrraedd y nod o gael pawb i fwyta mwy o lysiau.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:25%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"260\" height=\"192\" src=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/peasplease.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-446\"\/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n<p>Yn 2021, mewn ymgais i gynyddu\u2019r llysiau a gynhyrchir yn lleol, rhoddodd <a href=\"https:\/\/www.farmgarden.org.uk\/your-area\/wales\">Synnwyr Bwyd Cymru<\/a> ynghyd \u00e2\u2019n partneriaid, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, bump o grantiau <strong>Pys Pl\u00ees<\/strong> gwerth rhwng \u00a32500 a \u00a35000 i gynorthwyo busnesau bach sy\u2019n cynhyrchu cynnyrch garddwriaethol bwytadwy sy\u2019n gweithredu yng Nghymru. Dangosodd yr <a href=\"https:\/\/www.foodsensewales.org.uk\/app\/uploads\/2022\/03\/FSW-Business-Support-Grants-Pilot-21-Final.pdf\"><strong>adroddiad dilynol<\/strong><\/a> y gallai buddsoddiad ar raddfa fach gael effaith sylweddol a chadarnhaol ar fusnesau garddwriaethol, gyda chynnydd o 75% ar gyfartaledd yng ngwerthiant llysiau.<\/p>\n\n<p>Ac yn ddiweddarach yn 2022, fel rhan o adduned y cwmni o Sir G\u00e2r, Castell Howell i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol, bu Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio gyda\u2019r cyfanwerthwr i ddatblygu cynllun peilot i ymchwilio i\u2019r hyn fyddai angen ei wneud yn ymarferol i roi llysiau gan gynhyrchwyr amaethecolegol o Gymru ar blatiau plant ysgol Cymru. Arweiniodd hyn at gyhoeddi <a href=\"https:\/\/www.foodsensewales.org.uk\/app\/uploads\/2023\/01\/CourgetteReport_Eng.pdf\">adroddiad<\/a> arall a oedd yn nodi bod prydau ysgol yn gyfle i greu marchnad ddiogel i gynhyrchwyr llysiau amaethecolegol a sut y gellir eu defnyddio fel y prif ddull o fuddsoddi mewn cadwyni cyflenwi llysiau yng Nghymru. Mae <a href=\"https:\/\/www.foodsensewales.org.uk\/good-food-movement\/pilot-project-welsh-veg-in-schools\/\">ail gam y cynllun peilot<\/a> gyda chymorth cyllid Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru bellach yn ychwanegu at ganfyddiadau\u2019r \u2018Cynllun Peilot Courgettes\u2019 gwreiddiol, ac yn edrych eto ar geisio cynyddu cyfanswm y llysiau lleol sy\u2019n mynd i ysgolion.<\/p>\n\n<p>Nodwyd Pys Pl\u00ees hefyd fel rhaglen yng nghynllun cyflawni <a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2022-03\/healthy-weight-healthy-wales-2022-to-2024-delivery-plan_0.pdf\">22-24 Pwysau Iach Cymru Iach<\/a> o dan Faes Blaenoriaeth Cenedlaethol 1, sy\u2019n llywio\u2019r amgylchedd bwyd a diod tuag at opsiynau cynaliadwy ac iachach. Ei nod yw sicrhau bod ein hamgylchedd bwyd wedi\u2019i dargedu mwy tuag at opsiynau iachach i wneud y dewis iach yn ddewis hawdd.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:25%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"712\" height=\"479\" src=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture-102.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-442\" srcset=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture-102.jpg 712w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture-102-500x336.jpg 500w\" sizes=\"auto, (max-width: 712px) 100vw, 712px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p>\u201cWrth i\u2019r rhaglen Pys Pl\u00ees ddirwyn i ben, roedd Cynhadledd Lysiau Cymru yn gyfle pwysig iawn i ddiolch i bawb a fu\u2019n rhan o Pys Pl\u00ees hyd yma \u2013 addunedwyr, cefnogwyr, hyrwyddwyr llysiau a buddiolwyr \u2013 ac i edrych ymlaen at sut y gallwn barhau i gydweithio ar y materion hyn yn sgil newidiadau heriol i\u2019r rhaglen,\u201d meddai Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cGwyddom nad yw pobl yn bwyta digon o lysiau yn y DU a datblygwyd Pys Pl\u00ees fel menter bartneriaeth i atgoffa pobl bod llysiau yn dda i ni a bod angen i ni fwyta mwy ohonynt. Dengys <a href=\"https:\/\/www.shrn.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/PrSHRN-2022-23-national-report-English.pdf\">ystadegau<\/a> diweddar a gyhoeddwyd gan <a href=\"https:\/\/www.shrn.org.uk\/\">Rwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion <\/a> mai dim ond 37% o blant blynyddoedd 3 \u2013 6 (7-11 oed) a arolygwyd sy\u2019n bwyta o leiaf 1 dogn y dydd; mae merched yn llawer mwy tebygol o fwyta llysiau na bechgyn a bod dysgwyr o gartrefi incwm uwch yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bwyta llysiau bob dydd na\u2019r rheini mewn cartrefi incwm isel.