{"id":1012,"date":"2024-06-18T13:10:58","date_gmt":"2024-06-18T13:10:58","guid":{"rendered":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/welsh-veg-in-schools\/"},"modified":"2024-07-02T14:04:37","modified_gmt":"2024-07-02T14:04:37","slug":"welsh-veg-in-schools","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/","title":{"rendered":"Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Bwyd Sir G\u00e2r Food yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion &#8211; menter a gydlynir gan <a href=\"https:\/\/www.foodsensewales.org.uk\/\">Synnwyr Bwyd Cymru<\/a> sy\u2019n anelu at gynnwys mwy o lysiau organig wedi\u2019u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru.<\/p>\n\n<p>Gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys <a href=\"https:\/\/www.castellhowellfoods.co.uk\/\">Castell Howell<\/a>, adran <a href=\"https:\/\/www.wales.lantra.co.uk\/farming-connect-agriculture-horticulture\">Garddwriaeth Cyswllt Ffermio<\/a> a thyfwyr bwyd brwdfrydig hefyd, mae\u2019r prosiect <strong>Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru<\/strong> yn helpu i gynnwys mwy o lysiau organig sydd wedi\u2019u tyfu\u2019n lleol mewn cinio ysgol.<\/p>\n\n<p>Mae <strong>Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru<\/strong> yn ceisio ailgynllunio cadwyni cyflenwi i\u2019w gwneud yn fwy teg ac yn fwy cadarn. Mae\u2019n ychwanegu hefyd at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cynnig pryd ysgol am ddim a bod y bwyd sy\u2019n cael ei ddefnyddio i goginio\u2019r pryd hwnnw yn dod gan gyflenwyr lleol, pan fo hynny\u2019n bosibl. Gan mai dim ond oddeutu chwarter dogn llysiau y pen o\u2019r boblogaeth sy\u2019n cael ei gynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd, mae gan <strong>Llysiau o Gymru<\/strong> ar gyfer Ysgolion Cymru y gallu i ddatblygu\u2019r farchnad er mwyn helpu i wireddu\u2019r ymrwymiad hwn.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile is-image-fill\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\" style=\"background-image:url(https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/20230809_ADP_7325-1000x1500.jpg);background-position:50% 50%\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"1500\" src=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/20230809_ADP_7325-1000x1500.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1038 size-full\" srcset=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/20230809_ADP_7325-1000x1500.jpg 1000w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/20230809_ADP_7325-333x500.jpg 333w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/20230809_ADP_7325-768x1152.jpg 768w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/20230809_ADP_7325-1024x1536.jpg 1024w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/20230809_ADP_7325-1365x2048.jpg 1365w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/20230809_ADP_7325-scaled.jpg 1707w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p>Dechreuodd Synnwyr Bwyd Cymru ymchwilio i\u2019r broses o brynu llysiau wedi\u2019u tyfu\u2019n lleol drwy\u2019r <a href=\"https:\/\/www.foodsensewales.org.uk\/app\/uploads\/2023\/01\/CourgetteReport_Eng.pdf\">\u2018Cynllun Peilot Courgettes\u2019<\/a> \u2013 sef cynllun peilot a oedd yn cynnwys un tyfwr bwyd ac un cyfanwerthwr a lwyddodd i ddosbarthu bron i 1 tunnell o courgettes i ysgolion cynradd Caerdydd yn ystod rhaglen <a href=\"https:\/\/www.wlga.wales\/food-and-fun-school-holiday-enrichment-programme\">Bwyd a Hwyl<\/a> haf 2022. <a href=\"https:\/\/foodcardiff.com\/\">Bwyd Caerdydd<\/a>, sef partneriaeth bwyd lleol y brifddinas, oedd yn hyrwyddo\u2019r cynllun peilot, gan gynorthwyo i ddod \u00e2\u2019r holl bartneriaid ynghyd, gan gynnwys Blas Gwent, Arlwyo Addysg Cyngor Caerdydd ac adran deieteg iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro a Castell Howell.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2023, gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmn\u00efau Lleol Llywodraeth Cymru, datblygodd y prosiect caffael hwn i fod yn gam cyntaf <strong>Llysiau o Gymru<\/strong> ar gyfer Ysgolion Cymru gan weithio gyda thri thyfwr bwyd mewn tair ardal awdurdod lleol a gyda chefnogaeth cydlynwyr y partneriaethau bwyd lleol yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy. Mae\u2019r prosiect hefyd wedi cael cymorth gan Gyngor Sir Fynwy drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.