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cNod Pys Pl\u00ees oedd gweld pobl yn bwyta mwy o lysiau; creu newid i\u2019r system fwyd a sefydlu model llwyddiannus i bobl allu lleisio barn,\u201d meddai Katie. \u201cYn ystod y digwyddiad cawsom ddathlu effaith Pys Pl\u00ees yng Nghymru, ar lefel unigol ac yn genedlaethol ar draws y DU, ac roedd yn fraint cydnabod cyfraniad cymuned Pys Pl\u00ees Cymru i newid y ffordd rydym yn meddwl am lysiau. Ond mae angen mwy o frys gan y Llywodraeth hefyd. Mae bwyta llysiau yn hanfodol i\u2019n hiechyd \u2013 ac er gwaethaf ein hymdrechion gorau ar y cyd, mae\u2019r defnydd o lysiau yn dal i ostwng. Dros y 4 blynedd diwethaf mae cyfran y llysiau yn ein basgedi siopa wedi gostwng o 7.2% pan lansiwyd Pys Pl\u00ees (Kantar 2017) i 6.8%. I fod yn unol \u00e2 Chanllaw Bwyta\u2019n Iach y llywodraeth, dylai 20% o\u2019r fasged siopa fod yn lysiau.\u201d<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n\n<p>Yn ystod y Gynhdaledd Lysiau, amlygodd Synnwyr Bwyd Cymru rai o\u2019r meysydd sydd wedi creu effaith, gan gynnwys y rhaglen hyrwyddwyr Llysiau; sut y llwyddodd cystadleuaeth hysbysebu Pys Pl\u00ees i greu Nerth Llysiau ac ymgyrch hysbysebu llysiau gwerth miliynau; cymunedau yn cymryd camau gweithredu ar Lysiau drwy\u2019r Dinasoedd Llysiau; grantiau bach sydd wedi cael effaith fawr yn ogystal ag addunedau Pys Pl\u00ees.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p>Cymerodd Llinos Hallgarth, un o Hyrwyddwyr Llysiau Cymru ran yn y gynhadledd gan s\u00f4n am ei phrofiad o fod yn rhan o\u2019r rhaglen. \u201cFel un o Hyrwyddwyr Llysiau Pys Pl\u00ees, roeddwn yn ddigon ffodus i gael swm bach o arian drwy\u2019r cynllun grantiau bach a oedd yn ein galluogi i godi ymwybyddiaeth o\u2019r prosiect drwy brosiect cymunedol ymarferol yn ardal Llandysul,\u201d meddai Llinos. \u201cEr mai dim ond swm bach o arian ydoedd, cafodd effaith fawr, gan greu gwaddol i adeiladu arno y flwyddyn ganlynol.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMewn cydweithrediad ag Yr Ardd, prosiect tyfu a gardd gymunedol rwy\u2019n rhan ohono, fe wnaethom lwyddo i dyfu cynnyrch, ei gynaeafu a gwneud picl a jam ynghyd \u00e2 chadwoli\u2019r bwyd dros ben nad oeddem wedi gallu ei fwyta,\u201d ychwanegodd Llinos. \u201cYn ddiddorol i mi, fel swyddog iaith menter iaith leol \u2018Cered\u2019, roedd yn ffordd i ni gysylltu hefyd \u00e2\u2019n treftadaeth a\u2019n diwylliant lleol drwy gasglu geiriau a therminoleg garddio, planhigion a choginio yn y Gymraeg, gwneud cofnod ohonyn nhw a sicrhau na fyddwn yn anghofio\u2019r geiriau o ganlyniad i newidiadau mewn patrymau a defnydd o\u2019r iaith.\u201d<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:25%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"845\" height=\"562\" src=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture-123.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-440\" srcset=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture-123.jpg 845w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture-123-500x333.jpg 500w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture-123-768x511.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 845px) 100vw, 845px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:25%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"904\" height=\"600\" src=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture-1234.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-438\" srcset=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture-1234.jpg 904w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture-1234-500x332.jpg 500w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture-1234-768x510.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 904px) 100vw, 904px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p>Un o banelwyr eraill y Gynhadledd Lysiau oedd Edward Morgan, Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a Rheolwr Hyfforddiant Bwydydd Castell Howell. Cymerodd ran mewn sgwrs a oedd yn edrych ar addunedau Pys Pl\u00ees Castell Howell. \u201cDrwy gymryd rhan yn Pys Pl\u00ees daeth Castell Howell yn ymwybodol o\u2019i gyfrifoldebau i helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 materion deietegol,\u201d meddai Edward Morgan. \u201cRydym yn cyflenwi bwyd i tua 1100 o ysgolion ac mae\u2019n hanfodol ein bod ni\u2019n helpu i ddarparu mwy o lysiau ar gyfer y prydau bwyd a\u2019r fwydlen, ac mae gweithio gyda\u2019n cadwyni cyflenwi yn hanfodol i gyflawni\u2019r nodau hyn.\u201d<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n\n<p>Wrth i\u2019r rhaglen Pys Pl\u00ees ddirwyn i ben, bydd Synnwyr Bwyd Cymru yn parhau i ychwanegu at ei llwyddiant drwy weithio gydag eraill yn y gymuned llysiau a garddwriaeth \u2013 gan eirioli dros fuddsoddiad gwerth chweil mewn garddwriaeth, creu achos er budd iechyd y cyhoedd a gweithio ar atebion drwy raglenni gwaith newydd, megis <a href=\"https:\/\/www.foodsensewales.org.uk\/good-food-movement\/bridging-the-gap\/\">Pontio\u2019r Bwlch. <\/a> Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn parhau i weithio ar y prosiect Llysiau o Gymru mewn Ysgolion hefyd, ac mewn cydweithrediad \u00e2 phartneriaid Pys Pl\u00ees y DU, mae\u2019r gwaith o gynllunio prosiect newydd yn seiliedig ar lysiau bellach ar y gweill.<\/p>\n\n<p>Dyma fideo sy\u2019n crynhoi\u2019r digwyddiad:<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Peas Please FINAL w captions v2\" width=\"640\" height=\"360\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/VG0TtKhaRWc?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fis Tachwedd, cynhaliodd Synnwyr Bwyd Cymru Cynhadledd Lysiau yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin i ddathlu gwaith a chyflawniadau menter Pys Pl\u00ees yng Nghymru. Sefydlwyd y fenter Pys Pl\u00ees yn 2019, a\u2019i chenhadaeth oedd ei gwneud hi\u2019n haws i bawb yn y DU fwyta mwy o lysiau. Drwy gydol y rhaglen<a class=\"moretag\" \n\thref=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/\">&#8230;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1037,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_price":"","_stock":"","_tribe_ticket_header":"","_tribe_default_ticket_provider":"","_tribe_ticket_capacity":"0","_ticket_start_date":"","_ticket_end_date":"","_tribe_ticket_show_description":"","_tribe_ticket_show_not_going":false,"_tribe_ticket_use_global_stock":"","_tribe_ticket_global_stock_level":"","_global_stock_mode":"","_global_stock_cap":"","_tribe_rsvp_for_event":"","_tribe_ticket_going_count":"","_tribe_ticket_not_going_count":"","_tribe_tickets_list":"[]","_tribe_ticket_has_attendee_info_fields":false,"footnotes":""},"categories":[34],"tags":[],"class_list":["post-1020","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Dathlu cyflawniadau Pys Pl\u00ees yng Nghymru - Bwyd Sir G\u00e2r Food<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Dathlu cyflawniadau Pys Pl\u00ees yng Nghymru - Bwyd Sir G\u00e2r Food\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Fis Tachwedd, cynhaliodd Synnwyr Bwyd Cymru Cynhadledd Lysiau yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin i ddathlu gwaith a chyflawniadau menter Pys Pl\u00ees yng Nghymru. Sefydlwyd y fenter Pys Pl\u00ees yn 2019, a\u2019i chenhadaeth oedd ei gwneud hi\u2019n haws i bawb yn y DU fwyta mwy o lysiau. Drwy gydol y rhaglen...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Bwyd Sir G\u00e2r Food\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-06-18T13:02:55+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-07-02T13:38:17+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/2023_11_09_FSW_peas_please_2186-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"daveconstable\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"daveconstable\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"daveconstable\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/184913fcb2817d0202df3ea382b331df\"},\"headline\":\"Dathlu cyflawniadau Pys Pl\u00ees yng Nghymru\",\"datePublished\":\"2024-06-18T13:02:55+00:00\",\"dateModified\":\"2024-07-02T13:38:17+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\\\/\"},\"wordCount\":1401,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/07\\\/2023_11_09_FSW_peas_please_2186-scaled.jpg\",\"articleSection\":[\"Newyddion\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\\\/\",\"name\":\"Dathlu cyflawniadau Pys Pl\u00ees yng Nghymru - Bwyd Sir G\u00e2r Food\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/07\\\/2023_11_09_FSW_peas_please_2186-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2024-06-18T13:02:55+00:00\",\"dateModified\":\"2024-07-02T13:38:17+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/184913fcb2817d0202df3ea382b331df\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/07\\\/2023_11_09_FSW_peas_please_2186-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/07\\\/2023_11_09_FSW_peas_please_2186-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1707,\"caption\":\"2023 11 09 Food Sense Wales\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Dathlu cyflawniadau Pys Pl\u00ees yng Nghymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Bwyd Sir G\u00e2r Food\",\"description\":\"Driving healthy and sustainable food in Carmarthenshire\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/184913fcb2817d0202df3ea382b331df\",\"name\":\"daveconstable\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/1fea64a4d299b78ef514233bf14abcd1061beeeecaec0de7b61b9ab5d7a99ada?