<\/p>\n<\/div><\/div>\n\n<p>Yn ystod Gwanwyn 2024, cafodd Synnwyr Bwyd Cymru arian ychwanegol gan Pontio\u2019r Bwlch \u2013 rhaglen a arweinir gan <a href=\"https:\/\/www.sustainweb.org\/\">Sustain<\/a>, <a href=\"https:\/\/growingcommunities.org\/\">Growing Communities<\/a> ac <a href=\"https:\/\/www.alexandrarose.org.uk\/\">Elusen Alexandra Rose<\/a> \u2013 i ehangu\u2019r gwaith ymhellach ac i greu rhwydwaith ehangach byth o arbenigedd a chymorth. Bydd y cam hwn o ymchwil gweithredol yn gweithio gyda mwy o dyfwyr bwyd ac awdurdodau lleol; yn ymchwilio sut i bontio\u2019r bwlch rhwng costau cynnyrch confensiynol a llysiau wedi\u2019u tyfu\u2019n gynaliadwy yng Nghymru; a phrofi sawl dull i ganfod sut beth yw \u2018cynllun buddsoddi cynaliadwy\u2019. Y nod yw datblygu model y gellir ei ymestyn ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.<\/p>\n\n<p>Drwy gefnogi ffermio organig amaeth-ecolegol, mae\u2019r prosiect hwn yn creu ffrwd incwm newydd neu allweddol amgen i dyfwyr bwyd ac i ffermwyr, yn ogystal \u00e2 chreu cyfleoedd i blant gysylltu \u00e2 natur a ffermio drwy ymweld \u00e2 thyfwyr bwyd lleol.<\/p>\n\n<p>\u201cPrif nod <strong>Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru<\/strong> yw sicrhau bod llysiau lleol wedi\u2019u cynhyrchu\u2019n gynaliadwy yn cael eu defnyddio mewn ysgolion i ddarparu maeth i\u2019r plant drwy brydau ysgol \u2013 y mwyaf o gynnydd y byddwn yn ei wneud, y mwyaf o fanteision y gallwn eu darparu iddyn nhw,\u201d meddai Katie Palmer, un o reolwyr Synnwyr Bwyd Cymru.<\/p>\n\n<p>\u201cNid ydym yn cynhyrchu digon o lysiau yng Nghymru ac mae angen i ni allu creu ein cyflenwad ein hunain er budd cymunedau lleol ac er mwyn lleihau ein dibyniaeth ar fewnforion drwy gysylltu tyfwyr bwyd lleol \u00e2 chyfanwerthwyr lleol a chreu cysylltiadau sy\u2019n helpu busnesau i ffynnu.<\/p>\n\n<p>\u201cRydym wedi wynebu nifer o heriau technegol, strwythurol a heriau\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r tywydd yn ystod pob cam o\u2019r cynllun peilot ond roedd creu cysylltiadau ar draws y gadwyn gyflenwi gyda rhanddeiliaid a defnyddio eu harbenigedd ym maes garddwriaeth yn allweddol,\u201d meddai Katie Palmer. \u201cRoedd hynny\u2019n amrywio o ganfod gofynion ceginau ysgol neu benderfynu moron o ba faint y dylid eu tyfu, i ddatblygu cynlluniau achredu a chyfrifo\u2019r logisteg, cyflenwad a datblygu\u2019r cynnyrch \u2013 roedd gennym lawer o waith i\u2019w wneud ond mae\u2019r holl bartneriaid wedi buddsoddi\u2019n helaeth yn y gwaith ac yn benderfynol o weld mwy o fwyd sydd wedi\u2019i gynhyrchu\u2019n lleol yn cael ei weini ar blatiau\u2019r cyhoedd yng Nghymru.\u201d<\/p>\n\n<p>Meddai Edward Morgan o Castell Howell: \u201cFel un o\u2019r dolenni cyswllt yn y gadwyn gyflenwi, rydym yn cyflenwi bwyd i oddeutu 1000 o ysgolion ledled Cymru, ac yn cydnabod pa mor bwysig yw ailstrwythuro\u2019r ffynonellau. Mae cydweithio \u00e2 rhanddeiliaid o\u2019r un anian, ffermwyr brwdfrydig, tyfwyr bwyd a chwsmeriaid ymrwymedig yn hollbwysig i ni allu cyflawni ein nodau cyffredin, nid dim ond o ran cyflenwi llysiau wedi\u2019u tyfu yng Nghymru ond o ran darparu gwybodaeth a thrafod y risgiau a\u2019r cyfleoedd mewn ffordd gwbl dryloyw. Rydym yn falch o fod yn rhan o fenter sydd wedi datblygu o gyflenwi tunnell o courgettes yn 2022 ac rydym yn edrych ymlaen at weld hyn yn parhau ac yn datblygu i fod yn rhywbeth mawr.\u201d<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<p>Meddai Tony Little, o\u2019r Ymgynghoriaeth Ffermio Cynaliadwy: \u201cMae\u2019r prosiect hwn yn paratoi\u2019r ffordd i lawer mwy o dyfwyr bwyd gymryd rhan yn y broses o gyflenwi\u2019r farchnad caffael cyhoeddus. Mae\u2019n gyfle anhygoel i archwilio sut y gallwn sefydlu cadwyni cyflenwi sy\u2019n gweithio i bawb, yn amrywio o ddatblygu safonau cynhyrchu sy\u2019n briodol i dyfwyr organig bach i sefydlu systemau cyfathrebu a logisteg sy\u2019n galluogi tyfwyr bwyd i fanteisio ar y cyfleoedd y mae\u2019r farchnad hon yn eu cynnig.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn rhan annatod o ddatblygu cynllun peilot <strong>Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru<\/strong> ac yn rhan hanfodol o ddatblygu\u2019r sector garddwriaeth yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019r gwaith hwn yn creu llwybr i\u2019r farchnad sy\u2019n lleihau risg, sy\u2019n golygu bod modd cynllunio ymlaen llaw ac sy\u2019n cynorthwyo gyda thwf y sector gan alluogi mwy o bobl i brofi ansawdd y bwyd y gall Cymru ei gynhyrchu,\u201d meddai Sarah Gould o adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio. \u201cMae\u2019r math o gymorth rydym yn ei gynnig i dyfwyr bwyd yn golygu ein bod hefyd yn helpu i godi safonau a rhannu arfer gorau. Mae\u2019r prosiect yn un cyffrous iawn ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi hyd yn oed mwy o dyfwyr bwyd i fod yn rhan o\u2019r cynllun peilot.\u201d<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:25%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"2560\" height=\"1703\" src=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/2024_01_19_PHW_Monmouth_4042-Copy-scaled.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1040\" srcset=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/2024_01_19_PHW_Monmouth_4042-Copy-scaled.jpg 2560w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/2024_01_19_PHW_Monmouth_4042-Copy-500x333.jpg 500w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/2024_01_19_PHW_Monmouth_4042-Copy-1500x998.jpg 1500w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/2024_01_19_PHW_Monmouth_4042-Copy-768x511.jpg 768w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/2024_01_19_PHW_Monmouth_4042-Copy-1536x1022.jpg 1536w, https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/2024_01_19_PHW_Monmouth_4042-Copy-2048x1362.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n<p>Mae Hannah Gibbs o Pontio\u2019r Bwlch yn edrych ymlaen hefyd at gefnogi <strong>Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru.<\/strong> \u201cRydym yn falch o gefnogi\u2019r cynllun peilot hwn i\u2019w ddatblygu ymhellach ac i ychwanegu at y dystiolaeth o ran sut y gallwn sicrhau bod mwy o ffrwythau a llysiau cynaliadwy sy\u2019n cael eu cynhyrchu\u2019n lleol yn mynd i mewn i\u2019r gadwyn cyflenwi bwyd gyhoeddus. Mae\u2019r bartneriaeth anhygoel hon hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd gwych i ni ddysgu ar y cyd drwy\u2019r cynlluniau peilot Pontio\u2019r Bwlch mewn ysgolion eraill yn Yr Alban a Lloegr.\u201d<\/p>\n\n<p>Ychwanegodd Dr Amber Wheeler sy\u2019n arwain y gwaith ymchwil ar y camau gweithredu: \u201cAr hyn o bryd daw\u2019r rhan fwyaf o\u2019r llysiau ar gyfer Ysgolion Cymru o wlad arall ac maent wedi\u2019u rhewi fel arfer. Dengys y cynllun peilot hwn ei bod yn bosibl cynyddu faint o gynnyrch sy\u2019n cael ei dyfu yng Nghymru, a chefnogi tyfwyr bwyd a ffermwyr drwy wneud hynny, drwy ddefnyddio marchnad y ddarpariaeth Prydau Ysgol am Ddim Awdurdodau Lleol. Rydym yn mynd o nerth i nerth ac yn datblygu\u2019r systemau sydd eu hangen i ddarparu mwy o Lysiau o Gymru sy\u2019n iach a ffres mewn ysgolion a hynny tra\u2019n cefnogi systemau ffermio sy\u2019n gwella\u2019r amgylchedd yma yng Nghymru.\u201d<\/p>\n\n<p>Mae Synnwyr Bwyd Cymru eisoes yn chwilio am ffrydiau cyllido ar gyfer y dyfodol i allu datblygu\u2019r gwaith hwn ar \u00f4l mis Mawrth 2025 ac i gynnwys mwy o dyfwyr bwyd, awdurdodau lleol a chyfanwerthwyr. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect <strong>Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru<\/strong>, gallwch gysylltu \u00e2 Synnwyr Bwyd Cymru drwy e-bostio <a href=\"mailto:foodsensewales@wales.nhs.uk\">foodsensewales@wales.nhs.uk <\/a><\/p>\n\n<p>Gallwch hefyd wylio fideo sy\u2019n esbonio\u2019r prosiect yma. <\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Welsh Veg in Schools (English subtitles)\" width=\"640\" height=\"360\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/IbZ-jCW9Atg?