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/1fea64a4d299b78ef514233bf14abcd1061beeeecaec0de7b61b9ab5d7a99ada?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/1fea64a4d299b78ef514233bf14abcd1061beeeecaec0de7b61b9ab5d7a99ada?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"daveconstable\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\"],\"url\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/author\\\/daveconstable\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Dathlu cyflawniadau Pys Pl\u00ees yng Nghymru - Bwyd Sir G\u00e2r Food","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Dathlu cyflawniadau Pys Pl\u00ees yng Nghymru - Bwyd Sir G\u00e2r Food","og_description":"Fis Tachwedd, cynhaliodd Synnwyr Bwyd Cymru Cynhadledd Lysiau yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin i ddathlu gwaith a chyflawniadau menter Pys Pl\u00ees yng Nghymru. Sefydlwyd y fenter Pys Pl\u00ees yn 2019, a\u2019i chenhadaeth oedd ei gwneud hi\u2019n haws i bawb yn y DU fwyta mwy o lysiau. Drwy gydol y rhaglen...","og_url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/","og_site_name":"Bwyd Sir G\u00e2r Food","article_published_time":"2024-06-18T13:02:55+00:00","article_modified_time":"2024-07-02T13:38:17+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/2023_11_09_FSW_peas_please_2186-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"daveconstable","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"daveconstable","Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/"},"author":{"name":"daveconstable","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/#\/schema\/person\/184913fcb2817d0202df3ea382b331df"},"headline":"Dathlu cyflawniadau Pys Pl\u00ees yng Nghymru","datePublished":"2024-06-18T13:02:55+00:00","dateModified":"2024-07-02T13:38:17+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/"},"wordCount":1401,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/2023_11_09_FSW_peas_please_2186-scaled.jpg","articleSection":["Newyddion"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/","url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/","name":"Dathlu cyflawniadau Pys Pl\u00ees yng Nghymru - Bwyd Sir G\u00e2r Food","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/2023_11_09_FSW_peas_please_2186-scaled.jpg","datePublished":"2024-06-18T13:02:55+00:00","dateModified":"2024-07-02T13:38:17+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/#\/schema\/person\/184913fcb2817d0202df3ea382b331df"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/2023_11_09_FSW_peas_please_2186-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/2023_11_09_FSW_peas_please_2186-scaled.jpg","width":2560,"height":1707,"caption":"2023 11 09 Food Sense Wales"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/celebrating-the-achievements-of-peas-please-in-wales\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Dathlu cyflawniadau Pys Pl\u00ees yng Nghymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/","name":"Bwyd Sir G\u00e2r Food","description":"Driving healthy and sustainable food in Carmarthenshire","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/#\/schema\/person\/184913fcb2817d0202df3ea382b331df","name":"daveconstable","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1fea64a4d299b78ef514233bf14abcd1061beeeecaec0de7b61b9ab5d7a99ada?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1fea64a4d299b78ef514233bf14abcd1061beeeecaec0de7b61b9ab5d7a99ada?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1fea64a4d299b78ef514233bf14abcd1061beeeecaec0de7b61b9ab5d7a99ada?s=96&d=mm&r=g","caption":"daveconstable"},"sameAs":["https:\/\/www.bwydsirgarfood.org"],"url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/author\/daveconstable\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1020","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1020"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1020\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1024,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1020\/revisions\/1024"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1037"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1020"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1020"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1020"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}