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Bwyd Sir G\u00e2r Food yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion &#8211; menter a gydlynir gan Synnwyr Bwyd Cymru sy\u2019n anelu at gynnwys mwy o lysiau organig wedi\u2019u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru. Gan<a class=\"moretag\" \n\thref=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/\">&#8230;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":457,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_price":"","_stock":"","_tribe_ticket_header":"","_tribe_default_ticket_provider":"","_tribe_ticket_capacity":"0","_ticket_start_date":"","_ticket_end_date":"","_tribe_ticket_show_description":"","_tribe_ticket_show_not_going":false,"_tribe_ticket_use_global_stock":"","_tribe_ticket_global_stock_level":"","_global_stock_mode":"","_global_stock_cap":"","_tribe_rsvp_for_event":"","_tribe_ticket_going_count":"","_tribe_ticket_not_going_count":"","_tribe_tickets_list":"[]","_tribe_ticket_has_attendee_info_fields":false,"footnotes":""},"categories":[34],"tags":[],"class_list":["post-1012","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion - Bwyd Sir G\u00e2r Food<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion - Bwyd Sir G\u00e2r Food\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae Bwyd Sir G\u00e2r Food yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion &#8211; menter a gydlynir gan Synnwyr Bwyd Cymru sy\u2019n anelu at gynnwys mwy o lysiau organig wedi\u2019u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru. Gan...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Bwyd Sir G\u00e2r Food\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-06-18T13:10:58+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-07-02T14:04:37+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture012-e1719313273627.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"899\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"daveconstable\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"daveconstable\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/welsh-veg-in-schools\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/welsh-veg-in-schools\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"daveconstable\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/184913fcb2817d0202df3ea382b331df\"},\"headline\":\"Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion\",\"datePublished\":\"2024-06-18T13:10:58+00:00\",\"dateModified\":\"2024-07-02T14:04:37+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/welsh-veg-in-schools\\\/\"},\"wordCount\":1418,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/welsh-veg-in-schools\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/06\\\/Picture012-e1719313273627.jpg\",\"articleSection\":[\"Newyddion\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/welsh-veg-in-schools\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/welsh-veg-in-schools\\\/\",\"name\":\"Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion - Bwyd Sir G\u00e2r Food\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/welsh-veg-in-schools\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/welsh-veg-in-schools\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/06\\\/Picture012-e1719313273627.jpg\",\"datePublished\":\"2024-06-18T13:10:58+00:00\",\"dateModified\":\"2024-07-02T14:04:37+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/184913fcb2817d0202df3ea382b331df\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/welsh-veg-in-schools\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/welsh-veg-in-schools\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/welsh-veg-in-schools\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/06\\\/Picture012-e1719313273627.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/06\\\/Picture012-e1719313273627.jpg\",\"width\":899,\"height\":600},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/welsh-veg-in-schools\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Bwyd Sir G\u00e2r Food\",\"description\":\"Driving healthy and sustainable food in Carmarthenshire\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/184913fcb2817d0202df3ea382b331df\",\"name\":\"daveconstable\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/1fea64a4d299b78ef514233bf14abcd1061beeeecaec0de7b61b9ab5d7a99ada?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/1fea64a4d299b78ef514233bf14abcd1061beeeecaec0de7b61b9ab5d7a99ada?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/1fea64a4d299b78ef514233bf14abcd1061beeeecaec0de7b61b9ab5d7a99ada?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"daveconstable\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\"],\"url\":\"https:\\\/\\\/www.bwydsirgarfood.org\\\/cy\\\/author\\\/daveconstable\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion - Bwyd Sir G\u00e2r Food","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion - Bwyd Sir G\u00e2r Food","og_description":"Mae Bwyd Sir G\u00e2r Food yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion &#8211; menter a gydlynir gan Synnwyr Bwyd Cymru sy\u2019n anelu at gynnwys mwy o lysiau organig wedi\u2019u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru. Gan...","og_url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/","og_site_name":"Bwyd Sir G\u00e2r Food","article_published_time":"2024-06-18T13:10:58+00:00","article_modified_time":"2024-07-02T14:04:37+00:00","og_image":[{"width":899,"height":600,"url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture012-e1719313273627.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"daveconstable","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"daveconstable","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/"},"author":{"name":"daveconstable","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/#\/schema\/person\/184913fcb2817d0202df3ea382b331df"},"headline":"Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion","datePublished":"2024-06-18T13:10:58+00:00","dateModified":"2024-07-02T14:04:37+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/"},"wordCount":1418,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture012-e1719313273627.jpg","articleSection":["Newyddion"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/","url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/","name":"Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion - Bwyd Sir G\u00e2r Food","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture012-e1719313273627.jpg","datePublished":"2024-06-18T13:10:58+00:00","dateModified":"2024-07-02T14:04:37+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/#\/schema\/person\/184913fcb2817d0202df3ea382b331df"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture012-e1719313273627.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Picture012-e1719313273627.jpg","width":899,"height":600},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/welsh-veg-in-schools\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/","name":"Bwyd Sir G\u00e2r Food","description":"Driving healthy and sustainable food in Carmarthenshire","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/#\/schema\/person\/184913fcb2817d0202df3ea382b331df","name":"daveconstable","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1fea64a4d299b78ef514233bf14abcd1061beeeecaec0de7b61b9ab5d7a99ada?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1fea64a4d299b78ef514233bf14abcd1061beeeecaec0de7b61b9ab5d7a99ada?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1fea64a4d299b78ef514233bf14abcd1061beeeecaec0de7b61b9ab5d7a99ada?s=96&d=mm&r=g","caption":"daveconstable"},"sameAs":["https:\/\/www.bwydsirgarfood.org"],"url":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/author\/daveconstable\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1012","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1012"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1012\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1045,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1012\/revisions\/1045"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/457"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1012"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1012"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bwydsirgarfood.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1012"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}